Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to prydain fawr homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
spacer2008 datganiad spacer
spacer2007 datganiad spacer
spacer2006 datganiad spacer
spacer2005 datganiad spacer

24 MEHEFIN 2008
DATGANIAD NEWYDDION: 10719

DANGOS Y FFORDD YMLAEN I GOEDWIGAETH YN EWROP –
CYMRU’N DATGAN EI HACHOS


Mae glasbrint ar gyfer dyfodol coedwigaeth ar draws Ewrop wedi cael ei gyflwyno i adran rymus iawn Amaethyddiaeth a Materion Gwledig yr Undeb Ewropeaidd gan ddirprwyaeth ryngwladol o Gymru.
Roedd Robinwood, prosiect Ewropeaidd Comisiwn Coedwigaeth Cymru sydd â’r nod o roi dyfodol newydd i Ewrop wledig, wedi chwarae rôl allweddol wrth lunio argymhellion ar gyfer y sector yn ei adroddiad pum cenedl terfynol.

Cyflwynodd tîm o Aberystwyth y casgliadau i Daniele Bianchi, uwch aelod o gabinet saith o ran nifer, y Comisiynydd Mariann Fischer Boel, gyda chyfrifoldeb dros goedwigaeth mewn cynhadledd ryngwladol yng Ngenoa.

Cymerom y cyfle i esbonio rôl hanfodol coedwigaeth o ran cynorthwyo gydag adfywiad gwledig, ar sail y gwaith a wnaed gan ein prosiect tair blynedd,” meddai arweinydd y ddirprwyaeth, Paul Finch.

Astudiodd y partneriaid prosiect - Cymru, Yr Eidal, Yr Almaen, Slofacia a Sbaen - faterion allweddol rheoli coedwigaeth, ynni coed a hydroleg, gan nodi mesurau a all gynorthwyo coedwigaeth Ewrop i chwarae rôl hyd yn oed yn fwy yn yr economi wledig.

Mae tîm Robinwood yn tynnu sylw at yr angen am agwedd gyfannol sy’n cynnwys aml fanteision coedwigaeth - cynhyrchu coed a’r gadwyn coed, hamdden, tanwydd o goed, lliniaru llifogydd a’r newid yn yr hinsawdd.

“Mae cyd-drefniant a chydweithrediad ar draws y sectorau amrywiol yn hanfodol i sicrhau’r manteision mwyaf o goedwigaeth gynaliadwy,” meddai Mr Finch wrth arbenigwr coedwigaeth y Comisiwn Ewropeaidd.

Dylid creu gwell cysylltiadau ar lefelau UE/gwladwriaeth/rhanbarthol a lleol, o’r brig i lawr ac o’r gwaelod i fyny.

Dylid sicrhau mwy o gymorth ariannol i berchnogion coetir preifat, datblygu marchnadoedd newydd ar gyfer cynnyrch coetiroedd, a rhoi ar waith gwell systemau gwerthuso a monitro.

Wrth sôn am danwydd coed, mae Adroddiad Terfynol Robinwood yn galw am lunio cynlluniau strategol gan lywodraethau rhanbarthol, i nodi’r holl danwydd coed posibl sydd ar gael.

Mae angen cyfranogiad cyhoeddus/preifat i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd cadwyni cyflenwi coed, a ddylai ystyried y cyflenwad a’r galw, nodweddion tir, isadeileddau, a materion economaidd ac ariannol.

Mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod y dylid ystyried materion hydroddaeareg bob amser fel rhan integredig o reoli coedwig a materion defnydd tir.

Gall coed a choetiroedd chwarae rôl allweddol mewn atal llithriadau afon a thirlithriadau, a gellir defnyddio coed yn ddull ‘peirianneg feddal’ wrth gynnal ac adfer, fel rhan o reoli integredig ac amlswyddogaethol ar goedwigoedd.

Dylai systemau rheoli coedwigaeth dalu sylw arbennig i’r effeithiau ar briddoedd, gan leihau eu heffaith trwy ddefnyddio technolegau newydd ac arferion gorau.

Mae copi llawn o’r adroddiad terfynol ar gael ar wefan Robinwood: www.robin-wood.it neu trwy gysylltu â Robinwood, Cymru: Kim Burnham – Ffôn: 08456 040845, e-bost – kim.burnham@forestry.gsi.gov.uk.

Cyswllt: Kim Burnham, Robinwood, Rheolwr rhaglen Cymru Ffôn: 0845 6040845,

Nodyn y golygydd

Mae Robinwood wedi rhoi’r cyfle cyntaf i Gymru fod yn bartner yn un o brosiectau Gweithredu Fframwaith Rhanbarthol Interreg 111c Ewrop, gyda’r bwriad o ddod â gwledydd partner at ei gilydd, gan feithrin gwaith ar draws ffiniau rhwng academyddion, busnesau preifat a’r sector gynhoeddus. Mae rhan Cymru o’r prosiect tair blynedd a hanner o hyd yn werth un filiwn Ewro i Gymru.

Mae Robinwood yn brosiect Ewropeaidd trawsffiniol, wedi’i anelu at nodi sut y gall coedwigaeth, coed a phren ledled Ewrop, chware rôl hanfodol o ran adfywio cymunedau gwledig trwy gyfleoedd busnes newydd, atal llifogydd ac ynni tanwydd coed. Gobeithir y bydd hefyd yn newid canfyddiad gwleidyddol y rôl y gall coetiroedd ei chwarae yn nyfodol cymdeithasol ac economaidd cymunedau gwledig ac adeiladu cysylltiadau newydd rhwng y gwledydd partner sy’n cymryd rhan ynddo.

Bydd Robinwood yn hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ardaloedd gwledig a goresgyn rhwystrau rhag symud ymlaen trwy greu: proses cadwyn coetiroedd – hybu tiriogaeth, marchnata – technegau newydd o ran datblygu coedwigaeth – ardystiad, newidiadau polisi, tyfu coed - gwelliannau hydroddaearyddol – modelau i atal ansefydlogrwydd a hyrwyddo lleihau risgiau coed fel ffynhonnell danwydd ar gyfer ynni – rheoli/technolegau newydd.

Defnyddir dadansoddiadau, rhannu profiadau, creu dulliau newydd, cynnal prosiectau peilot, paratoi cynlluniau gweithredu a hyrwyddo, a hyrwyddiadau i gyflawni hyn. Y canlyniadau uniongyrchol fydd: gweithdai, cyfarfodydd, astudiaethau, adroddiadau, prif gynlluniau, ymgyrchoedd hyrwyddo, digwyddiadau, mapiau, rhwydweithiau, partneriaethau, arolygon a chyfarwyddebau. Bydd gweithgareddau penodol yn cael eu cynnal trwy is-brosiectau a neilltuir trwy wahoddiad agored i dendro.

e-mail: kim.burnham@forestry.gsi.gov.uk





to DirectGov