Mae’r pedwar yn cefnogi prosiect coetir cymunedol ger Caerffili sy’n rhoi cyfleoedd newydd i bobl o bob oed fwynhau cefn gwlad – a hynny yng nghanol hen bentref glofaol.
A bydd y pedwar ohonynt yng Nghoed Gwaernau, Maesycwmer, Ddydd Llun 5 Mai am 2pm pan fydd y clwydi newydd lliwgar, sy’n ganolbwynt y prosiect, ac a grëwyd gan Mamily Sheibani, yr artist o Iran, yn cael eu hagor yn swyddogol am y tro cyntaf
Mae prosiect gwerth £90,000 Cyngor Cymuned Maesycwmer, a ariannwyd gan Cydcoed – Woods for All, rhaglen gyllido o eiddo Comisiwn Coedwigaeth Cymru a ariennir gan yr UE (Amcan Un) a Chynulliad Cymru, wedi darparu mynediad i’r coetir derw hynafol.
Gan weithio ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sy’n berchen ar y tir, mae’r cyngor cymuned wedi llwyddo i ddod â’r gymuned gyfan at ei gilydd i fynegi eu barn am ddyfodol y coetir newydd.
Yn ogystal â chwarae rhan allweddol yn nyluniad y clwydi newydd, mae pentrefwyr o bob oed wedi bod yn cynorthwyo gyda’r arolwg ystlumod, y gwaith coedyddiaeth, ffensio, adeiladu llwybrau, a chreu pwll, cylchoedd boncyffion, pwll tân a seddi.
Cynhaliwyd sesiynau gyda phlant ysgol lleol a’r ysgol arbennig i annog defnydd o’r goedwig yn ogystal â chomisiynu a gosod clwydi newydd.
“Rydym wedi ceisio annog pawb i gymryd rhan yn y gwaith, i sicrhau bod y coetir newydd hwn yn ffrwyth ymdrech gymunedol, “meddai Mrs June Rao, Cadeirydd y Cyngor Cymuned, a fydd yn agor y clwydi Ddydd Llun. I ddilyn, bydd teithiau tywys drwy’r coed, a bydd gemau gyda thema coetir ar gyfer y plant.
“Mae hwn yn brosiect gwych, ac mae wedi creu mynediad i goetir a all roi llawer iawn o fwynhad i bobl leol,” meddai Barbara Anglezarke, rheolwr rhaglen Cydcoed.
“Bydd yn darparu manteision cymdeithasol pwysig drwy hybu iechyd a lles pobl wrth iddynt fwynhau’r awyr agored a thrwy wneud i bobl leol deimlo’n falch o’u hardal. Bydd hefyd yn cynyddu bioamrywiaeth ac yn sicrhau rheolaeth gynaliadwy o goetiroedd derw brodorol sy’n rhan o hanes byw yr ardal.”
Cysylltwch â: Barbara Anglezarke – Cydcoed: Ffôn: 01874 658654
NODYN I’R GOLYGYDD
Cyngor Cymuned Maesycwmer yw’r cyngor lleol sy’n gweithio er lles yr ardal.
Cydcoed – Woods for All. Rhaglen grant gwerth £16 miliwn o eiddo Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw Cydcoed (Woods for All) sy’n gweithio dros gymunedau yn ardal Amcan Un Cymru. Roedd Cam I Cydcoed yn rhaglen gyda chronfa o £4 miliwn a fu’n rhedeg o 2001 hyd 2004. Gan ei bod mor llwyddiannus, lansiwyd rhaglen Cam II Cydcoed ar ddechrau 2003, gyda chymorth ariannol o £12 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y rhaglen hon yn rhedeg hyd 2008. Mae’n hyrwyddo coedwigoedd Cymru ar gyfer datblygu cymunedol, gan roi 100% o’r arian sydd ei angen ynghyd â chymorth i wneud gwell defnydd o goedwigoedd er mwyn creu swyddi a hybu adfywiad economaidd, cynhwysiant cymdeithasol, hamdden a chadwraeth.
Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am bolisi coedwigaeth ac mae’n gofalu am y 320,000 erw (130,000 hectar) o goedwigoedd cyhoeddus sy’n eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru.