Mae’n bosibl y bydd coetir ger Pen-y-bont ar Ogwr, a greithiwyd o ganlyniad i ddibyniaeth dyn ar lo yn y dyddiau a fu, cyn hir yn darparu egni glanach ar gyfer y cenedlaethau a ddaw.
Pan gerddodd Carl a Helen Platel i’r coetir ar Fferm Gilfach Orfydd, Glynogwr, a brynwyd ganddynt yn 2006, roedd yn lle distaw a thywyll, nad oedd wedi cael ei gyffwrdd o’r bron ers o leiaf 50 mlynedd.
Heddiw, diolch i gymorth gan gynllun grant Coetiroedd Gwell i Gymru, mae’r coetir hynafol yn cael ei adfer i’w hen ogoniant – ac mae’r coed yn cael eu cwympo yn barod ar gyfer y gweddnewidiad a allai ddarparu’r holl egni y bydd y Platels ei angen ar gyfer y tŷ a’r adeiladau ar eu fferm 236 erw.
"Roedd hi’n arfer bod yn debyg i’r Prosiect Blair Witch yma – nid oedd yna unrhyw oleuni a phrin iawn oedd y bywyd gwyllt,” meddai Carl.
“Buom yn gwneud peth gwaith teneuo i adael i fwy o olau dreiddio i lawr y goedwig, ac mae hi eisoes yn dechrau adfywio. Rydym yn barod yn denu troellwyr mawr a gweilch Marthin.”
Fel nifer o goetiroedd hynafol yng Nghymru, cafodd y coetir 44 erw ar y fferm ei dorri i lawr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gyflenwi’r coed yr oedd mawr eu hangen, ac fe’i gadawyd yn segur ers hynny.
Adeiladwyd tramffordd drwy’r coed flynyddoedd lawer yn ôl, i gludo glo i Ben-y-bont ar Ogwr, ond rhoddwyd y gorau i’r cynllun ar ôl darganfod ffawt fawr yn yr haenen lo.
Ond yn awr, diolch i’r cynllun CGG a’r Cynllun Busnes Egni Coed (WEBS) 2 – cynllun arall a reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru – mae’n bosibl y bydd y coetir yn darparu egni unwaith eto, ond mewn ffordd dra gwahanol, sy’n adlewyrchu’r byd newidiol yr ydym yn byw ynddo.
Mae Carl a Helen yn prynu boiler biomas ac, yn ogystal â bod yn hunangynhaliol drwy gynhyrchu egni o’u coed eu hunain, maent yn gobeithio y byddant ryw ddydd yn gallu darparu tanwydd i’r orsaf bŵer biomas ym Mhort Talbot.
Mae’r cynllun CGG hefyd wedi helpu i ariannu’r gwaith o blannu 2,500 o goed brodorol newydd mewn rhannau eraill o’r fferm, ac felly ni ddylai prinder coed fod yn broblem yn y dyfodol.
"Mae’n deimlad braf gwybod y byddwn yn helpu’r amgylchedd ac nid ydym yn gorfod poeni bellach bod prisiau tanwydd yn codi,” meddai Carl.
Dywedodd Carl na allai fod wedi gwireddu ei freuddwyd ar gyfer y coetir heb gymorth CGG, sydd â’r nod o helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni ei strategaeth ar gyfer coetiroedd a choed am yr 50 mlynedd nesaf.
Mae’r cynllun yn pwysleisio’r angen am reolaeth coetir o ansawdd uchel, a bu Cynlluniwr Rheoli a hyfforddwyd yn arbennig, ac a gymeradwywyd ac a gyflogwyd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn helpu Carl a Helen i baratoi cynllun ac i gyflwyno’r cais ar-lein.
Yn ychwanegol at y manteision i’r amgylchedd yn sgil adfer coetiroedd brodorol a hynafol, gallai eu cynlluniau i ddefnyddio coed i gynhyrchu egni leihau allyriannau nwyon tŷ gwydr a chyfrannu at y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
Mae’n sefyllfa ddelfrydol ym mhob ffordd, ac mae Carl, a arferai werthu faniau ar-lein i ennill bywoliaeth, cyn iddo werthu’r busnes, yn llwyr sylweddoli’r manteision.
"Rwyf yn benderfynol o ddod â’r lle hwn yn ôl i’w gyflwr gwreiddiol. Y peth cyntaf y byddaf i’n ei wneud pan fydd gennym ymwelwyr fydd mynd â nhw i weld y goedwig. Mae’r newid sydd wedi digwydd yma mewn llai na thair blynedd yn syfrdanol.
"Mae’r goedwig yn lle hollol fendigedig. Mae’n ddyddiau hapus.”
Mae llwyddiant CGG wedi arwain at gynllun arall, sef Coedwigoedd Bychain (CGG), a lansiwyd ym mis Mai 2009, ac a fydd yn cyd-redeg â’r prif gynllun.
Mae’r broses symlach hon wedi cael ei chynllunio’n arbennig ar gyfer ffermwyr a pherchenogion coetiroedd bach y mae ganddynt ddiddordeb mewn rheoli’r coedwigoedd ar eu tir.
Croesewir ceisiadau gan berchenogion nad yw eu coetiroedd yn fwy nag 20 hectar a gall hyn gynnwys plannu newydd a rheoli eu coetir presennol. Yr ardal leiaf sy’n gymwys ar gyfer grant yw 0.25 hectar
Gellir cael manylion pellach ar wefan Coetiroedd Gwell i Gymru:
http://www.forestry.gov.uk/website/forestry.nsf/byunique/infd-6j2h7x neu drwy ffonio Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar 0845 604 0845.
NODIADAU I OLYGYDDION
Coetiroedd Gwell i Gymru (CGG) yw cynllun grant Comisiwn Coedwigaeth Cymru a luniwyd i gwrdd â gweledigaeth strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer coedwigoedd a choed yng Nghymru am yr 50 mlynedd nesaf.
Datblygwyd y cynllun mewn ymgynghoriad â pherchenogion coetiroedd a’u hasiantau. Mae’n rhoi pwyslais mwy ar reolaeth coetir o ansawdd da ac mae’n cynnig grantiau a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer coetiroedd Cymru.
Mae’r cymorth grant yn awr yn seiliedig ar gynlluniau rheoli tymor hir a gymeradwywyd, a gellir eu hadolygu ar ôl cyfnod o bum mlynedd os yw’r perchennog yn dymuno gwneud cais am grant pellach.
Bydd Cynllunwyr Rheoli a hyfforddwyd yn arbennig ac a gymeradwywyd gan CCC yn helpu’r perchennog i benderfynu pa waith y mae angen ei wneud yn y coetir a sut i wneud hyn. Os yw perchennog yn dymuno bwrw ymlaen â’r gwaith, bydd y Cynlluniwr Rheoli yn paratoi cynllun rheoli ac yn cyflwyno’r cais ar-lein. Bydd CC Cymru yn talu ffi i’r Cynlluniwr Rheoli am ei waith.
PENNAWD: Teneuo’r coed
PENNAWD: Gareth Henson, Cynlluniwr Rheoli, yn archwilio’r gwaith plannu newydd