Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to prydain fawr homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
spacer2008 datganiad spacer
spacer2007 datganiad spacer
spacer2006 datganiad spacer
spacer2005 datganiad spacer

7 AWST 2008
DATGANIAD NEWYDDION: 10867

HWYL Y GOEDWIG I BLANT YN YSTOD GWYLIAU YSGOL


* Gyda lluniau eglurder-uchel yn rhad ac am ddim *
Mae plant o Sir Ddinbych a Sir y Fflint wedi bod yn cymryd amser o’u gwyliau prysur i fwynhau prynhawniau yn y goedwig fel rhan o weithgareddau “Hwyl y goedwig” dros yr haf.

Bu’r plant, rhwng pedair ac 11 oed, yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau coedwig hwyliog ym Mharc Gwledig Loggerheads sy’n cael ei redeg gan Helen John a Carolyn Threlfall, Swyddogion Addysg Comisiwn Coedwigaeth Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych.

Dechreuodd y sesiwn gyntaf â thaith gerdded o amgylch y goedwig i weld beth oedd bwyd y lindys. Dan arweiniad Carolyn, aeth y plant i ardaloedd tywyllaf a llaithaf y coetir lle ni adawyd yr un ddeilen na’r un garreg heb ei throi wrth iddynt roi ar waith eu natur chwilfrydig i hela am fwystfilod bach. Daeth y plant yn eu holau i lannerch heulog yn y coetir, gan ddefnyddio eu sgiliau creadigol i wneud porthwyr pili-pala prydferth ar gyfer eu gerddi.

Yn ogystal, mae’r plant wedi bod yn archwilio lliw ym myd natur wrth iddynt droi am y goedwig unwaith eto gyda Helen i ddarganfod palet lliwiau natur. Dysgodd y plant am bwysigrwydd lliw a chuddliw gan roi eu sgiliau creadigol ar waith wrth iddynt adeiladu cartrefi cudd moethus ar gyfer anifeiliaid tegan. Hefyd, creodd y plant falwod a phili-pala cuddliw bendigedig a fyddai’n cydweddu’r paent neu’r papur yn eu hoff ystafell gartref.

Yr unig greaduriaid ar ôl mewn angen cuddliw oedd y plant, felly pa ffordd well i orffen y sesiwn na chael y plant i wneud pen wisg cuddliw â dail y coetir, a phaeintio eu hwynebau â lliwiau mwyaf ffasiynol y coetir y tymor hwn sef gwyrdd, melyn a brown!

Dywedodd un o’r rhieni, “Mae’n ardderchog i’r plant gael hwyl, a gweithgareddau addysgol rhad ac am ddim mewn sefyllfa naturiol mor fendigedig i’w cadw’n frwdfrydig ac yn brysur dros yr haf.”

Cynhelir digwyddiadau Hwyl y Goedwig bob ddydd Llun gydol gwyliau’r haf ac mae’n hanfodol cadw lle gan mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I gadw lle, ffoniwch y ganolfan ymwelwyr yn Loggerheads ar 01352 810 614.

NODIADAU I’R GOLYGYDDION

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw’r adran o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am bolisi coedwigaeth ac sy’n edrych ar ôl y 320,000 erw (130,000 ha) o goedwigoedd cyhoeddus o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Helen John, Swyddog Addysg CC Cymru ar 0845 604 0845.

Ymholiadau’r cyfryngau at Clive Davies, Swyddog Gwybodaeth Comisiwn Coedwigaeth Cymru, ar 0845 6040845, ffôn symudol 07788 190922.

Cewch fwy o wybodaeth am goetiroedd Cymru oddi ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth, www.forestry.gov.uk

e-mail: helen.john@forestry.gsi.gov.uk





to DirectGov