Nod tudalen & Rhannu
29 IONAWR 2010 DATGANIAD NEWYDDION: 13253

Arweiniad newydd ar reoli coetiroedd i ddiogelu adar

Mae canllaw newydd i helpu rheolwyr i wella coetiroedd ar gyfer adar wedi cael ei gyhoeddi ar y cyd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, gyda chymorth Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae Woodland management for birds: a guide to managing woodland for priority birds in Wales (Rheoli coetiroedd ar gyfer adar: canllaw i reoli coetiroedd ar gyfer adar blaenoriaethol yng Nghymru) yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar sut y mae agweddau ar reoli coetiroedd yn effeithio ar adar a bywyd gwyllt arall.

Mae’r canllaw yn ymdrin yn arbennig â materion rheoli mewn perthynas â’r rhywogaethau o adar coetir yr ystyrir eu bod yn flaenoriaeth o safbwynt cadwraeth yng Nghymru, er enghraifft, telor y coed, y gwybedog brith a’r rugiar ddu.

Mae’r canllaw lliw llawn hwn, sydd wedi’i anelu at reolwyr coetir, yn cynnwys gwybodaeth am ddulliau o reoli coetiroedd llydanddail, cymysg neu gonwydd er mwyn gwella cynefin ar gyfer adar.

Ymhlith yr enghreifftiau o reolaeth lesol a nodir yn y canllaw y mae teneuo coed i adael mwy o olau i mewn ac annog twf llystyfiant isel; peidio â chael gwared â choed marw; ac ailgreu llennyrch o fewn y goedwig. Bydd hyn oll yn helpu i greu adeiledd llystyfiant mwy amrywiol, yn cynyddu nifer y pryfed y mae adar yn bwydo arnynt ac yn creu rhagor o safleoedd nythu.

Mae’r canllaw hefyd yn cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth sy’n ymdrin ag agweddau eraill ar reoli coetir, megis gofynion grant coetir ac arweiniad y Comisiwn Coedwigaeth. Mae hefyd yn cynnwys arweiniad ar agweddau cyfreithiol mewn perthynas â rhywogaethau wedi’u diogelu y mae rheoli coetir yn debyg o gael effaith arnynt.

Ystyrir bod poblogaethau adar gwyllt yn arwydd da o iechyd yr amgylchedd ehangach. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn defnyddio’r Dangosydd Adar Gwyllt i fesur iechyd amgylchedd Cymru.

Mae’r dangosydd hwn yn dangos bod poblogaethau o adar gwyllt wedi amrywio yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, gyda chynnydd o fewn rhai rhywogaethau yn cael ei gydbwyso gan leihad mewn rhywogaethau eraill.

Meddai Chris Tucker, Rheolwr Polisi Bioamrywiaeth, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, "Mae’r canllaw hwn yn arf defnyddiol i helpu rheolwyr coetir i gynnwys gofynion rhywogaethau o adar o fewn eu hamcanion rheoli coetir megis cynhyrchu coed.

"Bydd y technegau rheoli coetir nid yn unig o fudd i adar ond bydd anifeiliaid a phlanhigion eraill sy’n gwneud coetiroedd Cymru yn adnodd mor amrywiol yn elwa hefyd."

Dywedodd Dave Lamacraft, un o gyd-awduron y canllaw, o RSPB Cymru, "Mae llawer o ffactorau’n cyfrannu at y gostyngiad mewn poblogaethau o adar coetir ac mae ymchwil yn dangos fod newidiadau mewn rheolaeth goetir yn ffactor allweddol sy’n effeithio ar lawer ohonynt.

"Gall cynlluniau i hybu rheolaeth goetir bwrpasol sy’n gwella cynefinoedd wneud cyfraniad pwysig at gynyddu poblogaethau."

Cysylltwch â Jane Holloway, Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn jane.holloway@forestry.wales.gsi.gov.uk neu ffoniwch hi ar 0300 068 0075 i gael copi o’r canllaw sy’n costio £14.95 ynghyd â £3 am bacio a phostio. Neu, gallwch ei lawrlwytho’n ddi-dâl drwy’r cyswllt ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth yn http://www.forestry.gov.uk/forestry/INFD-7ZWGSA

Nodiadau i Olygyddion
Mae ffotograffau o delor y coed, y gwybedog brith a’r rugiar ddu ar gael i’w lawrlwytho’n ddi-dâl o wefan Delweddau yr RSPB. A fyddech cystal â chlicio ar yr hypergyswllt a rhoi’r enw defnyddiwr a’r cyfrinair pan anogir chi i gyrchu’r delweddau: https://www.rspb-images.com/respages/storysetsignon.aspx?key=f8e3ef6f-32a9-4b51-b626-f737b0ddfcf1 Enw defnyddiwr: RSPB, Cyfrinair: JAN2010

Woodland management for birds: a guide to managing woodland for priority birds in Wales (Rheoli coetiroedd ar gyfer adar: canllaw i reoli coetiroedd ar gyfer adar blaenoriaethol yng Nghymru). Cyhoeddwyd y canllaw hwn gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a’r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar gyda chefnogaeth Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Fe’i hysgrifennwyd gan John Dyda, Nigel Symes a Dave Lamacraft. Mae’r canllaw yn ymdrin â rhywogaethau o adar coetir sy’n cael eu hystyried yn flaenoriaethau o safbwynt cadwraeth yng Nghymru a’r materion rheoli sy’n berthnasol iddynt. Mae’n cynnwys yr adar coetir hynny a enwir yn y rhestr o Brif Rywogaethau Bioamrywiaeth yng Nghymru o dan Adran 42 o Ddeddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006, ynghyd â rhywogaethau eraill sy’n bwysig o safbwynt cadwraeth, er enghraifft, rhywogaethau bridio prin.

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am bolisi coedwigaeth ac mae’n gofalu am y 126,000 hectar (311,000 erw) o goedwigoedd cyhoeddus sy’n eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gellir cael rhagor o wybodaeth am goetiroedd Cymru yn www.forestry.gov.uk/wales. Cysylltiad i’r wasg: Mary Galliers, mary.galliers@forestry.gov.gsi.uk

Mae’r RSPB yn siarad dros adar a bywyd gwyllt ac yn mynd i’r afael â’r problemau sy’n bygwth ein hamgylchedd. Mae natur yn anhygoel – helpwch ni i’w chadw felly. Cysylltiad i’r wasg: Dana Thomas, dana.thomas@rspb.org.uk


e-mail: chris.tucker@forestry.gsi.gov.uk