Nod tudalen & Rhannu
2 CHWEFROR 2010 DATGANIAD NEWYDDION: 13279

'Bydoedd y morgrug' i dywynnu yn y tywyllwch yng Nghoed y Brenin

Bydd “planedau” o forgrug coed blewog – y pryfyn mwyaf o’i fath ym Mhrydain – yn tywynnu yn y golau gwan wrth i’r nos ddisgyn ar goedwig Coed y Brenin Ddydd Sadwrn (13 Chwefror).

Rhwng chwech ac wyth o’r gloch y nos, cewch gyfle i weld y cytser anarferol, a fydd yn cynnwys o leiaf dair sffêr, yn goleuo’r goedwig ar hyd rhai o’r llwybrau beicio a llwybrau cerdded mwyaf adnabyddus sy’n ymdroelli o ganolfan ymwelwyr Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

Syniad Alison Hayes, artist o Sir Benfro, yw’r arddangosfa hon, a elwir yn Uwchorganeb, ac mae wedi treulio misoedd yn ffilmio’r morgrug hyn, y’u gwelir yn bur anaml, yn byw eu bywyd prysur yng Nghoed y Brenin.

Mae’r goedwig hon, sydd nid nepell o Ddolgellau, yn darparu cynefin ar gyfer sawl rhywogaeth dan fygythiad, a dyma’r lleoliad mwyaf deheuol yn y DU lle mae’r morgrug coed blewog i’w cael.

Mae’r gosodwaith hwn yn rhan o ymrwymiad Comisiwn Coedwigaeth Cymru i’r Cenhedloedd Unedig, sydd wedi enwi 2010 yn Flwyddyn Bioamrywiaeth Ryngwladol.

Bydd delweddau o filiynau o’r morgrug, a enwyd yn forgrug blewog oherwydd y blew trwchus o gylch eu llygaid, ac sy’n mesur dros un centimetr o hyd, yn cael eu taflu ar y sfferau wyth troedfedd o ddiamedr a fydd yn cael eu crogi rhwng y coed ac yn ymddangos fel petaent yn arnofio yn y gofod.

“Mae’r sfferau hyn yn cynrychioli nyth y morgrug a’r blaned,” meddai Alison.  “Mae’r goedwig yn ymledu allan, yn dywyll ac eang fel bydysawd, gyda’r sêr uwchben a synau’r goedwig yn llenwi’r tywyllwch o gwmpas tra bo’r planedau prysur o forgrug yn  tywynnu oddi mewn.”

Bu’n casglu deunydd ar gyfer yr arddangosfa gyfareddol hon drwy sylwi ar gytrefi o forgrug coed blewog yng Nghoed y Brenin o fis Mai hyd fis Rhagfyr, a chafodd ei synnu gan ymddygiad y morgrug.

“Mae morgrug wedi ysbrydoli gwyddonwyr, athronwyr, artistiaid, awduron a chymdeithasegwyr i ddatblygu damcaniaethau ynghylch ymddygiad morgrug mewn perthynas â bywyd dyn.

“Mae morgrug yn gweithio gyda’i gilydd, mae ganddynt fyddinoedd, maent yn rhyfela, yn gwarchod eu tiriogaeth, yn hela, yn ffermio creaduriaid eraill, yn rhannu eu bwyd ac yn codi adeiladweithiau cymhleth iddynt eu hunain,” meddai.

Mae’r enw Uwchorganeb, teitl y gosodwaith, yn derm gwyddonol a ddefnyddir i ddisgrifio’r ffaith na all morgrug ffynnu oni bai eu bod yn rhan o gytref.

Os hoffech chi fanteisio ar y cyfle prin hwn i gael golwg agos ar fyd rhyfedd y morgrug hyn, sy’n gallu adeiladu nythod hyd at saith troedfedd o uchder, dewch i Ganolfan Ymwelwyr Coed y Brenin ar Ddydd Sadwrn, 13 Chwefror, erbyn 6pm. Bydd diodydd poeth a bwyd ar gael.

NODIADAU I OLYGYDDION

Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am bolisi coedwigaeth ac mae’n gofalu am y 126,000 hectar (311,000) erw o goedwigoedd cyhoeddus sy’n eiddo i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am goetiroedd Cymru yn www.forestry.gov.uk/wales

Mae Alison Hayes yn artist fideo/sain/gosodwaith, ac mae gweithiau blaenorol  o’i heiddo yn ymdrin â gwahanol agweddau ar wylltineb. Bydd yn aml yn gweithio gydag arbenigwyr gwyddonol ac mae wedi cofnodi delweddau o adar a phryfed yn mudo a heidio er mwyn creu gosodweithiau trawiadol sy’n ein gorfodi i feddwl am natur gofod ac amser.

Mae wedi arddangos ei gwaith yn genedlaethol a rhyngwladol ac wedi ennill nifer o wobrau pwysig.  Datblygwyd Uwchorganeb mewn cydweithrediad â Torch Theatre, Aberdaugleddyf, drwy gynllun artist preswyl cyhoeddus a gefnogir gan Sefydliad Calouste Gulbenkian.  Mae’r gosodwaith hefyd wedi derbyn cymorth grant gan Safle, asiantaeth gelf gyhoeddus sy’n cefnogi celfyddyd gyhoeddus mewn lleoliadau gwledig, a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru

I gael rhagor o wybodaeth am y gosodwaith Uwchorganeb neu am weithiau eraill gan Alison, ewch i www.alisonhayes.net neu ffoniwch hi ar 07980 706001.


e-mail: aled.thomas@forestry.gsi.gov.uk