Gallai argaeau dros dro helpu i ddatrys problemau llifogydd yng Nghymru
Gallai peirianneg ‘feddal’ ym mryniau Cymru helpu i liniaru problemau llifogydd a achosir gan newid yn yr hinsawdd. Bob blwyddyn, mae gwerth cannoedd ar filoedd o bunnau o eiddo yng Nghymru yn cael ei ddifrodi oherwydd llifogydd.
Mae’r ymchwil diweddaraf gan Robinwood, y prosiect Ewropeaidd Cymreig sy’n ymchwilio i sut y gall coed a choetiroedd ddarparu pob math o fanteision newydd, yn dangos y gall datrysiadau isel eu pris fod o gymorth mawr i drefi glan afon.
Fel rhan o raglen Interreg IIIC Comisiwn Coedwigaeth Cymru gofynnwyd i’r ymchwilwyr edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio coetiroedd afonol a gorlifdirol ar hyd llednentydd afon fel dull cynaliadwy o liniaru llifogydd.
Ac mae arbrofion mewn coetir ger y Fenni – un o’r trefi yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd yn 2007 – yn dangos y ffordd tuag at ddulliau rhad ac effeithiol o leihau’r peryglon.
“Mae coed, isdyfiant a malurion coed yn cynyddu ‘garwedd’ hydrolig y gorlifdir, ac yn arafu llif llifogydd,” meddai Kim Burnham, rheolwr prosiect Robinwood.
“Gall coed a malurion coed arafu llifoedd, a ffurfio nifer o sianeli a phyllau merddwr, sy’n cronni dŵr llif. Gall hyn arafu a lleihau maint y llifogydd pan ydynt yn eu hanterth. Mae hyn yn golygu bod llai o berygl o lifogydd i lawr yr afon, ac mae’n bosibl y gellir dibynnu llai ar amddiffynfeydd peirianegol ‘caled’ drud.”
Y cysyniad canolog yw defnyddio argaeau coed mawr – adeiladwyd pump o’r rhain ar hyd llain 500 metr o hyd ar lannau Afon Fenni gan ddefnyddio coed a gwympwyd yn lleol a malurion. Gall yr adeiladweithiau hyn atal llif yr afon heb ei rhwystro’n gyfan gwbl.
Gosodwyd recordyddion lefel dŵr uwchben ac islaw’r argaeau i fonitro llif y dŵr ac unrhyw lifogydd ac mae’r arbrofion cychwynnol yn awgrymu bod y dull cost-isel hwn o reoli’r dŵr yn gweithio.
“Mae’r rhagfynegiadau model yn dangos fod y garwedd hydrolig a grëwyd gan yr argaeau coed mawr yn nalgylch Afon Fenni wedi arafu llif y dŵr, ac wedi codi lefel y dŵr i fyny’r afon o hyd at 1.5m dros bellter o 165m,” meddai Huw Thomas o Ymchwil Coedwigaeth a fu’n gwneud yr arbrofion.
“Er ei bod yn ymddangos nad yw’r argaeau yn cael fawr o effaith ar uchder y llif yn ei anterth, cafodd y llif ei arafu o 2 i 3 munud ar gyfartaledd ym mhob argae. Mae’n werth nodi bod yr argaeau coed mawr yn gallu codi lefel y dŵr uwchben lefel y glannau, ac mae hyn yn annog y dŵr i lifo dros y glannau gan gynyddu’r gallu i storio llifddwr.
“Er bod prinder llifogydd yn ystod y cyfnod monitro yn golygu na ellid profi’r rhagfynegiadau model, mae datblygiad yr argaeau yn awgrymu eu bod yn gweithio fel y dylent ac mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen.”
Mae Ymchwil Coedwigaeth yn awr yn gwneud ymchwil pellach i gadarnhau ac adeiladu ar y darganfyddiadau cychwynnol hyn.
Bydd gwell rheolaeth dros goetiroedd presennol a phlannu newydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol o safbwynt cynyddu bioamrywiaeth ac adfer ecosystemau brodorol.
Bydd storio gwaddod a rheoli erydiad yn helpu i wella ansawdd dŵr, a bydd yr economi yn elwa gan y bydd pobl leol yn cael eu cyflogi i reoli’r coetiroedd.
I gael rhagor o wybodaeth am Robinwood, cysylltwch â Kim Burnham – e-bost kim.burnham@forestry.gsi.gov.uk – ffôn: 08456 040845 neu ewch i wefan Robinwod: www.robin-wood.it.
DIWEDD
Cysylltwch â: Kim Burnham, Robinwood, rheolwr rhaglen Cymru – Ffôn: 0845 6040845
Cysylltwch â: Chris Jones, Ymchwil Coedwigaeth Cymru – Ffôn: 01874 676444
Nodyn i’r Golygydd
Mae Robinwood wedi rhoi cyfle i Gymru, am y tro cyntaf erioed, fod yn bartner yn un o’r prosiectau Gweithredu Fframwaith Rhanbarthol Interreg 111c Ewropeaidd sydd â’r nod o ddod â gwledydd at ei gilydd a meithrin gwaith trawsffiniol rhwng academyddion, busnesau preifat a’r sector cyhoeddus. Bydd y prosiect hwn, sy’n rhedeg dros gyfnod o dair blynedd a hanner, yn werth 1 miliwn Ewro i Gymru.
Prosiect Ewropeaidd trawsffiniol yw Robinwood, sydd â’r nod o ganfod sut y gall coedwigoedd a choed ar draws Ewrop chwarae rhan allweddol yn y broses o adfywio cymunedau gwledig drwy gyfleoedd busnes newydd, atal llifogydd ac egni tanwydd coed. Gobeithir hefyd y bydd yn newid y canfyddiad gwleidyddol o’r rôl y gall coetiroedd ei chwarae yn nyfodol cymdeithasol ac economaidd cymunedau gwledig ac yn meithrin cysylltiadau newydd rhwng y gwahanol bartneriaid.
Mae Robinwood yn hyrwyddo datblygiad cynaliadwy ardaloedd gwledig ac yn goresgyn rhwystrau i gynnydd drwy: creu proses cadwyn goetir – hyrwyddo a marchnata tiriogaethol – technegau newydd i ddatblygu coedwigaeth – ardystio, newidiadau mewn polisi, coedwriaeth – gwelliannau hydroddaearegol – modelau i atal ansefydlogrwydd a lleihau risg – hyrwyddo coed fel ffynhonnell egni – dulliau rheoli a thechnolegau newydd.