Datganiadau Newyddion - 2012


Twf Mewn Twristiaeth Ar Y Gorwel Wrth I Lwybr Ceffyl Newydd Gysylltu Parciau GwledigGallai llwybr ceffyl newydd sy’n agor milltiroedd o lwybrau merlota diogel trwy goetiroedd yn Ne Cymru agor y ffordd i dwf mewn twristiaeth merlota yn yr ardal.


Cynllun Newydd I Fynydd Hanesyddol Yn Dioddef O Dipio AnghyfreithlonMae cynlluniau ar y gweill i ail-ddylunio rhan o faes parcio ar ochr mynydd eiconig mewn ymdrech arloesol i gael y gorau, o’r diwedd, ar dipwyr anghyfreithlon sy’n defnyddio’r tirnod hanesyddol i gael gwared ar dunelli o rwbel adeiladwyr, gwastraff cartrefi a theiars ceir.


Patrolau’R Heddlu I Ymladd Trosedd Yng Nghoetiroedd Dyffryn GwyMae Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Heddlu Gwent yn gweithio gyda’i gilydd i daclo trosedd ac ymddyngiad gwrth gymdeithasol yng nghoetiroedd Sir Fynwy.


Sgowtiaid Arloesol Yn Camu I’R CoedMae dwy fintai o Sgowtiaid yn gweithio i ennill eu Bathodyn Coedwigwr gan fentro i goetiroedd gerllaw i wneud gwrthrychau defnyddiol o frigau sydd i'w cael ar hyd y llwybrau ac ochrau ffyrdd.


Elusen Yn Plannu’R Coetir Newydd Mwyaf Yng Nghymru Ers Dros 20 MlyneddMae coetir maint tua 140 o gaeau rygbi yn cael ei blannu ar hen dir fferm yn nyffryn Efyrnwy Uchaf - y cynllun plannu newydd mwyaf yng Nghymru ers dros 20 mlynedd.


Ffermwr Yn Allargyfeirio Yn Ennill Y GêmMae ffermwr sydd wedi plannu coetir ac wedi arallgyfeirio peth o’i dir yn noddfa i gymdeithas saethu yng nghanolbarth Cymru wedi ennill un o wobrau pennaf y DU.


Nid Gwyliau Yw Hyn I Peter Wrth I Fusnes Coetir FfynnuUnwaith, roedd Peter Bottoms yn ennill ei fywoliaeth yn y diwydiant twristiaeth yng Ngheredigion, ond erbyn hyn mae’n cerfio bywyd arall iddo’i hun, ymhell o ymwelwyr yn galifantio, ar ôl prynu coedwig yn y Canolbarth.


Rhyfel Biolegol Yn Erbyn Heintiau Coedwigoedd Yng Nghymru – Datgelu Yn Y Gerddi Botaneg CenedlaetholBydd gwyddonwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir ledled Cymru, y DU a’r Iwerddon yn heidio i’r Gerddi Botaneg Cenedlaethol yr wythnos nesaf i glywed y datblygiadau diweddaraf yn cael eu datgelu am y rhyfel biolegol yn erbyn pryfed sy’n bla mewn coedwigoedd Cymru.


Gwyliwch – Mae’R Cigydd Yn Ôl!Mae llygod a mamaliaid bychain eraill ar eu gwyliadwriaeth ar ôl i’r Cigydd Mawr - sy’n cael ei enw o’i arferion bwydo treisgar - gael ei weld yn cyhwfan uwchben coedwig Clocaenog yng ngogledd Cymru.


Lle Anadlu I Bembre A PhenybeddMae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n dechrau gwaith i roi mwy o le anadlu i ddwy goedwig yn Sir Gaerfyrddin ac i’w gwneud yn lleoedd mwy deniadol i bobl ymweld.


Coetir ‘Wedi’I Deneuo’ Yn Edrych Yn Dda!Efallai bod pawb yn meddwl am fynd ar ddiet yr adeg yma o’r flwyddyn – ond bu coedwigwyr hyd yn oed yn teneuo coetir i wella’i edrychiad.


Treuliwch Noson Gyda’R Sêr Ym Mwlch Nant-Yr-ArianBydd ymwelwyr â Bwlch Nant-yr-Arian yn gallu archwilio rhyfeddodau’r bydysawd ddydd Sadwrn (Ionawr 21) mewn digwyddiad o edrych ar y sêr yng nghanolfan Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar y cyd â’r BBC.


Cydnabyddiaeth I Gomisiwn Coedwigaeth Cymru Am Hyrwyddo CydraddoldebMae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei waith yn taclo anghydraddoldeb a gwahaniaethu.


Gemau Coetir Plant Yn Gallu Cynnig Gwersi OesMae llygad dirgel yn gwylio grŵp o blant meithrin wrth iddyn nhw chwarae yn eu coetir lleol fel rhan o brosiect sy'n gobeithio rhoi sgiliau hanfodol iddyn nhw am weddill eu hoes.


Cynllun Gweithredu Yn Galw Am Gydweithredu I Reoli CeirwMae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu pum mlynedd i reoli’r nifer cynyddol o geirw.


Ymweliad Coetir Yn Cyfrif I Goedwigwyr O TsienaMae coedwigwyr o un o wledydd mwyaf poblog y byd wedi ymweld â Chymru i ganfod sut rydyn ni’n annog pobl i wneud y gorau o’n coetiroedd.


‘Cynhesrwydd Y Gaeaf’ Yng Nghoetiroedd Pen-Y-Bont Ar OgwrMae gan grŵp Menter Addysg Goedwig Pen-y-bont ar Ogwr yr union ateb i’r felan ar ôl Nadolig - "cynhesrwydd y gaeaf" wrth dân coed yn y goedwig.


Camcorder I’R Adwy Wrth I Foda’R Mêl Ledu’I AdenyddMae arbenigwyr adar wedi dadorchuddio’r erfyn diweddaraf i geisio taflu goleuni ar fywyd cudd y boda’r mêl gwibiog - camcorder.


O’R Diwedd – Newyddion Da I’R Fadfall!Daeth gwirfoddolwyr a choedwigwyr i gronni eu hadnoddau ac i anadlu anadl einioes i dri phwll mewn coetir.


Dim Rhagor O Esgusodion Wrth I Ddolen Minortaur Newydd AgorDyna ddiwedd ar esgus arall i gysgu’n dawel ar y soffa ar ôl bwyta gormod o fins peis. Methu â fforddio ymuno â champfa ddrud? Dim byd i’w wneud i gael y galon i guro? Yr union adeg pan oeddech yn meddwl y gallech eistedd yn ôl o flaen y teledu ac ymestyn am y botymau, dyma Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn cynnig rhywbeth i’ch cael chi allan o’r tŷ ac i’r awyr agored.


Coetir Lle Lladdwyd Coed Yn Denu YmwelwyrMae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn manteisio ar anlwc i wella adnoddau i'r cyhoedd mewn coetir sydd wedi dioddef o afiechyd marwol i goed.


Athrawon Yn Mynd I’R Afael A Phecyn Newid Hinsawdd NewyddBu athrawon ysgol yn dysgu ffyrdd newydd o addysgu plant am realiti newid hinsawdd mewn diwrnod hyfforddi ym Mharc Coedwig Afan.


Bywyd Y Parc Yn Ennill Gwobr I BenRoedd llun o Barc Acton, Wrecsam ar fore oer, niwlog yn werth £100 o dalebau’r stryd fawr i Ben Wilkinson ar ôl i’w lun ennill cystadleuaeth ffotograffiaeth ledled y wlad.


Comisiwn Coedwigaeth Cymru’N Cael Gwared Ar Neidiau Beic AnghyfreithlonMae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi dechrau cael gwared ar nifer o neidiau beiciau mynydd a nodweddion eraill sydd wedi’u hadeiladu’n anghyfreithlon yn ardal Foel Fynyddau ger Pont-rhyd-y-fen.


Coetir Ffermwr Yn Drysor HanesyddolMae ffermwr, y mae’i dir yn taflu goleuni ar filoedd o flynyddoedd o hanes Cymru, yn bwriadu gwneud gwaith ar ei goetir i gyfarfod ag anghenion cwbl fodern.


Darlith Bywyd Go Iawn I Goedwigwyr Y DyfodolCafodd coedwigwyr y dyfodol ddosbarth meistr mewn coedwriaeth gan arbenigwyr heddiw wrth dreulio dau ddiwrnod yn dysgu sut y mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n gofalu am goetiroedd Llywodraeth Cymru.


Plant Ysgol Yn Creu Safle Plant! WahanolMae coedwig newydd wahanol yn tyfu ym Môn – mae wedi’i dylunio a’i phlannu gan ddisgyblion ysgol.


Mynediad Gwell I Geffylau I Goedwig GarwDiolch i waith Comisiwn Coedwigaeth Cymru, bydd yn fwy diogel i ferlotwyr fynd i goedwig sydd wedi bod yn cael ei thargedu gan feicwyr modur, oddi ar y ffordd, anghyfreithlon.


Disgyblion Yn Hel Eu Bacc Wrth Ymweld Â'r GoedwigDaeth gwerslyfrau’n fyw i fyfyrwyr Bagloriaeth Cymru wrth iddyn nhw ymweld â’r goedwig i ddysgu rhagor am fanteision coed.


Gweinidog Yn Ymweld  Ffatri Goed Gyda ‘Hanes O Lwyddiant’Ymwelodd John Griffiths, Gweinidog dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, â ffatri goed deuluol sy’n un o’r mwyaf llwyddiannus yng ngogledd Cymru.


Coedwigwyr Yn Dechrau Ar Y Dasg O Blannu 2.9 Miliwn O GoedMae’r gwaith ar y gweill a fydd yn helpu i ffurfio edrychiad cefn gwlad Cymru yn y blynyddoedd i ddod wrth i gontractwyr ddechrau plannu coetiroedd y dyfodol.


Hafan Gwlypdir I Goetir Nad Yw’N Hoffi CoedBeth wnewch chi â choetir nad yw’n hoffi coed? Dyna oedd yn wynebu Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar ôl i goed wrthod tyfu mewn rhan o goetir Bwlch Cefn Llian, ychydig i’r gogledd o Raeadr Gwy yng Nghanolbarth Cymru.


Siôn Corn Yn Ei Chychwyn Hi I’R Goedwig Wrth I’R Diwrnod Mawr NesáuBydd mwy na 2,000 o blant o bob rhan o Gymru yn lapio’n gynnes ac yn mynd allan i’w coedwigoedd lleol i gwrdd â Siôn Corn y mis hwn.


Clirio Coed Yn Hybu Bywyd Gwyllt – A’R BlanedBydd clirio coed yn tyfu ar fin y ffordd ar ddwy goedlan yn Sir Gaerfyrddin yn eu gwneud yn lleoedd mwy cartrefol i'r planhigion prin a'r bywyd gwyllt sy'n byw yno.


Dewch I Gyfarfod Rudolph Wrth I Garwnant Baratoi Am Y NadoligBydd Rudolph, prif garw Siôn Corn, yn ymweld â Garwnant y penwythnos hwn wrth i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru gyfri'r dyddiau tan y Nadolig.


Cyrch Defaid I Goedwigoedd Yr UcheldirMae ffermwr lleol yn bwriadu anfon ei ddefaid ar gyrch i wella amgylchedd ucheldir canolbarth Cymru.


Gweinidog Yn Canmol Plant Am Roi Coetir I’W CymunedMae John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, wedi canmol y plant a blannodd goetir cymunedol newydd ar ystad dai leol.


Gwaith Evelyn Yn Talu Ar Ei GanfedEfallai nad yw hi’n dirfeddiannwr amlwg, ond Evelyn Over yw’r grym anweledig sy’n haeddu’r clod am drawsnewid ardaloedd enfawr o gefn gwlad Cymru.


Prosiect Tai Crwn Yn Cadw Plant Allan O DrwblBu pobl ifanc yn eu harddegau, a oedd mewn perygl o gael eu denu i fywyd o droseddu, yn adeiladu dau dŷ crwn Celtaidd i blant eu mwynhau fel rhan o brosiect i’w cadw ar y llwybr cul.


Gweinidog Yr Amgylchedd Yn Annog Coedwigwyr I Ddysgu Gwersi O EwropMae John Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, yn annog coedwigwyr i ddysgu gwersi o Ewrop wrth gynllunio ar gyfer newid hinsawdd a’r dyfodol.


Campfa’R Goedwig I Wella IechydCafodd cynllun ei lansio i feddygon gyfeirio rhai cleifion i’w coedlannau lleol i geisio eu gwella a’u cael yn fwy ffit.


Mae’r rhan fwyaf o’r datganiadau newyddion a gyhoeddir gennym drwy’r wlad ar gael ar y tudalennau hyn. Defnyddiwch y cysylltau gyferbyn i gyrchu ein harchif newyddion.