Anifail brodorol yw’r wiwer goch ond mae ei dyfodol yn y fantol wrth i’r wiwer lwyd a gyflwynwyd o America ledu ar draws y tir mawr. Amcangyfrifir bod 140,000 yn unig o wiwerod coch ar ôl ym Mhrydain, a bod 2.5 miliwn o wiwerod llwyd. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gweithio gyda’i bartneriaid mewn prosiectau ar hyd a lled Prydain i ddatblygu strategaeth gadwraethol dymor-hir a fydd yn llesteirio’r wiwer lwyd ac yn hybu’r wiwer goch.
Enw
Gwiwer goch (Sciurus vulgaris)
Bywyd
Cynefin
Bydd gwiwerod coch yn adeiladu nythod mawr, yn ffyrch boncyffion coed yn aml. Byddant yn byw ar eu pennau eu hunain fel rheol, ac eithrio pan fyddant yn paru. Ond maent hwy’n fodlon cymysgu â’i gilydd a bydd gwiwerod sy’n perthyn yn rhannu nythod er mwyn aros yn gynnes yn ystod misoedd oer y gaeaf. Byddant yn teithio’n bell, yn enwedig wrth chwilio am gymar.
Bridio
Bydd gwiwerod coch yn paru yn y gwanwyn a gallant baru eto yn yr haf os yw’r amodau’n ffafriol. Gwyliwch amdanynt yn ceisio denu cymar yn y coed. Genir y rhai bach rhwng 45 a 48 o ddyddiau wedi paru. Mae 2 i 3 mewn torllwyth fel rheol, er y gall fod cymaint â 6. Bydd y fam yn gwarchod ei rhai bach yn ffyrnig, gan ymosod ar y tad hyd yn oed.
Datblygiad
Rhwng 20 a 50 y cant o’r rhai bach yn debygol o oroesi a thyfu’n oedolion. Cânt eu diddyfnu ar ôl rhyw 8 i 12 wythnos pan fydd eu holl ddannedd wedi datblygu.
Ymborth
Mae gwiwerod coch yn bwyta hadau. Mae’n well ganddynt gonau pinwydd ond byddant yn bwyta conau’r llarwydden a’r sbriwsen hefyd. Hefyd bwytânt ffyngau, cyffion a ffrwythau llwyni a choed, a wyau adar weithiau. Gallant wahaniaethu rhwng cnau da a drwg drwy eu dal yn eu pawennau. Nid ydynt yn cysgu yn y gaeaf ac felly storiant ffyngau mewn coed i’w bwyta yn ystod y misoedd llwm. Yn yr hydref, pan mae yna ddigonedd o fwyd, maent yn tewhau ac mae hyn yn eu helpu drwy’r gaeaf. Mae hyn yn hollbwysig i fenywod sy’n bridio oherwydd bod yn rhaid iddynt fod mewn cyflwr da i gynhyrchu epil.
Bygythiadau
Y prif fygythiadau i oroesiad y wiwer goch yw’r nifer cynyddol o wiwerod llwyd, afiechyd (parapoxvirus) a thraffig. Gall y rhai llwyd fwydo’n fwy effeithlon mewn coetiroedd llydanddail a gall hyd at 8 ohonynt oroesi mewn hectar o goed. Mae dwysedd o’r cochion wedi cynyddu i un pob hectar o goetiroedd llydanddail ond gall fod mor isel â 0.1 yr hectar mewn coetiroedd conwydd.
Y prif ysglyfaethwyr yw adar ysglyfaethus, megis hebog Marthin, a’r bele.Mewn rhai ardaloedd trefol, megis Jersey, mae cathod domestig yn fygythiad i wiwerod sy’n mynd i erddi i fwydo.
Adnabod
Mae gan wiwerod coch flew rhytgoch, er y gall lliw y blew amrywio, gyda rhai yn edrych yn llwyd iawn (ac mae gan rai gwiwerod llwyd flew coch ar hyd eu cefnau ac ar eu traed). Maent hwy’n fach ac mae ganddynt dwffiau o flew yn eu clustiau - twffiau mawr yn y gaeaf - tra bo’r wiwer lwyd yn fwy praff a chrwn. Ychydig o wahaniaeth sydd rhwng y gwryw a’r fenyw, felly mae’n anodd gwahaniaethu rhwng y rhywiau.
Mae’r Gwiwerod Coch yn swil iawn ac yn treulio'r rhan fwyaf o’r amser yng nghanopi’r goeden. Arwyddion amlwg i chwilio amdanynt yw nythod mawr yn y coed, olion crafu ar risgl, a chonau pinwydd wedi’u cnoi. Mae’r wiwer goch yn swnllyd iawn, gan wneud twrw ‘tsiyc, tsiyc’ mawr a stampio ei thraed os caiff ei dychryn.
Sut y rheolwn ein coetiroedd
Gall tynged y wiwer goch ddibynnu ar y ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn rheoli coedwigoedd conifferaidd, gan mai hwn yw ei hoff gynefin. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid ar hyd a lled Prydain i asesu ffyrdd o gynllunio a rheoli coedwigoedd a datblygu strategaeth dymor-hir a fydd yn llesteirio’r wiwer lwyd ac yn hybu’r wiwer goch. Enghraifft o gynllun o’r fath yw Prosiect Coedwig Kielder yn Northumberland, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Mamolion y DU a Phrifysgol Newcastle.

