|
|
Menter coedwigaeth
Menter Coedwigaeth yw asiantaeth y Comisiwn sydd yng ngofal rheolaeth ystâd
goedwig y genedl.
Cyfanswm yr ystâd yw mwy na 1,000,000 hectar o dir, mwy na 800,000 ohono’n
goedwig a choetir. Mae’n amrywio o borfeydd coetir y Fforest Newydd i
goedwigoedd coniffer mawr tir uchel Cymru a Gororau’r Alban, ac o goedwigoedd
Breckland yn Nwyrain Anglia i Goetiroedd Ffynidwydd hynafiaethol Ucheldiroedd yr
Alban.
Nodau Menter Coedwigaeth yw cynhyrchu buddion amgylcheddol, economaidd a
chymdeithasol o’r coedwigoedd mae’n eu rheoli y gall pobl ym Mhrydain eu
gwerthfawrogi.
Mae hyn yn golygu cael cydbwysedd rhwng cynhyrchu pren a buddion ehangach o
raglenni hamdden ac amgylchedd.
|
|
 |
 |