Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Gwobrau

Cydnabuwyd gwaith y Comisiwn a’i bobl unwaith yn rhagor gan nifer o wobrau eleni:
  • Cafodd Dr John Gibbs, Pennaeth Cangen Batholeg OBE
  • Cafodd Lindsay Williams, rhodiwr bywyd gwyllt arweiniol Canolbarth, a Kerr Robertson, swyddog coedwig ar Ynys Aran MBE
  • Etholwyd Dr Sam Evans, Cangen Fesuriaeth yn Gymrawd Ymchwil Uwch Adran Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Caerweir.
  • Cafodd Dr David Lonsdale, Cangen Batholeg, Gwobr Flynyddol 1999 y Gymdeithas Goedyddiaeth am wasanaethau i Goedyddiaeth. Etholwyd David hefyd yn Is-Lywydd Cymdeithas Fycoleg Prydain am y flwyddyn 2000.
  • Dyfarnwyd Gwobr Goedwraethol 2000 Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig i Chris Quine Jonathan Humphrey a Richard Ferris, Cangen Ecoleg Coetir am eu papur: ‘A ddylid efelychu’r patrymau ymyrraeth gwynt a welir mewn coedwigoedd naturiol mewn coedwigoedd planiendig yn ucheldiroedd Prydain?’
  • Cafodd Kenneth Knott, swyddog coedwig yn Fort Augustus wobr bersonol o Ymddiriedolaeth Coedwig Mileniwm yr Alban am ei waith datblygu adar ysglyfaethus.
  • Enwyd Ross Thomson, peiriannydd mecanyddol dan hyfforddiant yn Creebridge yn Brentis y Flwyddyn gan Wasanaethau Peirianneg Fecanyddol.
  • Enillodd Ardal Goedwig Galloway adran coedydd helaeth Gwobrau Coetiroedd a Choedwigoedd yr Alban ac o’r herwydd cyflwynwyd Gwobr John Kennedy iddynt.
  • Cafodd Coedwig Fearnoch yn Ardal Goedwig Lorne a Glen Nevis yn Lochaber ill dwy Wobr Cymeradwyaeth Uchel yng Ngwobrau Coetiroedd a Choedwigoedd Cymdeithas Frenhinol Coedwigaeth yr Alban.
  • Cafodd Coed am Oes Nod y Mileniwm am waith cynaliedig tuag at atgynhyrchu coetiroedd ffynidwydd brodorol yn Glen Affric.
  • Cyflwynwyd Tystysgrif ISO9002 i Wasanaethau Peirianneg Fecanyddol (GPF/MES) mewn cydnabyddiaerth o’i ymrwymiad i wasanaeth cwsmeriaid.
  • Enillodd pobl swyddfa GPF/MES Dumfries Wobr Aur Cynllun Iechyd a Gwaith yr Alban a Gwobr Her Cymunedol BAA am eu gwaith wrth greu cyfleusterau newydd i‘r anabl yng Nghoedwig Mabie.
  • Enillodd Willie Walker, o ardal goedwig Tay, Dlws y Dosbarth Trefniadol yn Ideas UK, cystadleuaeth genedlaethol syniadau’r staff am ei Dyngerbyd Pob Bwrpas Triogaeth cludadwy (PATT).