Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Hygyrchedd

Fel gwefan lywodraethol, rhaid bod ein safle mewn modd i gynnig gwybodaeth ddiwedda gymaint o ddefnyddwyr ag sydd yn bosibl. I sicrhau bod hyn yn digwydd, lluniwyd y safle gan defnyddio canllawiau’r llywodraeth a safonau penodol. Mae hyn yn golygu bod yr holl wybodaeth graidd yn hawdd ei chyrraedd gan y canlynol:

  • pobl gyda systemau neu borwyr hýn
  • pobl â chysylltiad araf i’r rhyngrwyd
  • pobl ag anawsterau gweld
  • pobl ag anawsterau eraill

Mae’r safonau a ddefnyddir yn golygu bod:
  • yr holl wybodaeth graidd ar sail testun
  • y wybodaeth mewn ffurfiau safonol y we (e.e. html a pdf)
  • bod yr holl feintiau ffeil cyn lleied â phosibl
  • tudalennu heb fod yn fwy na dwy neu dair sgrîn o hyd (2 dudalen o A4)
  • yr holl destun yn hawdd ei ddarllen
  • bod y llwybrau’n glir ac yn hawdd eu defnyddio
  • bod unrhyw mewnblygiadau sydd angen ar gael yn rhad ac am ddim
  • y safle’n parhau i fod yn ddefnyddiadwy gyda’r delweddau wedi’u troi i ffwrdd
  • y safle’n edrych yn debyg ar wahanol systemau a phorwyr