|
|
Coedwig gwyllt troellwr
Bu dirywiad sylweddol yn nifer y troellwyr mawr ym Mhrydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Erbyn hyn, fodd bynnag, rydym yn rheoli ein coedwigoedd cyhoeddus er mwyn diogelu bywyd gwyllt, ac mae’r nifer ar gynnydd. Mae dros 50% o’r troellwyr mawr ym Mhrydain bellach yn nythu mewn coetiroedd lle mae coed aeddfed wedi cael eu torri a choed ifanc wedi’u plannu yn eu lle. Anaml y gwelir y troellwr mawr yn ystod y dydd, ond mae’n bosibl ei weld yn y nos pan fydd yn gwneud ei sŵn ‘troelli’ ar gangen coeden amlwg.
Enw Y troellwr mawr (Caprimulgus europaeus)
Bywyd
Cynefin Bydd y troellwr mawr yn mudo i Brydain o Affrica ac yn dychwelyd yno ar ôl magu ei gywion. Bydd troellwyr mawr yn cyrraedd de Lloegr, eu prif gadarnle, ym mis Ebrill, ac yn cyrraedd gogledd Lloegr a chanolbarth yr Alban ym mis Mai a dechrau mis Mehefin. Fel rheol, byddant yn nythu ar rostiroedd isel. Maent yn hoffi mannau lle ceir prysgwydd ac ambell goeden fwy y gallant ganu neu ‘droelli’ arni, a byddant fel rheol yn osgoi gweundiroedd a reolir ar gyfer grugieir coch a defaid. Mae pâr o oedolion angen o leiaf 2 hectar ar gyfer nythu, ond byddant weithiau’n hedfan 2-3 chilometr i chwilio am fwyd. Mae troellwyr mawr hefyd yn hoffi coedwigoedd, a byddant yn nythu mewn safleoedd clir lle torrwyd yr holl goed, a hefyd mewn mannau a ailblannwyd, hyd nes bod y coed tua 15 oed. Mae’r rhostiroedd newydd hyn yn darparu mannau nythu da, digon o goed iddynt glwydo arnynt, a digonedd o fwyd. Mae rhai o’r adar sydd wedi cael eu radio-tracio, wedi cael eu recordio yn gadael eu tiriogaeth yn ystod y nos i chwilio am fwyd mewn cynefinoedd eraill megis coetiroedd collddail a thir pori gwlyb.
Bridio Bydd y troellwr mawr yn dechrau bridio pan fydd yn flwydd oed. Bydd yn dechrau nythu ym mis Mai yn ne Prydain neu ddiwedd Mai i ddechrau Mehefin yn y gogledd. Ceir 2 wy ym mhob nythaid fel rheol, a bydd rhwng 1 a 2 o adar yn goroesi a gadael y nyth. Datblygiad Mae’r adar ifanc yn dechrau dod yn annibynnol yn fis oed. Ymborth Mae’r troellwr mawr yn bwydo ar wyfynod mawr fel rheol. Bydd yn cyrraedd Prydain ddiwedd y gwanwyn a dechrau haf pan geir cynnydd sydyn yn nifer y gwyfynod. Mae’n fwyaf gweithgar yr un adeg â’r gwyfynod, sef ar doriad gwawr ac ar fachlud haul. Bygythiadau Fel yn achos nifer o adar sy’n nythu ar y ddaear, bydd ysglyfaethwyr megis llwynogod a charlymod, brain a phiod yn ymosod ar nyth y troellwr mawr. Hefyd, bydd y wiber yn torheulo ar lwyfan y nyth ac yn dwyn yr wyau a’r adar bach. Ond nid yw’r ysglyfaethwyr hyn yn fygythiad difrifol i’r poblogaethau bridio. Y prif fygythiad i’r rhywogaeth yw colli cynefin. Gall hyn ddigwydd wrth i’r rhostiroedd isel fynd yn llai neu yn sgil newidiadau mewn arferion coedwigo nad ydynt yn cymryd i ystyriaeth bwysigrwydd torri a chlirio coed ac ailblannu. Gall pla leiddiaid effeithio ar boblogaeth y gwyfynod hefyd, a bydd gostyngiad sylweddol yn nifer y gwyfynod yn effeithio ar boblogaeth y troellwr mawr. Adnabod Pur anaml y gwelir y troellwr mawr yn ystod y dydd. Bydd yn aros yn llonydd ar y ddaear ac yn dibynnu ar ei guddliw anhygoel i osgoi cael ei weld - mae ei blu yr un lliw â dail marw a hen risgl. Ond yn ystod y nos, pan fydd yn ‘troelli’, bydd yn clwydo ar gangen coeden amlwg a gellir gweld ei amlinell yn erbyn awyr y nos. Wrth hedfan, bydd y troellwr mawr yn plymio ac yn curo ei adenydd ar hyd ei diriogaeth, a bydd yn dod yn eithaf agos at unrhyw un sydd wrth ymyl. Mae gan y ceiliog farciau gwyn amlwg ar ei adenydd a’i gynffon, tra bo gan yr iâr farciau brown sydd yn llawer llai amlwg. Mae’r rhain i’w gweld yn amlwg yn y nos hyd yn oed, felly mae’n bosibl adnabod y ceiliog a’r iâr yn aml. Clywed cri drawiadol yr aderyn y bydd pobl fel rheol. Bydd y ceiliog yn gwneud sŵn ‘troelli’ (sy’n rhoi iddo ei enw) a all bara am rai munudau, gan amrywio o ran traw a chryfder. Cyrchwch www.countrysideinfo.co.uk/selecta.htm i glywed y sŵn. Pan fydd yr aderyn yn rhoi’r gorau i ganu, bydd yn ehedeg fel rheol, a chlywir dau sw^n arall yn aml. Nodyn sengl - sŵn ‘cŵic’ eithaf distaw - yw’r cyntaf, a chredir mai galw ar aderyn arall y mae. Sŵn fel curo dwylo yw’r ail, a glywir wrth i’r aderyn guro ei adenydd tra’n hedfan. Sut y rheolwn ein coetiroedd Mae cynlluniau ar gyfer pob coedwig sy’n eiddo i’r Comisiwn Coedwigaeth. Mae’r rhain yn ein helpu i lunio nodau tymor hir a thargedau ar gyfer y dyfodol. Gyda chymorth adarwyr lleol brwdfrydig, rydym yn gallu darganfod coedwigoedd ble y ceir troellwyr mawr ac felly sicrhau bod ein cynlluniau yn dilyn patrwm o dorri a chlirio coed ac ailblannu, i sicrhau bod cynefin addas a chyflenwad bwyd bob amser ar gael.
Lle i weld troellwyr yng Nghymru
|
Oeddech chi'n gwybod Mae’r troellwr mawr wedi’i enwi ar ôl ei gân (mae hyn yn wir am yr enw Saesneg 'nightjar' hefyd). Yn yr Unol Daleithiau, mae aderyn sy’n perthyn yn agos iddo, ond sydd â chân wahanol, yn cael ei alw’n ‘whip-poor-will’. Ystadegau bywyd Hyd: hyd at 28 cm
Lled yr adenydd: 57 - 64 cm
Hyd oes: hyd at 11 mlynedd
Niferoedd ym Mhrydain: tua 3,400 o geiliogod. Am fwy o wybodaeth
Safleoedd defnyddiol
|
 |