|
|
Coedwig gwyllt rhostir tir isel
Beth yw Rhosydd yr iseldir? Mae rhostir yr iseldir yn dirwedd o nodweddir gan blanhigion megis grugoedd - yn enwedig y Grug Cyffredin - ac eithin a choed fel Ffynidwydd yr Alban a Ffawydd. Saif o dan 300 metr - gweundir yw yn uwch na 300 metr - ac fel arfer saif ar dir gwael ac asidaidd. Mae’n debygol nad oedd rhosydd yr iseldir ar y raddfa a welwn heddiw yn bodoli o gwbl cyn y cyrhaeddodd pobl Oes yr Efydd, tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Cliriodd yr amaethwyr cynnar hyn y coed - naill ai trwy eu torri i lawr neu eu llosgi yn y fan a’r lle - a chadwyd porwyr a dyfwyd grawn cynnar ar y tir. Law yn llaw â newid i hinsawdd wlypach ac oerach, arweiniodd y gweithgaredd dynol ryw yn y pendraw at dirweddau rhostir a welwn heddiw. Mae rhosydd yr iseldir a’u bywyd gwyllt wedi datblygu trwy broses o waredu coed, pori a llosgi sydd yn parhau mewn rhai ardaloedd hyd heddiw.
Faint o rosydd yr iseldir sydd ym Mhrydain? Ceir 58,000 hectar o rosydd yr iseldir ym Mhrydain, tuag 20% o gyfanswm y ddaear. Ond collwyd dros 80% o rosydd iseldir Prydain ers 1800 - 17% yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf. Heddiw ceir rosydd yr iseldir yn Sir Benfro, Gorllewin Morgannwg a Gorllewin Gwynedd, Cernyw, Dyfnaint, Swydd Caerdyrnchwarae, Swydd Caerwynt, Surrey, Suffolk, Norfolk a Swydd Stafford.
Pa rywogaethau sydd yn byw ar rosydd yr iseldir? Mae rhosydd yr iseldir yn cynnal poblogaethau bridio o adar prin, fel Telor yr Eithin, Ehedydd y Coed a’r Troellwr. Mae’n gynefin y 6 ymlysgiad sydd yn frodorol i Brydain, sef y Wiber, y Neidr Lwyd, y Neidr Lefn, y Fadfall, Madfall y Twyni a’r Neidr Ddefaid (Mae’r Neidr Lefn a Madfall y Twyni’n rhywogaethau prin dan fygythiad sydd wedi’u cyfyngubellach bron yn ddieithriad i rosydd yr iseldir). Ceir Pryfed Cop neu Gorrod, megis Corryn y Fuwch Goch Gota brin iawn, a thrychfilod prin fel Mursen y De, Ceiliog Rhedyn Mawr y Gors a Morgrugyn Du y Gors ar rosydd yr iseldir hefyd. Mae rhosydd yr iseldir hefyd yn bwysig yn ddiwylliannol mewn nifer o ardaloedd, fel er enghraifft yn y Fforest Newydd a Gwent Goch y Ddena lle y gweithredir system hynafol hawliau’n cominwyr o hyd. Beth yw’r bygythiadau i rosydd yr iseldir? Yn y gorffennol, deuai’r prif fygythiadau i rosydd yr iseldir o weithgareddau dynol ryw amaethyddiaeth, coedwigaeth a datblygiadau’n arwain at gandryllio’r ardaloedd. Heddiw daw’r prif fygythiadau o ddifyg rheoli a o ddatblygiadau a chandryllio. Sut y byddwn yn rheoli’n coetiroedd Mae rhosydd yr iseldir yn gynefin prin sydd o dan fygythiad. Mae’n cynnal llawer o wahanol fathau o blanhigion ac anifeiliaid prin ac mae’n flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, English Nature, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cymdeithas Frenhinol er Diogelu Adar, y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Ymddirideolaethau Bywyd Gwyllt lleol i ddiogelu rhosydd yr iseldir. Mewn llawer o ardaloedd, torri coed er mwyn caniatáu i’r rhosydd ail-ymsefydlu, caewyd traeniau er mwyn adfer lefelau dŵr y ddaear ac mae merlod a gwartheg yn pori’r rhosydd unwaith eto.
Lle i weld rhostir tir isel yng Nghymru
|

Oeddech chi'n gwybod Dim ond mor ddiweddar â 1853 y darganfuwyd neidr brinaf Prydain, y Neidr Lefn, sydd yn dangos pa mor brin y mae. 
Am fwy o wybodaeth
Safleoedd defnyddiol
|
 |