Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to prydain fawr homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  

Coedwig gwyllt mynydd-dir coed derw
 

Sessile Oak(Quercus Petraea) Woodland At Stroan Hill Near Dalmally. Lorne FdBeth yw Coed Derw'r Mynydd-dir ?
Adnabuwyd Coed Derw’r Mynydd-dir neu'r ucheldir fel cynefinoedd o bwysigrwydd uchel yng Nghyfarwyddyd Cynefinoedd yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r coed derw’n gyfyngedig i ymylon arfordir Iwerydd Prydain, Ffrainc, Iwerddon a Sbaen. Disgrifir nhw yng Nghynllun Bioamrywiaeth y DU fel 'coed derw’r tir uchel', a chydnabyddir nhw fel coedwig law dymherus Prydain.

Ceir Coed Derw’r ucheldir mewn ardaloedd sydd â hinsawdd laith, fwll gyda glawiad uchel a phriddoedd asidaidd na chawsant eu newid gan weithgareddau dynol rhyw fel aredig.

Faint o Goed Derw’r Ucheldir sydd ym Mhrydain?
Mae gan Brydain rai o’r  enghreifftiau pwysicaf a’r arwynebedd tir mwyaf o 70,000 hectar.

Yng Nghymru,  ceir Coed Derw’r Ucheldir yn ardaloedd arfor y gorllewin lle mae’r hinsawdd yn fwyn ac yn wlyb. Ceir rhai o’r coed derw gogleddol ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Pencaer Lloegr yw Cymbria, yn enwedig bryniau Furness, ond ceir Coed Derw’r Ucheldir yn y De Orllewin hefyd. Yn yr Alban, mae Coed Derw’r Ucheldir i’w gweld yn glynu i arfordir creigiog garw’r gorllewin ac ar lethrau deheuol glynnoedd yr ucheldiroedd.

Pa rywogaethau sydd yn byw yng Nghoed Derw’r Ucheldir ?
Cysylltir dros 500 o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid gyda Choed Derw’r Ucheldir. Mae hyn yn cynnwys 35 o rywogaethau a ystyrir fel blaenoriaethau am gadwraeth yng nghynllun Bioamrywiaeth y DU.

Mae’r rhywogaethau’n cynnwys toreth o’r planhigion isel, fel ffwng, rhedyn, mwsogl llysiau’r afu a chen. Mae clychau gleision, blodau’r gwynt, briallu a rhywogaethau eraill yn ymddangos yn lliwgar yn y  gwanwyn. Mae Coed Derw’r Ucheldir yn gadarnle cantorion mudol y coed fel y llostruddyn, y gwybedog brith a thelor y coed.  Defnyddir y coed derw fel mannau nythu gan y  boda a’r  barcud coch, a gwelir y gnocell fraith fwyaf a sgrech y coed yn aml. Mae ceirw cochion, iyrchod a moch daear yn byw yng Nghoed Derw’r Ucheldir, ynghyd â’r wiwer goch a’r bele yn y coed derw yn Ucheldiroedd yr Alban. Mae trychfilod fel morgrug y coed yn gyffredin a cheir pili-palod prin fel Gwibiwr y  Coed mewn llennyrch yng ngorllewin yr Ucheldiroedd.

Beth oedd y bygythiadau i Goed Derw’r Ucheldir ?
Rheolwyd a defnyddiwyd Coed Derw’r Ucheldir am eu pren, am adeiladu ac fel ffynhonnell bwysig o olosg. O’r 1600au i’r 1800au, buont yn gyflenwad o olosg ar gyfer y diwydiant cynhyrchu haearn. Roedd hyn yn golygu torri coed copi (torri coesau’r coed a chaniatáu i’r bonion ail-dyfu) bob 15 i 25 o flynyddoedd.  Fel rhan o’r broses, tynnwyd y rhisgl hefyd i’w defnyddio i greu tannin am brosesu lledr. Yn aml yn ystod cyfnodau o ehangiad amaethyddiaeth a choedwigaeth, cliriwyd Coed Derw’r Ucheldir at ddibenion pori, neu cawsant eu hail-blannu gyda rhywogaethau o gonifferau sydd yn tyfu’n gyflymach. Plannwyd rhododendronau a llwyni a phlanhigion ymledol eraill at ddibenion cysgod ac amwynder, yn enwedig o gwmpas gerddi plasdai oes Victoria.

Parhaodd y colled o gynefinoedd, atgynhyrchiad cyfyngedig ac ymlediad rhywogaethau brodorol i mewn i hanner olaf yr 20fed ganrif.

Sut y byddwn yn rheoli’n coetiroedd
Yn ystod y 1980au a’r 1990au, dechreuodd cyrff amgylcheddol a rheolwyr coetiroedd adnabod pwysigrwydd Coed Derw’r Ucheldir. Enwebwyd rhai safleoedd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol ac yn fwy diweddar fel ymgeiswyr am safleoedd Natur yr Undeb Ewropeaidd. Enwebodd y Comisiwn Coedwigaeth yn yr Alban lawer o’r safleoedd yn ei ofal fel Gwarchodfeydd Natur Celyddon. Enillodd prosiect y Comisiwn Coedwigaeth, Coed Derw Iwerydd Argul wobr glodwiw Prosiect Cadwraeth y Flwyddyn Ford UK ym 1994. Arweiniodd y prosiect cadwraeth arloesol y ffordd wrth reoli ac adfer Coed Derw’r Ucheldir.

Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi dechrau mewn ffordd arwyddocaol ar adfer Coed Derw’r Ucheldir ar ei ystâd. Cliriwyd conifferau bygythiol a llwyni ymledol a lleihawyd pori gan geirw ac anifeiliaid fferm. Mae’r holl weithredu hwn wedi gwella ac adfer cyflwr y cynefin coetirol, ac wedi ail-ddechrau atgynhyrchu naturiol coed, llwyni a llystyfiant llawr brodorol.

Mae rheolwyr lleol y Comisiwn Coedwigaeth yn gweithio gydag ystod o bartneriaid, gan gynnwys cymunedau lleol, i wneud gwahaniaeth go iawn i gynefinoedd Coed Derw’r Ucheldir a’r rhywogaethau maent yn eu cynnal. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth hefyd yn annog plant, pobl leol ac ymwelwyr i arloesi Coed Derw’r Ucheldir, eu mwynhau a’u deall yn well trwy ddarparu gwell mynediad a dehongli mewn safleoedd ac mewn canolfannau ymwelwyr.

Cefnogir llawer o’r gweithgaredd cynhwysfawr a pharhaus hwn trwy waith a chyllid partneriaethol, gan gynnwys cyllid o’r Undeb Ewropeaidd a’r Loteri Genedlaethol.

 


Lle i weld coed derw'r iwerydd yng Nghymru


Oeddech chi'n gwybod

Gall coed derw dyfu am 200 mlynedd, byw am 200 mlynedd arall ac yna treulio 200 mlynedd yn marw’n araf.

Am fwy o wybodaeth
Beth mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud am goedwigaeth cynaliadwy neu bioamrywiaeth? Rhowch gynnig ar un o'r cysylltau yma i gael gwybod.
Chwiliwch y data-bas cyhoeddiadau am ragor o wybodaeth, neu edrychwch ar Ymchwil Coedwigaeth.

bob amser.

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov