Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to prydain fawr homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  

Coedwig gwyllt mochyn daear
 

Badger - Foraging.Mae’r mochyn daear yn un o’r anifeiliaid mwyaf cyffredin a phoblogaidd ym Mhrydain. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu adnabod y mochyn daear, ond gan mai anifail y nos yw - mae’n aros o dan ddaear yn ystod y dydd ac yn chwilio am fwyd yn ystod y nos - prin y bydd pobl yn ei weld. Bydd yn gadael olion amlwg, ond nid ydym yn ymwybodol o’r rhain yn aml.

Enw

Mochyn Daear (Meles meles)

Bywyd

Cynefin
Mae’r mochyn daear i’w gael ar hyd a lled Prydain, mewn coetiroedd o dan 100 metr fel rheol, ble bynnag y mae amodau megis draeniad a defnydd tir yn caniatáu. Mae’n byw mewn twnneli tanddaearol o’r enw daear, fel rheol mewn grwpiau o rhwng 4 a 12.  Mae gan bob grŵp ei ‘diriogaeth’ ei hun, sy’n amrywio mewn maint o 30 hectar lle ceir digonedd o fwyd i 150 hectar mewn cynefin ymylol.

Bridio
Bydd y mochyn daear gwryw, sef y ‘baedd’ a’r fenyw, sef yr ‘hwch’, yn dod i’w llawn dwf pan fyddant ychydig dros 1 mlwydd oed.  Byddant yn paru yn y gwanwyn fel rheol, a bydd y fenyw yn rhoi genedigaeth y mis Chwefror canlynol. Mae hyn yn ymddangos yn feichiogrwydd hir, ond mae’n cymryd 9 mis i’r embryo ei fewnblannu ei hun yn y groth. Dim ond am 7 wythnos y bydd yr embryo yn tyfu yn y groth.  Fel rheol, mae 2 neu 3 o genawon ym mhob ael, ond nid yw’n beth anarferol i gael 1 neu 4 cenau.  Bydd llai na hanner y cenawon yn goroesi i ddod yn oedolion.

Datblygiad
Bydd y cenawon yn agor eu llygaid ac yn cael eu dannedd sugno pan fyddant tua 6 wythnos oed. Byddant yn gadael eu daear am y tro cyntaf pan fyddant tua 8 wythnos oed. Erbyn eu bod yn 4 mis oed, byddant wedi cael eu dannedd parhaol i gyd.  Yna gallant hela am fwyd heb orfod dibynnu ar laeth eu mam.

Ymborth
Hollysydd yw’r mochyn daear - mae’n bwyta anifeiliaid a phlanhigion - ac mae’n gallu dewis rhwng amrywiaeth fawr o fwyd, gan ddibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn, y tywydd a defnydd tir lleol. Ei ymborth pwysicaf yw pryfed genwair (mwydod) ond bydd hefyd yn bwyta chwilod, adar, cwningod ifanc, cnofilod megis gwiwerod a llygod, ymlusgiaid ac amffibiaid. Bydd hefyd yn bwyta larfâu gwenyn a gwenyn meirch, ffrwythau, ffyngau, grawnfwyd, cnau, hadau ac aeron.

Bygythiadau
Nid oes gan yr oedolyn unrhyw ysglyfaethwyr naturiol. Y bygythiad mwyaf i foch daear yw cystadleuaeth ymhlith ei gilydd, eu hamgylchedd, a gweithgaredd dyn - bydd tua 50,000 o foch daear aeddfed yn cael eu lladd bob blwyddyn mewn damweiniau ar y ffyrdd.

Adnabod
Mae’n hawdd adnabod y mochyn daear oddi wrth y rhesi du a gwyn ar ei ben, er nad  yw’n hawdd ei adnabod oddi wrth ei flew llwydwyn, yn enwedig mewn golau gwael. Nid yw’n gwneud llawer o sŵn, er ei fod weithiau’n udo mewn pleser ac yn chwyrnu a chyfarth pan fo’n bygwth. Mae’n haws gweld olion ei weithgaredd na’r mochyn daear ei hun. Chwiliwch am arwyddion megis llwybrau treuliedig gydag olion traed pum bys, ôl crafu ar goed, pyllau baw, tomennydd o bridd y tu allan i’r deyerydd, gweddillion ei wely, a blew bras a gwrychog.

Sut y rheolwn ein coetiroedd
Erbyn heddiw mae moch daear yn cael eu gwarchod gan y gyfraith, ond buont yn cael eu gwarchod yng nghoetiroedd y Comisiwn Coedwigaeth ers blynyddoedd lawer. Yn y coetiroedd hynny lle y gwyddom fod deyerydd moch daear, trefnwn ein gwaith i sicrhau nad ydym yn amharu arnynt pan fyddant yn bridio. A phan fyddwn yn torri coed ac yn ailblannu, byddwn yn sicrhau bod digon o lystyfiant iddynt fwydo arno.

 


Lle i weld mochyn daear yng Nghymru


Oeddech chi'n gwybod
Mae’r mochyn daear yn cyfathrebu yn blaenaf trwy arogl. Mae’n nhw’n gadael marciau arogl ar moch daear eraill a llwybrau yn eu diriogaeth.
Ystadegau bywyd
Hyd: mae oedolion tua 900mm yn cynnwys cynffon 150mm
Pwysau: 10-12 kg
Hyd oes: tua 6 mlwydd
Niferoedd ym Mhrydain: tua 250,000 o oedolion
Am fwy o wybodaeth
Beth mae'r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud am goedwigaeth cynaliadwy neu bioamrywiaeth? Rhowch gynnig ar un o'r cysylltau yma i gael gwybod.
Chwiliwch y data-bas cyhoeddiadau am ragor o wybodaeth, neu edrychwch ar Ymchwil Coedwigaeth.

bob amser.

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov