
Fe ddaeth arbenigwyr addysg o bob cwr o Gymru ynghyd yn Llaneirwg ar ddiwedd mis Hydref 2010 i ddathlu 10 mlynedd o Ysgol Goedwig yng Nghymru.
Gwnaeth y digwyddiad deuddydd gymysgu cyflwyniadau, gweithdai a siaradwyr oedd yn cynrychioli'r 10 mlynedd diwethaf gyda ffyrdd arloesol o gasglu syniadau ar sut y gallai Ysgol Goedwig ddatblygu yn y 10 mlynedd nesaf.
Cyflwynwyd ymchwil newydd raglen ysgol goedwig a gynhaliwyd dros flwyddyn o amser gydag Ysgol Llanfair, Rhuthun, Sir Dinbych ac fe groesawodd y gynhadledd yr arbenigwyr blynyddoedd cynnar Magnus a Siw Linde o Sweden a gyflwynodd anerchiad diddorol ar y meithrinfeydd Glaw neu Hindda, lle mae plant dan oed ysgol yn treulio pob dydd allan ymhob tywydd.
I gael rhagor o wybodaeth darllenwch yr adroddiad llawn
