|
Sŵ Môr Ynys Môn - 18 Medi 2008

|
Cyfarfu grŵp mawr o 25 ohonom ar gyfer ein cyfarfod cymdeithasol a phicnic cyn inni baratoi i edrych ar y sw. Roedd y tywydd yn garedig wrthym ac mae’r daith at y sw yn eithaf trawiadol gan fod yr hanner milltir olaf ar hyd Afon Menai bron ar lefel y dŵr. Nid yw’n daith i gael tynnu’ch sylw oddi ar y ffordd - mae’r dŵr yn ddigon agos.
Daeth Dylan Evans i’n cyfarfod ac eglurodd am ein bod yn grŵp mawr y byddai yn ein rhannu’n ddau ac yntau’n arwain y grŵp oedd â’r Gymraeg yn iaith y sgwrsio. Roedd Stacy yn arwain y grŵp arall ac roedd rhaid inni adael i’r grŵp cyntaf fod 15 munud ar y blaen. Aethom at y tanciau cyntaf a gweld cymaint oedd o ddiddordeb fel bod cyndynrwydd i symud yn ein blaenau. Roedd arweinwyr y daith yn llawn gwybodaeth ac yn dod â’r ymweliad yn fyw inni. Roedd pobl eraill yn mynd heibio inni heb weld hanner y creaduriaid môr a welon ni.
Mae’n amlwg fod gan y sŵ lefel uchel o hylendid ac roedd yr holl greaduriaid yn edrych yn iach a llawn egni. Roedd y “peiriant tonnau” o ddiddordeb arbennig. Roedd yn ail-greu’r tyrfedd fyddai gan yr anemonau yn ystod eu bodolaeth arferol, a chymerwyd llawer o amser yn astudio rhaglen fridio’r Morfeirch gyda rhai o’r newydd-anedig yn rhy fychan i’w gweld. Mae’r persbecs a ddefnyddir yn rhai o’r arddangosiadau - 6-8 modfedd - yn eich atgoffa o’r pwysau dŵr sy’n cael ei reoli. Fodd bynnag, roedd tynnu ffotograffau drwy’r deunydd hwnnw yn lleihau ansawdd y canlyniadau terfynol. Tua diwedd y daith daethom i gyd at ein gilydd, gydag aelodau eraill o’r cyhoedd, am ei bod hi’n amser bwydo’r siarcod. Roedd yna lawer o fathau gwahanol yn y tanc gan gynnwys cŵn môr ac un Siarc Ysbryd sy’n bwydo drwy hanner ei gladdu ei hun ac yna’n disgwyl am ysglyfaeth i ddod heibio. Ni chymerodd hwn ddim rhan yng nghynddeiriogrwydd y bwydo ond pan gyffyrddodd y “bwydwr” ei drwyn gydag ystifflog (drwy ddefnyddio handlen o bell wrth gwrs) roedd yr ystifflog wedi mynd ac roedd hi’n anodd gweld y siarc yn symud am ei fod mor gyflym.
Diddorol oedd clywed am waith y Sŵ ar ymchwil mewn rhaglenni bridio, mewn cydweithrediad â’r Brifysgol a Sŵau eraill ar hyd a lled y wlad. Maent hefyd wrthi gyda llawer o waith o amgylch Afon Menai a’r arfordir. Diolchwyd i’r tywysyddion am helpu i wneud ein taith yn un mor ddiddorol ac yna aethom i’r caffi wrth gwrs am fwy o de/coffi a theisen.
Cliciwch ar y crynoluniau i gael gweld mwy: © Les Starling
|
Safleoedd defnyddiol
|
 |
 |