| Tudalen gartref > | Dolenni cloi > | Llyfrgell > | Cymorth > |
| Amdanom ni > | Manylion cysylltu > | Newyddion > | |||||||||||
|
| Bwlch Nant yr Arian - 3ydd Gorffennaf 2008
Roeddem wedi cael defnydd o'r ystafell gyfarfod ac fe gasglom yno yn 'cwyno'n siriol' am y tywydd. Dyna phryd sylweddasom fod tua 30 aelod wedi troi i fyny (rhai am y tro cyntaf), ymdrech nodedig yn wir gan ystyried y tywydd. Wrth i ni edrych allan ar y glaw fe dderbyniodd David damaid o dynnu coes am awgrymu mynd am dro cyn cael picnic. Gwenodd gan awgrymu aros am bum munud. Yn ddigon siŵr stopiodd y glaw a thywynnodd yr haul. Aethom i gyd am dro o amgylch y llyn ( gydag ymbareli rhag ofn) gan fwynhau'r lleoliad, rhoi'r byd yn ei le a dal fyny gyda'r wybodaeth sydd yn gymorth i gadw grŵp fel hyn gyda'i gilydd. Yna yn ôl a ni i'r ganolfan am bicnic, rhai hyd yn oed yn gwario eu harian a chael bowlen o gawl. Yna cawsom gyflwyniad gan Peter Garson, o swyddfa Aberystwyth, a'r newyddion diweddaraf ynglŷn â "Goetiroedd Gwell i Gymru" y cynllun grant sydd wedi cymryd lle'r Cynllun Grant Coetir. Fe wnaeth ymdrin â nifer o bynciau eraill ynglŷn â CC Cymru yn enwedig yr ardal o'm cwmpas ac yna fe ddeliodd â nifer o gwestiynau ymchwilgar. Gan ei fod yn amser fynd i weld y Barcudiaid Coch yn cael eu bwydo fe ddaeth ein Cadeirydd Chris Griffiths a phethau i'w terfyn, drwy ddiolch i Peter am ei gyflwyniad. Fe ddewisasom aros ochr draw i'r llyn ac nid yn y guddfan ac fe gawsom olwg berffaith o'r adar godidog yma'n bwydo. Fe ddefnyddiwyd llawer o gamerâu ar beth sy'n destun anodd - mae'n rhyfeddol pa mor gyflym mae'r adar yma'n symud pan fyddwch yn edrych arnynt drwy'r camera - gyda llygad noeth maent i'w gweld yn eithaf digyffro. Yna yn ôl a ni i'r ganolfan am ddiod boeth a thamaid o fwyd. Roeddem wedi dod i ddiwedd diwrnod diddorol gyda chyfnod sefydlog da o dywydd braf, roedd yn werth y siwrnai ac yn llawer gwell na'r disgwyl. Cawsom grynodeb o ddigwyddiadau'r dydd gan Chris ac fe ddiolchodd i Ken Searson a David Legge am drefnu diwrnod bendigedig. Mae trefniadau ar y gweill ar gyfer ein hymweliad nesaf a Sw Mor Sir Fôn, ar Fedi 18fed. Cliciwch ar y crynoluniau i gael gweld mwy: © Les Starling | |||||||||||||