Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Ymweliad â Phlas Tan y Bwlch, Canolfan Astudio Parc Cenedlaethol Eryri – 8fed Mai 2008
 

Plas Tan y Bwlch visit - any excuse to sit down
Plas Tan y Bwlch visit - the gardens were great

Plas Tan y Bwlch visit - our guide, Twm Elias

Ar y diwrnod poethaf o’r flwyddyn hyd yma, croesawodd Chris Griffiths, y Cadeirydd, 31 o aelodau a gwesteion i’n hymweliad maes cyntaf yn 2008. Estynnodd groeso arbennig i’r aelodau hynny sy’n ymweld am y tro cyntaf ers i’w triniaethau am broblemau iechyd eu rhwystro rhag dod yma.

Trefnwyd yr ymweliad gan Mair a Iola. Cafwyd cyflwyniad byr ac yna rhoddwyd y cyfarfod yn nwylo Twm Elias o Blas Tan y Bwlch a roddodd beth o hanes y Plas i ni ac a adroddodd rai storïau diddorol a oedd yn mynd yn ôl genedlaethau lawer. Soniodd am yr adeilad gwreiddiol, ac eglurodd fel y cafodd yr ardal ei thirlunio i gydweddu â’r adeilad ac fel y cafodd yr afon yn y dyffryn ei symud er mwyn creu gwell golygfa dros y dyffryn. Cyfeiriodd hefyd at y chwareli llechi a oedd yn cynnal dull byw moethus rhai o’r perchenogion a soniodd am y partïon drudfawr a gâi eu cynnal yn y Plas a’r arian mawr - £10,000 y flwyddyn - a gâi ei wario ar y blodau ar eu cyfer.

Ar ôl adrodd nifer o storïau difyr, daeth â ni i’r presennol, ac eglurodd fod y Plas bellach yn Ganolfan i Barc Cenedlaethol Eryri (ceir canolfan debyg yn Loosehill yn Ardal y Peak). Prynwyd y Plas a pheth tir, ac mae’r safle bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyrsiau hyfforddi ar y cyd ag Awdurdodau Lleol, y Parc, y Comisiwn Coedwigaeth, y Gwasanaeth Tân, cyrff gwirfoddol, ecolegwyr, ymgynghorwyr a nifer o gyrff eraill gan gynnwys ysgolion.

Yna aeth Twm â ni am dro drwy’r gerddi sy’n cael eu rheoli’n organig. Mae’r Plas yn falch iawn o’r llwyddiant y mae wedi’i gael. Rhoddodd gymorth i gychwyn cystadleuaeth Garddio Bywyd Gwyllt Eryri, sydd bellach wedi ymestyn i Wynedd a Chonwy. Cafwyd ceisiadau i gychwyn cystadlaethau tebyg yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru. Soniodd Twm fel y maent wedi bod yn gwarchod y coed, ac yn cael gwared â’r Ponticum i wneud lle i goed Rhododendron ac Asaleas eraill. Crybwyllodd eu bod yn gofalu am bwll mawr i hybu bywyd gwyllt, a’u bod bellach wedi creu cyfres o weirgloddiau ar gyfer blodau gwyllt.

Ar ôl i’r daith ddod i ben, cafodd pawb ddarn o gacen a chyn gymaint o de a choffi ag y gallent ei yfed (gan gofio am y daith adref), a’r cyfan am £5. Taith dda arall gan Gymdeithas Ymddeol y Comisiwn Coedwigaeth. Diolchodd y Cadeirydd i bawb am y cymorth a gafwyd i wneud i’r trefniadau ar gyfer y prynhawn redeg mor esmwyth.


Cliciwch ar y crynoluniau i gael gweld mwy:

Plas Tan y Bwlch visit - enjoying the groundsPlas Tan y Bwlch visit - some food before the walkPlas Tan y Bwlch visit - John & Gwyn & families 
Plas Tan y Bwlch visit - some members ready for refreshmentPlas Tan y Bwlch visit - Twm telling us the historyPlas Tan y Bwlch visit - one of the views from the gardens

© Les Starling



to DirectGov