|
Cinio Nadolig (White Lion, y Bala): Rhagfyr 7
Nifer dda yn troi allan eto am brynhawn dymunol. Roedd yr ystafell yn llawn. Cawsom y pleser o’n gwesteion gwahoddedig yn ymuno â ni. Ruth Jenkins oedd ein siaradwraig ar ôl cinio. Roedd hwn yn gyfle da inni gael clywed am yr holl wybodaeth ddiweddaraf a chael golwg ar y dyfodol. Roeddem hefyd wedi gwahodd Sue Fuge a’i phartner i ymuno â ni. Mewn cyfarfod gyda Chyfarwyddwr Cymru yn gynharach yn y flwyddyn roedd wedi cynnig gwasanaethau’r CC yn Aberystwyth i ddosbarthu’n gwahoddiadau, cofnodion ac agendâu ac wedi enwebu Sue i fod yn gyswllt inni. Bydd hyn o gymorth aruthrol inni. Incwm cyfyngedig sydd gennym a gallwn yn awr wneud gwell defnydd ohono. Cynigiodd hefyd gyfleusterau gwefan y CC inni gyda Jeff yn gyswllt a dyma sut byddwch yn darllen y tudalennau hyn. Edrychwn ymlaen at yr ymwneud agos hwn yn parhau. Cliciwch ar y crynoluniau i gael gweld mwy:
© Les Starling
|
Safleoedd defnyddiol
|
 |
 |