Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Neuadd Erddig (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol): Medi 12
 

Trefnwyd yr ymweliad gan John Roe ac roedd y tywydd yn fendigedig. Cafodd y cadeirydd drafferth yn dwyn y picnic i ben ond yn y diwedd dyma gychwyn ar ein hymweliad. Yn y fynedfa cwrddom â Steve Griffiths, swyddog yr YG sy’n gyfrifol am y coed a’r tiroedd helaeth (ar wahân i’r ardd). Roedd un o geffylau’r Ymddiriedolaeth ganddo yn cael ei arddangos a dangosodd inni’r offer logio ceffylau diweddaraf a ddefnyddid ganddynt. Mae Erddig wedi gweithio’n agos gyda’r CC a phrynwyd y tîm o geffylau sy’n gweithio yn y coed mewn ffordd gynaliadwy. Maent yn defnyddio llawer o bren ar y safle ar gyfer prosiectau gwahanol, ac yn ystod yr oriau agor defnyddir y ceffylau i roi teithiau "merlen a thrap", ac mae hyn o gymorth iddynt dalu am eu lle. Y bwriad yw ceisio disodli’r defnydd ar dractorau ar y stad gan nerth ceffylau erbyn 2010. Ar ôl hyn cawsom hanes cryno am yr eiddo ac roedd hyn yn ddiddorol dros ben. Gyda’r ochr ffurfiol drosodd roeddem yn rhydd i grwydro’r tŷ ac archwilio’r gerddi ymlaciol gyda choed leim a chasgliadau cenedlaethol o eiddew a chelyn.



Cliciwch ar y crynoluniau i gael gweld mwy:


Coed y Brenin visitErddig Hall visit Erddig Hall visit 

Erddig Hall visit Erddig Hall visit

© Les Starling


Safleoedd defnyddiol


to DirectGov