| Tudalen gartref > | Dolenni cloi > | Llyfrgell > | Cymorth > |
| Amdanom ni > | Manylion cysylltu > | Newyddion > | |||||||||||
|
| Coed y Brenin: Mai 23
Cwrddom yn y maes parcio i’r gogledd o Ddolgellau am ein cyfarfod cinio picnic cymdeithasol arferol tua chanol dydd. Fel arfer roedd nifer dda wedi dod ynghyd. Trefnwyd yr ymweliad gan Mair Jones ac Iola Davenport a phan oeddem yn barod cerddom i fyny’r dyffryn a chael taith dywysedig (diolch yn fawr iawn i Nia Rowlands) o amgylch yr Abaty yn Llanelltyd. Difyr tu hwnt oedd clywed am hanes yr ardal oddi amgylch a hanes yr Abaty ei hun. Yna aethom i Dy’n y Groes i weld y Pinwydd Douglas trawiadol. Ar y pwynt hwn roeddem yn cwrdd â Ruth Jenkins (Rheolwraig Ardal y Goedwig) a chael gwrando ar gefndir y safle rhagorol hwn. Wedyn aethom i Ganolfan newydd y Goedwig ym Maesgwm lle daeth y prynhawn i ben gyda lluniaeth drwy garedigrwydd y Comisiwn Coedwigaeth.
Cliciwch ar y crynoluniau i gael gweld mwy:
© Les Starling | Tudalennau cysylltiedig
Safleoedd defnyddiol
|
||||||||||