Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Digwyddiadau FCA (Gogledd Cymru)
 

Os byddwch o gwmpas byth byddwch yn gwybod os dewch ar draws yr FCA. Mae sŵn y siarad, y chwerthin a’r gweithgarwch yn anhygoel. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau cymdeithasol da iawn ac nid ydynt mor ddrud â hynny am ein bod rywsut yn llwyddo i drafod cael gostyngiad da bob tro - does dim byd mor ddigywilydd â gweithiwr CC wedi ymddeol – maent wedi eu hyfforddi’n dda. Mae gennym bobl newydd yn ymuno â ni drwy’r amser ac os ydych erioed wedi gweithio i’r CC yna dewch yn eich blaenau a rhoi cynnig arnom.


Digwyddiadau 2007

 

 Digwyddiadau 2008

  • Plas Tan y Bwlch (Maentwrog): Mai 8
  • Bwlch Nant yr Arian (ger Aberystwyth) – Gorffennaf 3
  • Sŵ Môr Ynys Môn (Brynsiencyn) – Medi 18
  • Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r Cinio Nadolig yng Ngwesty Gwledig Fronoleu, Dolgellau, Ddydd Gwener Rhagfyr y 5ed 2008. Y gost ar gyfer pob person fydd £15.00. Byddwn yn ymgasglu o 11.30am ymlaen a bydd y cinio am 12.30pm.
    Mae ein Cadeirydd yn estyn croeso cynnes i chi a’ch cyfeillion. Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn syth ar ôl cinio.
    Os ydych am ddod, a fyddech cystal â chysylltu â Mr Ken Searson, 9 Maesnewydd, Machynlleth, Powys, SY20 8XA cyn gynted â phosibl a heb fod yn hwyrach na Dydd Sadwrn Tachwedd yr 22ain 2008.

     

Os nad ydych wedi bod wrthi gyda’r Gymdeithas Ymddeol o’r blaen ac am ymuno neu fynychu cyfarfodydd cysylltwch â ni fel y gallwn gysylltu’n bersonol.

E-bost: fcwales@forestry.gsi.gov.uk


Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov