Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  


Cymdeithas Ymddeol y Comisiwn Coedwigaeth (Gogledd Cymru)
 

Couple walking along a forest trailFfurfiwyd "Cymdeithas Ymddeol y Comisiwn Coedwigaeth" (FCA) yn 1999, ac ar hyn o bryd mae ganddi tua 90 o aelodau ac mae’n rhan o rwydwaith ar draws y DU. Edrychwch ar y dudalen cysylltiadau i weld eich cysylltiadau lleol ar draws y DU.

Mae croeso i holl weithwyr y Comisiwn Coedwigaeth sydd wedi ymddeol (yn ogystal â’r sawl sydd ar fin ymddeol) ymuno â’r FCA, ni waeth pa swydd oedd gennych, a bydd pawb yn cael eu trin yr un fath â’i gilydd. Dim ond un nod sydd gennym yn y bôn a hynny yw mwynhau bywyd: i’r diben hwnnw mae’r FCA yna i’ch helpu chi. Byddwn yn trefnu nifer o ymweliadau maes bob blwyddyn â mannau diddorol yn ardal Gogledd Cymru, a bydd llawer yn dod ar ein hymweliadau. Y llynedd (2007) cawsom ymweliad â Choed y Brenin ger Dolgellau, y Mynydd Gwefru yn Llanberis a Neuadd Erddig ger Wrecsam. Bydd nifer dda yn dod bob tro (gall fod tua 30) a bydd ein lletywyr yn edrych ar ein holau yn dda. Byddwn yn cyfarfod fel arfer tua chanol dydd am ginio picnic ac i gychwyn rhan gymdeithasol y diwrnod, ac yn gorffen tua 5:00pm.

Ar ben hyn mae gennym Ginio Nadolig, a gynhaliwyd yn 2007 yn y Bala ddechrau Rhagfyr ac a fynychwyd gan bron i 60 o aelodau a’u cyfeillion.

Ceir adroddiad byr gyda ffotograffau ar y dudalen digwyddiadau.

Playing a wooden xylophone at Coed y Brenin visitor centre.Mae’r pwyslais ar fod yn gymdeithasol a bydd y prynhawniau yn teimlo’n llawn o sgwrsio, chwerthin ac ychydig o gellwair ysgafn!

Gall unrhyw un sydd wedi ymddeol a’i bartner fod yn aelodau am oes am £20 neu dalu tanysgrifiad blynyddol o £3 (2008). Mae croeso i bartneriaid a theuluoedd ymuno gyda ni a gweithredu fel gyrwyr weithiau.

Rydym wedi sefydlu Pwyllgor Rheoli bywiog sy’n cyfarfod yn rheolaidd. Byddai’r Pwyllgor ar gael i gynorthwyo, os ceir cais, os bydd aelod yn dioddef gyda phroblem lles.

Mae’r CC ar hyn o bryd yn rhoi cefnogaeth weinyddol dda i’r grŵp ac yn cynorthwyo i gadw’r costau gweinyddu dan reolaeth – mae hyn yn cael ei werthfawrogi’n fawr, wrth gwrs.

Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni am fwy o wybodaeth.




to DirectGov