| Home > | Quick links > | Library > | Help > |
| About us > | Contact us > | News > | |||||||||||
|
| Cynllun Gwarchod Coedwigoedd yn cael ei ehangu
Yn dilyn y fenter Gwarchod Coedwigoedd mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn dwysáu ei brwydr yn erbyn troseddwyr sydd yn torri'r gyfraith yng nghoedwigoedd De Cymru. Ers cychwyn y cynllun yn ardal Castell Nedd a Phort Talbot yn 2007, mae wedi darparu gwybodaeth sydd wedi arwain i arestiadau, gostyngiad yn tipio anghyfreithlon a gadael ceir a chyflwyno gwybodaeth werthfawr i weithrediadau'r heddlu yng nghoedwig De Cymru, coedwig drefol fwyaf Ewrop. Bellach, mae CC Cymru yn edrych tuag at ehangu'r cynllun i gynnwys coetiroedd i'r gogledd o Gaerdydd, Cwmcarn, Abertyleri, Tredegar a Chaerffili. Mae'r cynllun yn gweithio drwy ddarparu pobl gyda rhif ffôn un-pwrpas a chyfeiriad e-bost er mwyn i'r cyhoedd fedru rhoi gwybodaeth yn gyfrinachol. Fe geir ei gydlynu gan PC Andrew Scourfield, sef y Swyddog Troseddau Coedwig gyntaf i'w gael ei apwyntio gan CC Cymru, sydd yn gweithio o swyddfa'r Comisiwn yn Resolfen, Castell Nedd. Mae cynllun Castell Nedd a Phort Talbot wedi bod yn werthfawr iawn, gyda mwy na 40 o bobl yn gweithredu fel "llygaid a chlustiau" i'r Comisiwn a darparu gwybodaeth bwysig yn y frwydr yn erbyn troseddau yn ein coedwigoedd. Fel canlyniad i'r wybodaeth yma fe arestiwyd tipwyr anghyfreithlon, gyrwyr sydd wedi'u gwahardd rhag gyrru mewn cerbydau oddi ar y ffordd, a gostyngiad yn y poendod o gerbydau oddi ar y ffordd a thipio anghyfreithlon. Yn ogystal mae wedi canfod ardaloedd mannau poeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol ym meysydd parcio Comisiwn Coedwigaeth Cymru sydd wedi galluogi unedau'r heddlu i gario allan cylchwylfeydd effeithiol. Drwy'r fenter partneriaeth Heddlu De Cymru ac awdurdod lleol llwyddiannus yma mae Gwarchod Coedwigoedd yn rhoi cyfle i aelodau a chymunedau lleol i chwarae rhan allweddol yn gostwng troseddau yn ein coedwigoedd a chefn gwlad. Fe fydd aelodau yn cael pecyn Gwarchod Coedwigoedd a chyfle i fynychu cyfarfodydd. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn gysylltiedig gysylltu gyda PC Andrew Scourfield ar 0845 604 0845 neu gyfeiriad e-bost Gwarchod Coedwigoedd forestwatch@forestry.gsi.gov.uk | ![]()
Useful sites
|
|||