Ymgyrch ‘Corn Carw’ - Y Cynllun Gwarchod Coedwigoedd yn targedu hela ceirw yn anghyfreithlon
Mae Heddlu De Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth wedi dod at ei gilydd er mwyn mynd i’r afael â hela ceirw yn anghyfreithlon yng nghefn gwlad De Cymru. Byddant hefyd yn cydweithio ag awdurdodau lleol i dargedu potswyr sy’n mynd o gwmpas tafarnau a thai bwyta yn y cyfnod cyn y Nadolig yn ceisio gwerthu cig carw. Mae’r Ymgyrch Corn Carw yn rhan o’r cynllun Gwarchod Coedwigoedd a lansiwyd yn gynharach eleni i godi ymwybyddiaeth ac i annog pobl i roi gwybod am droseddau yng nghefn gwlad.
Meddai PC Andrew Scourfield, plismon o Heddlu De Cymru sydd wedi cael ei secondio i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru: "Mae ystad y Comisiwn Coedwigaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r coedwigoedd i’r gorllewin o Faesteg yn gartref i hyddgant neu yr o Hyddod Brith. "Ni wyddom yn union faint o geirw sydd yn yr ardaloedd hyn, ond amcangyfrifir fod yna gannoedd ohonynt, os nad mwy. "Mae’r potswyr wedi bod yn targedu’r ardaloedd hyn yn rheolaidd ers blynyddoedd, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, a bydd rhai ohonynt yn gwerthu’r cig carw i dafarnau a thai bwyta lleol. Mewn rhai rhannau o’r wlad, mae potswyr yn gwneud llawer iawn o arian drwy’r gweithgaredd anghyfreithlon hwn." Mae’n bosibl bod gan y cyhoedd ddelwedd ramantaidd o’r potsiwr, a’u bod yn dychmygu gweld unigolyn yn hela gyda dryll yn y nos er mwyn cael cig ar gyfer y bwrdd, ond mae’r darlun gwirioneddol yn dra gwahanol yn anffodus. Mae’r potsiwr heddiw yn llawer mwy soffistigedig, ac mae’n debygol iawn ei fod hefyd yn euog o droseddau megis delio â chyffuriau, byrgleriaeth, dwyn neu dwyll. Mae gan y potswyr gerbydau gyriant pedair olwyn, reifflau pwerus a chŵn hela megis cŵn potswyr (lurchers). Ychwanegodd Kay Williams, rheolwr ardal Comisiwn Coedwigaeth Cymru: "Bydd potswyr yn defnyddio unrhyw ddull posibl i fynd drwy rwystrau diogelwch y Comisiwn Coedwigaeth yn anghyfreithlon. Maent wedi defnyddio peiriannau llifanu ongl, offer weldio a hyd yn oed jac codi baw yn y gorffennol.
"Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn Ne Cymru yn creu coedwigoedd mwy integredig ac yn hyrwyddo ardaloedd megis Parc Coedwig Afan, ac rydym wedi gweld bod nifer y gweithwyr a’r rhai sy’n defnyddio’r goedwig yn gyfreithlon ar gynnydd. "Mae digwyddiadau beicio mynydd a theithiau natur yn y nos ar gynnydd yn yr ardaloedd hynny lle mae’r ceirw’n byw a lle ceir potsian." Rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r mater hwn drwy’r cynllun Gwarchod Coedwigoedd llwyddiannus a thrwy ymweld â ffermydd a thai lleol, ac mae mwy a mwy o bobl yn cysylltu â ni i roi gwybod i ni am achosion o hela ceirw yn anghyfreithlon. Mae clywed sŵn reiffl yn cael ei thanio, sŵn cerbydau yn y goedwig yn y nos a gweddillion megis perfedd, coesau a phennau, i gyd yn arwydd o botsian ceirw. Mae pryderon hefyd ynghylch creulondeb i’r ceirw, gan ei bod yn annhebygol bod y potswyr hyn yn helwyr hyfforddedig neu brofiadol. Mae’n debyg iawn nad ydynt yn gwybod y rheolau, megis pa bryd i saethu, neu ba ran o’r corff i saethu ato i sicrhau eu bod yn lladd yr anifail yn syth. Er enghraifft, os yw carw yn cael ei saethu yn ei geg, mae’n debyg y bydd yn llwgu i farwolaeth. Os yw’r ewig yn cael ei lladd cyn yr elain, bydd yr elain yn llwgu heb ei mam. Mae tystiolaeth bod rhai potswyr wedi defnyddio arfau amhriodol ac anghyfreithlon megis bwâu croes a gynnau haels, sy’n ei gwneud yn fwy tebygol y bydd yr anifail yn dioddef. Yn ogystal â’r elfen o greulondeb i anifeiliaid, bydd yr ymgyrch hefyd yn canolbwyntio ar hylendid bwyd, a bydd swyddogion iechyd amgylcheddol yr awdurdod lleol yn ymweld â thafarnau, tai bwyta a gwestai ac yn dosbarthu taflenni er mwyn codi ymwybyddiaeth o beryglon a goblygiadau cyfreithiol prynu neu werthu cig carw sy’n dod o ffynonellau anghyfreithlon. Meddai Steve Adie, prif swyddog safonau masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Rydym yn gwybod bod potswyr yn mynd o gwmpas tafarnau a thai bwyta lleol i geisio gwerthu cig carw, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig.
"Os nad yw’r cig yn cael yn cael ei grogi yn y dull cywir bydd tocsinau yn crynhoi, ac os bydd y cig yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd gall achosi niwed difrifol i iechyd y cyhoedd." Ychwanegodd Mike Thomas, Swyddog Safonau Masnach Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr: "Bydd pob carw sy’n cael ei ladd gan helwyr hyfforddedig yn cael ei archwilio gan berson cymwys cyn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol. "Ni fydd ceirw sy’n cael eu lladd gan botswyr yn cael eu harchwilio, ac mae hyn yn peryglu iechyd y cyhoedd." Dywedodd PC Scourfield bod yr ymgyrch yn cynnwys pedair prif elfen – addysg, gwybodaeth, atal a gorfodi. "Y nod yw codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o hela ceirw yn anghyfreithlon er mwyn derbyn mwy o wybodaeth a thynnu sylw at y perygl o brynu cig carw sy’n dod o ffynonellau amheus, " ychwanegodd. "Mae gan Heddlu De Cymru nifer o unedau arbenigol a fydd yn gofalu am agwedd orfodi yr ymgyrch ac yn ymchwilio i, ac yn erlyn y rheiny sy’n hela ceirw yn anghyfreithlon." Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am hela ceirw yn anghyfreithlon, am botswyr neu am werthu cig carw yn anghyfreithlon, gallwch gysylltu â PC Scourfield yn gyfrinachol neu â Crimestoppers isod: PC Andrew Scourfield 01633 580234 forestwatch@forestry.gsi.gov.uk
Crimestoppers 0800 555 111
|