Beiciau oddi ar ffordd, beiciau pedair olwyn a cherbydau 4x4 ar dir y Comisiwn Coedwigaeth
Tra bod Comisiwn Coedwigaeth Cymru a’r Heddlu yn cydnabod y gall gyrru oddi ar ffordd fod yn llawer o hwyl, mae’n rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan parchu’r gyfraith ac eraill a pheidio ag achosi difrod i fywyd gwyllt a’r amgylchedd.
Mae defnyddio cerbydau oddi ar ffordd yng nghoedwigoedd Cymru nid yn unig yn torri is-ddeddf y Comisiwn Coedwigaeth ond yn ogystal yn arwain i nifer o droseddau eraill lle mae’r troseddwr mewn perygl o gael ei gerbyd wedi ei atafaelu a chael ei riportio am wŷs. Yn ogystal mae yna nifer o ddamweiniau difrifol wedi digwydd rhwng beicwyr modur/gyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr coedwigaeth. Felly beth mae’r gyfraith yn ei ddweud? Mae Adran 59 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu yn berthnasol i ddau drosedd oddi ar ffordd benodol. 1. Gyrru beiciau modur/cerbydau yn esgeulus neu anystyriol ar ffordd neu le cyhoeddus. 2. Gyrru beiciau modur/cerbydau ar dir sydd ddim yn ffurfio rhan o ffordd, megis tir comin, gweundir, llwybr troed, marchlwybr. Mae Adran 34 o Ddeddf Traffig y Ffyrdd 1988 yn datgan ei fod yn anghyfreithlon i yrru beiciau modur/cerbydau ar dir y Comisiwn Coedwigaeth, tir comin, rhostir neu unrhyw ddarn o dir sydd yn ffurfio rhan o ffordd, heb ganiatâd. Gall heddwas gyda seiliau rhesymol i gredu nad oes gofal a sylw dyladwy yn cael ei gymryd NEU fod beiciau modur/cerbydau 4x4 yn cael eu gyrru mewn mannau sydd oddi ar ffordd neu fod gweithgaredd yn achosi anfodlonrwydd, ofn neu drallod i aelodau’r cyhoedd, stopio’r gyrrwr ac yn dilyn rhoi rhybudd, atafaelu a symud y cerbyd. Os fydd rhiant neu warcheidwad yn gadael eu plant i yrru cerbyd neu feiciau oddi ar y ffordd o unrhyw fath yn anghyfreithlon mae’n bosibl y cant eu riportio a’u cyhuddo o ganiatáu i’w plentyn ddefnyddio cerbyd modur heb y dogfennau perthnasol. Nodyn i rieni:
Cyn prynu cerbyd oddi ar y ffordd i’ch plentyn fyddai’n ddoeth i ddarganfod ble fyddent yn medru ei ddefnyddio’n gyfreithlon, nid oes yna lawer o safleoedd cyfreithlon yng Nghymru ar hyn o bryd. Nid yw tir y Comisiwn Coedwigaeth yn safle cyfreithlon. Mae’r heddlu yn cynnal gweithrediadau gorfodi rheolaidd drwy dir y Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru ac wedi cyhoeddi cannoedd o rybuddion ac atafaelu nifer o feiciau. Er bod gorfodaeth yn un dewis o daclo gyda’r broblem gynyddol yma, rhan allweddol o’n ymdriniaeth fydd drwy addysg a darpariaeth, gweithio gydag Awdurdodau Lleol, yr Heddlu, tirfeddianwyr a’r cyhoedd. Am ragor o wybodaeth ar y gyfraith a cherbydau oddi ar y ffordd cysylltwch â gorsaf heddlu lleol.
|