Gwastraff – Gollwng heb ganiatād/ yn niweidiol neu ‘Dipio anghyfreithlon’
Defnyddir tir y Comisiwn Coedwigaeth yn gyson fel man gollwng gan dipwyr anghyfreithlon. Datgelwyd cannoedd o achosion o dipio anghyfreithlon ar hyd a lled coedwigoedd Cymru, ar gost o gannoedd o filoedd o bunnoedd i’r CC a’r trethdalwr.
Yn ogystal ā bod yn gostus, mae troseddau o’r fath yn anharddu ac yn beryglus i bobl, yr amgylchedd a bywyd gwyllt. Mae staff y Comisiwn Coedwigaeth wedi darganfod gwahanol fathau o sbwriel wedi’u tipio’n anghyfreithlon gan gynnwys teiars ceir (wrth eu cannoedd), asbestos, carpedi, rwbel adeiladu, gwastraff cartref, nwyddau trydanol a hyd yn oed celanedd anifeiliaid marw. Byddai wedi bod modd rhoi peth o’r gwastraff a ‘ollyngwyd yn anghyfreithlon’ yn hawdd iawn yn safleoedd cyfleusterau’r awdurdodau lleol, neu hyd yn oed eu rhoi gyda’r biniau. Ers secondio swyddog o’r heddlu i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yng Nghoed Y Cymoedd (Rhanbarth De Cymru), cynhaliwyd gweithrediadau ac ymchwiliadau ar y cyd rhwng yr heddlu, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Awdurdod Lleol. Bu gwyliadwriaeth ddirgel ar fannau o ‘bryder mawr’ ar dir y CC ac oddi amgylch. Yn sgil y gweithrediadau llwyddwyd eisoes i nodi ac arestio tipwyr anghyfreithlon a chafwyd gostyngiad mewn tipio anghyfreithlon mewn rhai mannau. Felly beth sydd gan y gyfraith i’w ddweud ynglŷn ā thipio anghyfreithlon?
Mae Adran 33 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn gwahardd gollwng, trin neu gael gwared ar wastraff heb ganiatād neu mewn modd niweidiol. 33(1) O dan isadran (2) a (3), rhaid i unigolyn beidio ā: (a) gollwng gwastraff sydd wedi’i reoli, nac achosi’n fwriadol na gadael iddo gael ei ollwng yn fwriadol ar unrhyw dir oni bai bod trwydded rheoli gwastraff yn rhoi caniatād iddo gael ei ollwng mewn grym a bod y gollwng yn unol ā’r drwydded; (b) trin, cadw na gwaredu gwastraff sydd wedi’i reoli, nac achosi’n fwriadol na gadael iddo gael ei drin, ei gadw neu ei ollwng yn fwriadol: (i) ar unrhyw dir, neu (ii) Trwy gyfrwng unrhyw drinfa symudol. Oni bai bod hynny dan neu’n unol ā thrwydded rheoli gwastraff; (c) trin, cadw neu gael gwared ar wastraff sydd wedi’i reoli mewn modd sy’n debygol o lygru’r amgylchedd neu andwyo iechyd dynol. Gellir arestio rhyw un heb warrant ac os bydd wedi’i gael yn euog caiff ei ddedfrydu i chwe mis o garchar a / neu ddirwy nad yw’n fwy na £50,000, am gyhuddiad am dymor nad yw’n hwy na phum mlynedd a / neu ddirwy.  Ā phwy y dylwn i gysylltu os oes gennyf wybodaeth am dipio anghyfreithlon?
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am dipio anghyfreithlon neu’n amau rhywun o dipio’n anghyfreithlon ar dir y CC yn ne Cymru, cysylltwch ā: Cwnstabl Heddlu 3753 Andrew Scourfield (Swyddog Troseddau Coedwig) yn gyfrinachol ar 08456040845, cewch anfon e-bost at forestwatch@forestry.gsi.gov.uk neu gysylltu ā llinell frys yr Asiantaeth Amgylchedd ar 0800 80 70 60 Neu Dīm Gorfodi Gwastraff eich awdurdod lleol. Mewn argyfwng ffoniwch yr heddlu ar 999.
|