Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Newyddion yr Uned ac Adroddiadau’r Farchnad
 

- y newyddion diweddaraf - 2il Hydref 2008

Cyfarfod Cyswllt Cwsmeriaid

Yn dilyn ein llythyr atoch rai misoedd yn ôl, hoffwn eich atgoffa am y Diwrnod Cyswllt Masnachwyr Blynyddol.

Rwyf yn sylweddoli eich bod yn gorfod rhoi llawer o sylw i’r sefyllfa economaidd ar hyn o bryd, ond gobeithiaf serch hynny y byddwch yn gallu ymuno â ni unwaith eto yng Nghanolfan Ymwelwyr Nant yr Arian ar 21ain Ionawr 2009.

Fel yn y blynyddoedd gynt, rydym wedi ceisio darparu agenda bwrpasol a pherthnasol, tra’n cyflwyno rhai eitemau sydd o ddiddordeb ehangach yr un pryd.  Amgaeir yr agenda er gwybodaeth.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau eich bod yn gallu dod drwy e-bostio Jeanette Freeman neu ffonio 01970 821214 erbyn 9fed Ionawr 2009.

Edrychwn ymlaen at eich gweld

Hugh Jones
Pennaeth yr Uned
Cynaeafu a Marchnata Cymru

- y newyddion diweddaraf - 2il Hydref 2008

Cyfarfod Cyswllt Cwsmeriaid

 Mae Cynaeafu a Marchnata Cymru yn dymuno cyhoeddi y bydd y cyfarfod cyswllt cwsmeriaid nesaf yn cael ei gynnal ar Ddydd Mercher 21ain Ionawr 2009. A fyddech cystal â gwneud nodyn o hyn yn eich dyddiadur. Mae croeso i’n holl gwsmeriaid, ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â chi a thrafod pob agwedd ar y diwydiant coed.

Nid ydym wedi penderfynu ar y lleoliad hyd yma, ond bydd gennym wybodaeth bellach ym mis Tachwedd 2008.


- newyddion diweddaraf – 29ain Awst 2008

Cyfarfod i ragbaratoi Masnach ynglŷn â chynlluniau Contractau Tymor Hir

Yn fuan fe fydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n cynnig tua phymtheg o leiniau, yn cynnwys coed (sy’n) sefyll a choed min y ffordd, fel contractau tymor hir dros gyfnod o bum mlynedd. Fydd y contractau yn cychwyn ar y 31ain Hydref 2008 gyda rownd amodau rhagarweiniol. Hwn fydd yr olaf yn y gyfres bresennol o gynigion CTH gan CC Cymru.

Fel rhan o’m hymrwymiad i ddarparu gwybodaeth o flaen llaw ynglŷn â’n rhaglen CTH rydym yn cynnal sesiwn rhagbaratoi ar gyfer cyrff diwydiant coedwigaeth a buddgyfranogwyr eraill.  Mae gwahoddiad i chi fynychu cyfarfod bydd yn cael ei gynnal yng Ngwesty’r Ddraig Trefaldwyn ar ddydd Mercher 24ain Medi 2008.

Fe fydd te a choffi ar gael wrth gyrraedd am 10.00 a chinio bwffe ar ddiwedd y cyfarfod am 13.00. Fe fydd staff CC yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer rownd terfynol y CTH ac fe fyddant ar gael i ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych.

Fyddwn yn ddiolchgar petaech yn cadarnhau eich bod yn dod naill ai drwy e-bost claire.evans@forestry.gsi.gov.uk neu drwy ffonio 01970 821205 cyn dydd Mercher 17eg Medi 2008.


- newydd diweddaraf – 1af Awst 2008

WHaM yn Anfon Goruchwylwyr Safle Newydd

Bellach, mae gan Gynaeafu a Marchnata Cymru drefn newydd wrth ddyrchafu swydd yr Anfonwr yn Oruchwyliwr Safle. Fel rhan o raglen ailstrwythuro newydd, crëwyd tri safle newydd yn ôl ym mis Mehefin eleni. Bydd y Goruchwylwyr Safle newydd yn gyfrifol am safonau iechyd a diogelwch a chyflwyno’r contract, yn ogystal â rheoli ansawdd, rheoli maint a safonau amgylcheddol ar safleoedd cynaeafu byw.

Yn dilyn ceisiadau llwyddiannus, cynigiwyd swydd i Dave Price a Graham Thomas, y ddau’n gynanfonwyr WHaM, yng nghanolbarth a gogledd Cymru yn ôl eu trefn. Mae WHaM hefyd yn dweud "croeso" wrth Tom Blythe. Mae Tom wedi symud o’n ffrindiau yn y gogledd lle ymunodd â’r Comisiwn yn gyntaf yn Weithredwr Rheoli Coedwig Prentis yn Rhanbarth Coedwig West Argyle i fod y trydydd Goruchwyliwr Safle sy’n gofalu am Dwyi yn ne Cymru. Bydd y triawd yn gweithio wrth ochr â John Mills sy’n gofalu am ein safleoedd cynhyrchu uniongyrchol ar draws Cymru.

Ymhellach, mae WHaM yn croesawu dau aelod staff arall i’w rengoedd. Mae Iwan Parry, ein Rheolwr Contract Tâl Dewisol ar gyfer Canolbarth Cymru, yn ymuno â ni o Grantiau a Thrwyddedau lle roedd e’n Swyddog Coetir i Wynedd a Môn. Ac yn olaf, bydd Martyn Phillips yn derbyn rôl Goruchwyliwr Biomàs ym mis Awst yn gweithio gyda Marius Urwin wrth gyflwyno’n rhaglen Biomàs. Mae’n ymuno â ni o Uned Coedwrol Cymru lle roedd e’n gweithio fel Goruchwyliwr Gwaith yn ne Cymru.

Mae pawb yn Cynaeafu a Marchnata Cymru’n dymuno pob lwc iddyn nhw i gyd yn eu rolau newydd.


- newydd diweddaraf – 19fed Chwefror 2008 Timberjack TimberNavi in forest (GPS) satellite navigation and mapping.
 
Y Comisiwn Coedwigaeth yn defnyddio Llywio â Lloeren (GPS) yn y goedwig

Mae’n annhebygol y bydd fflyd cynaeafu Cymru’n mynd ar goll ers i’r datblygiadau diweddar mewn technoleg gyfrifiadurol ganiatáu dangos lleoli map amser go iawn y tu mewn i gabanau cynaeafwyr a cherbydau ‘o’r radd flaenaf’.  Byddai unrhyw un sy’n gyfarwydd ag amlbwrpasedd meddalwedd GIS yn teimlo’n gartrefol ar unwaith wrth edrych ar yr haenau cyfyngu a mapiau sy’n caniatáu i’n gweithredwyr cynaeafu ddychmygu eu safle mewn cysylltiad â pheryglon hysbys ar safle cynaeafu.  Dros y misoedd nesaf, mae Jack, Steve a Deryck yn ein tîm Cambriaidd yn ystyried defnyddio’r feddalwedd ‘TimberNavi’ hon wrth uchafu prosesu coed a chyflenwad i ymyl y ffordd.


- y newyddion diweddaraf - 21 Rhagfyr 2007

Cynhelir Diwrnod Cysylltu â’r Cwsmeriaid ar 21 Chwefror 2008 – yn Nant yr Arian

Anfonwyd llythyr at gwsmeriaid heddiw i roi gwybod iddynt am y trefniadau ar gyfer y diwrnod Cysylltu â’r Cwsmeriaid nesaf. Ceir crynodeb o gynnwys y llythyr isod.

Cynhelir Diwrnod Cysylltu â’r Cwsmeriaid ar 21 Chwefror 2008 yng Nghanolfan Ymwelwyr y Comisiwn Coedwigaeth yn Nant yr Arian  - Ponterwyd, ger Aberystwyth - SY23 3AD.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 10am gyda choffi o 9.30am ymlaen - darperir cinio. Y bwriad yw gorffen am 1pm. Wedyn, byddwn yn darparu gweithdy E Werthiant i bob cwsmer sydd â diddordeb sydd am aros ar gyfer y prynhawn.

Caiff manylion ac adroddiadau eu hanfon at bawb a fydd yn mynychu cyn y digwyddiad; a fyddech cystal â chadarnhau eich bod yn dod, erbyn 31 Ionawr 2008 trwy roi gwybod i Jeanette Freeman - naill ai dros y ffôn (01974 821214) neu e-bost.

Nid ydym wedi llunio’r agenda’n llawn eto a byddem yn falch o dderbyn unrhyw awgrymiadau gennych am bethau i’w cynnwys. Ar hyn o bryd mae gennym yr eitemau canlynol o bosib’:

niferoedd 06/07 a 07/08
Cynlluniau Gwerthiant 08/09 a 10/11
Y newyddion diweddaraf am LTC
Y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau E -fusnes - gan gynnwys cyfleuster E arwerthiant
Materion Cludiant a Diogelwch


- Newydd diweddaraf - 12fed Rhagfyr 2007

MYFYRWYR TRAMOR YN YMWELD â THREIALON SCEI

Ar y 5ed Rhagfyr 2007 fe ymwelodd Myfyrwyr Gradd Meistr Prifysgol Bangor a Choedwig Clocaenog, roedd y pynciau a ddangoswyd ac a drafodwyd ar gynaeafu Systemau Coedwrol Effaith Isel o ‘ dethol coed fframio drwodd i dynnu allan copaon y coed’ a materion cynaeafu prif ffrwd arall. Roedd y myfyrwyr o Ganolbarth Asia, India, yr Affrig, Rwsia a llawer o wledydd Ewropeaidd eraill. John Williams, Rheolwr Fflyd newydd CaMC oedd yn arwain yr ymweliad a hynny gyda chymorth Rheolwr Cynhyrchu’r Gogledd Roger Nock a’r Swyddog Cynllunio Dave Williams o Ranbarth Coedwigo Coed y Gororau.


- Newyddion diweddaraf -  5ed Medi 07

YMGYNGHORIAD CONTRACT HIR DYMOR

Derbyniasom deg ymateb oddi wrth ein cwsmeriaid i’n ceisiadau am eu safbwynt. Rydym yn ddiolchgar ac yn diolch i bawb a gymerodd yr amser a thrafferth i ysgrifennu atom. Nodir pwyntiau allweddol yr ymatebion yn y ddogfen yma.

Mae ein hymateb yn rhoi ychydig o arwydd o ble rydym yn bwriadu addasu ein hymdriniaeth o werthiant CHD. Fodd bynnag mae’n rhaid i ni gael cyngor cyfreithiol felly ni ddylai’r ddogfen yma ddarllen fel ymrwymiad pendant. Yn benodol ni ddylai cwsmeriaid dderbynni ar y ddogfen yma wrth gyflwyno cynigion am unrhyw dendrau yn y dyfodol.

Yn dilyn cyhoeddiad o’r crynhoad fyddwn yn ysgrifennu at gwsmeriaid unigol a ymatebodd ac fe fyddwn yn gwneud penderfyniad terfynol ynglŷn â strwythur gwerthiant y CHD. Ni fedrwn osod amserlen benodol ar hyn yn awr ond fyddwn yn rhoi gwybodaeth bellach ar y tudalennau yma cyn gynted â phosibl.


22fed Awst 07

COMISIWN COEDWIGAETH CYMRU – TENDR MIS MEDI

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi rhyddhau manylion y trydydd o bedwar arwerthiant yn y flwyddyn farchnata gyfredol.  Cynigir 19 o lotiau o goed ar eu traed, sef cyfaint o gyfanswm o tua 60,000m3 o goed ar eu traed, yn cynnwys y rhisgl. Yn ogystal, ceir 20 parsel o logiau a bariau, sef cyfanswm o 26,000m3 heb y rhisgl a dau barsel o bolion 500m3 yr un. Ceir y manylion yn e timber sales home.

ARWERTHIANT LOGIAU LLEOL WRTH YR HEOL YCHWANEGOL

Mae Cynaeafu a Marchnata Cymru (WHaM) wedi rhyddhau tendr lleol ar gyfer 175 m3 o logiau mawr Ffynidwydd Douglas heb y rhisgl wedi’u torri i wahanol hyd a diamedr y rhan uchaf yn mesur o leiaf 40cm.  Rhaid i’r ffurflenni tendr gyrraedd swyddfa Penrhyn-coch cyn 13.00 o’r gloch ar 5 Medi 2007.  Ceir rhagor o fanylion trwy e-bostio eira.thomas@forestry.gsi.gov.uk i ofyn am y manylion a rhoi’ch cyfeiriad post.


20fed Awst 07

EGLURHAD O BOLISI’R COMISIWN COEDWIGAETH AR OLEWAU BIODDIRADDADWY YNG NGHYMRU

Mae Hugh Jones (Pennaeth Uned, CaMC) wedi ysgrifenni yn ddiweddar at y fasnach i egluro safbwynt y Comisiwn Coedwigaeth ar Olewau Bioddiraddadwy. Gweler crynodeb o’r llythyr isod.

Olew Cadwyn
Fe fydd defnydd o olew cadwyn bioddiraddadwy yn orfodol ar oll dir y CC - dyma bolisi cyfredol ar oll cytundebau CC ac felly nid oes unrhyw newid. Mae’n rhaid cael Olew Bio mewn llifiau cadwyn llaw a chynaeafu.

Olew Hydrolig
Fe fydd gan ddaliwr y cytundeb rhyddid i ddewis p’un ai ddefnyddio olewau hydrolig bioddiraddadwy neu beidio mewn cynaeafwyr a pheiriannau blaenyrru cyfaddas sy’n gweithio ar dir y CC. Fydd y CC yn dal I hyrwyddo a chefnogi’r defnydd o olewau hydrolig bioddiraddadwy ac yn dal gafael ar yr opsiwn I nodi y defnydd o olew bio-hydrolig ar safleoedd sydd ag sensitifedd amgylcheddol uchel.


7fed Awst 07

- RECRIWTIO – GWEITHIWR PEIRIANT DAN BRENTISIAETH FODERN

Mae Cynaeafu a Marchnata Cymru yn mynd i recriwtio Gweithiwr Peiriant dan Brentisiaeth Fodern, ac fe fydd y swydd wedi’i leoli gyda’r fflyd cynaeafu yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Fe fydd yn benodiad cyfnod penodedig o 2 flynedd le bydd yn angenrheidiol i’r prentis llwyddiannus gyrraedd isafswm safon Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel 2 ac fe fydd yna ddewis o weithio tuag at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol lefel 3, yn ogystal fe fydd estyniad i’r cytundeb neu drosiad i swydd barhaol yn bosibl.

Cafodd y swydd yma ei hysbysebu yn y Cambrian News a hefyd gellir ei gweld ar wefan swyddi gwag y Comisiwn Coedwigaeth gyda dyddiad cau am geisiadau o 16eg Awst 2007.


~Y Diweddaraf~ 2 Gorffennaf 2007

LANSIO TUDALENNAU GWE NEWYDD WHAM Heddiw, rydym wedi cyhoeddi fersiwn gyntaf ein tudalennau gwe newydd. Bydd y rhain yn rhoi gwybodaeth am ein gweithgareddau cynaeafu a marchnata pren ac yn cyhoeddi dogfennau perthnasol a gwybodaeth arall a all fod o ddiddordeb i’n cwsmeriaid yn y diwydiant pren.


~Newydd~ 28 Mehefin 2007

YMGYNGHORI AR GONTRACTAU HIRDYMOR

Mewn cyfarfod â chynrychiolwyr cwsmeriaid yn Nhrefaldwyn ar 28 Mehefin, cytunom i gynnal ymgynghoriad gyda’n holl gwsmeriaid a darpar gwsmeriaid am ein cynlluniau ar gyfer contractau hirdymor yn y dyfodol. Mae copi o’r cyflwyniad a roddwyd yn y cyfarfod ar gael.

Estynnir gwahoddiad i’n holl gwsmeriaid â phartïon sydd â diddordeb gyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig i Bill MacDonald. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 20 Awst 2007.



Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov