Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Marchnata Coed
 

SNEDDING AND CROSSCUTTING A

Mae ein Strategaeth Marchnata Coed yn rhedeg o 1af Ebrill 2006 hyd at 31ain Mawrth 2011. Byddwn yn adolygu’r strategaeth hon yn flynyddol a bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi ar y tudalennau hyn.

Bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn rhoi tua 50% o gyfanswm y coed a gynhyrchir ar werth drwy gontractau tymor hir (CTH) dros y ddwy flynedd nesaf. Cynigir y contractau hyn ar sail cystadleuaeth agored. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gontractau tymor hir Cynaeafu a Marchnata Cymru ar y tudalennau CTH.

Rydym wedi penodi swyddog marchnata coed newydd ar gyfer pren caled. Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn awyddus i ddatblygu cynaeafu a marchnata coed llydanddail ar draws ystad y Cynulliad. Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu coed llydanddail, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Coed Llydanddail.

Marius Urwin yw ein Swyddog Biomas, ac mae’n gweithio yn swyddfa Cynaeafu a Marchnata Cymru ym Mhenrhyn-coch. Cyn hyn, bu’n Rheolwr Contractau Cynhyrchu Uniongyrchol ar gyfer Canolbarth Cymru am nifer o flynyddoedd. Bydd yn gyfrifol am reoli’r 40,000 metr ciwbig o gynaeafu biomas ac am logisteg. Os ydych yn dymuno trafod unrhyw agwedd ar gynaeafu biomas, cysylltwch â Marius.

Ewch i’n tudalen Mynegi Diddordeb i gael manylion y lotiau Biomas sydd ar werth ar hyn o bryd.


Beth sydd o ddiddordeb
Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov