Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Datganiad i’r wasg 03 Awst 2006
 

Lluniau byw o adar prin ym Mharc Coedwig Afan

Bydd lluniau byw unigryw o nyth boda’r mêl – un o rywogaethau adar bridio prinnaf y DU – yn cael eu dangos yng nghanolfan ymwelwyr Parc Coedwig Afan ym Mhort Talbot o heddiw (Dydd Iau 3 Awst).

Mae’r prosiect Bodaod y Mêl – Adar Ysglyfaethus y Goedwig yn un o bum prosiect ‘On’d yw Adar yn Wych!’ yng Nghymru ac mae’n cael ei redeg ar y cyd rhwng RSPB Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Grŵp Astudio Adar Ysglyfaethus Cymru.

Mae’r adar llawn dwf yn y prosiect wrthi ar hyn o bryd yn magu dau gyw, wedi iddynt ddeor yn y nyth cyfrinachol yn ne Cymru rywbryd tua Dydd Mawrth 11 Gorffennaf. Bydd ymwelwyr â’r prosiect yn gallu gwylio lluniau byw o’r adar wrth iddynt fwydo yn y nyth, a gweld y cywion yn tyfu dros yr wythnosau nesaf cyn dechrau hedfan am y tro cyntaf.

Yn 2005, roedd dros 5000 o bobl wedi mwynhau’r prosiect, a oedd yn dangos pâr gwahanol o fodaod y mêl yn magu’r ddau gyw oedd ganddynt. Yn drist iawn, ni oroesodd yr un o’r ddau. Yn yr wythnosau cyntaf ar ôl deor, chwythwyd un cyw o’r nyth gan wyntoedd mawr, a chipiwyd y llall gan aderyn ysglyfaethus.

Dywedodd Cathie Hasler o RSPB Cymru:

‘Mae’n rhaid inni gadw safle’r nyth yn gyfrinach am fod bodaod y mêl yn un o brif dargedau casglwyr wyau a gallai gwylwyr adar gorfrwdfrydig amharu arnynt yn anfwriadol. Maent yn adar ysblennydd ond yn anodd eu gweld, a dyna pam mae’r prosiect hwn mor unigryw. Mae’n rhoi cyfle i bobl gael golwg agos iawn ar yr adar wrth iddynt fyw eu bywyd yn eu cynefin naturiol. Mae’r cywion yn fywiog iawn yn barod, yn ymestyn eu hadennydd ac yn archwilio’u nyth. Mae’n anodd tynnu’ch llygad oddi arnynt!’

Gelwir yr adar yn fodaod y mêl am mai hwy yw’r unig adar ysglyfaethus i fwydo’n bennaf ar nythod, larfâu, pwpaod ac oedolion gwenyn meirch, gwenyn a chacwn meirch. Mae’r adar yn dilyn pryfed yn hedfan i’w nythod ac yn cloddio cyn ddyfned â 40cm gyda’u traed i gyrraedd eu hysglyfaeth. Mae ganddynt blu garw, tynn ar eu hwynebau i’w gwarchod rhag pigiadau.

Bydd y ddau gyw yn y nyth yn ne Cymru yn cael modrwyau wedi eu gosod ar eu coesau gan dîm profiadol o fodrwywyr trwyddedig ar Ddydd Gwener 04 Awst, fel bo modd eu hadnabod os byddant yn dychwelyd yn y dyfodol.

Mae gweithwyr profiadol yn y maes yn amcangyfrif bod tua 100 o barau o fodaod y mêl yn bridio yn y DU. Nid yw ymddygiad yr adar yn tynnu sylw ac felly byddai arolwg trwyadl yn gofyn am sgiliau maes arbenigol ac mae llawer o bobl hefyd yn gyndyn i ddweud eu bod wedi gweld yr adar rhag ofn y bydd amharu neu erlid arnynt wedyn.

Bydd ‘Bodaoed y Mêl – Adar Ysglyfaethus y Goedwig’ yn agored i ymwelwyr ym Mharc Coedwig Afan tan ddiwedd Awst. Mae’n rhad ac am ddim, ond codir tâl bychan am barcio yn y ganolfan.

Mae’r prosiect yn rhan o ‘On’d yw Adar yn wych!’, partneriaeth rhwng RSPB Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, sy’n cael ei ariannu gan raglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd, drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru ac Enfys.


Gall unrhyw un sydd am wylio bywyd yn y nyth o gartref fynd i http://www.forestry.gov.uk/forestry/INFD-6S9HK8 lle gwelir lluniau byw o gamera’r nyth.

Diwedd


Am fwy o wybodaeth, neu i drefnu cyfweliadau, byddwch gystal â chysylltu â

Chris Tucker, Rheolwr Cadwraeth CC Cymru
Ffôn: 0845 604 0845
E-bost: chris.tucker@forestry.gsi.gov.uk

Clive Davies, Swyddog Gwybodaeth CC Cymru
Ffôn: 0845 604 0845
E-bost: clive.davies@forestry.gsi.gov.uk


Mae canolfan ymwelwyr Parc Coedwig Afan ym Mhort Talbot, ar yr A4107, chwe milltir o gyffordd 40 yr M4.media@npt.gov.uk neu ewch i www.neath-porttalbot.gov.uk


Nodiadau i olygyddion Am fwy o fanylion am Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ffoniwch Pam Creecraft (01639) 763308 e-bost

Am fwy o wybodaeth am Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, ffoniwch 0845 604 0845 e-bost fcwales@forestry.gsi.gov.uk neu ewch i www.forestry.gov.uk/wales

Am fwy o wybodaeth am Grŵp Astudio Adar Ysglyfaethus Cymru , cysylltwch â Steve Roberts ar 01873 840279.






to DirectGov