Gwarchod Coedwig
Cynllun a sefydlwyd yn Ne Cymru i annog aelodau’r cyhoedd i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw ddigwyddiadau troseddol a gweithgaredd amheus ar dir y CC yw Gwarchod Coedwig ( fersiwn coedwigol o Warchod y Gymdogaeth). Mae ganddo aelodaeth o 35 yn barod, bobl sydd yn mwynhau’r goedwig "ac sydd wedi cael digon o’r troseddau maent wedi ei weld".
Ardal Goedwig Coed y Cymoedd oedd y cyntaf yn y Comisiwn i benodi Swyddog Troseddau Coedwig er mwyn brwydro yn erbyn amrywiaeth o weithgareddau troseddol o fewn ei choedwigoedd. Fe ddechreuodd PC 3753, Andrew Scourfield, yn y swydd ar y 1af Ionawr 2007 a hynny ar secondiad tair blynedd o Heddlu De Cymru. Roedd hyn yn dilyn treial chwe mis y flwyddyn ddiwethaf i ganfod maint y broblem droseddol yng nghoedwig De Cymru a’u heffaith ar y cymunedau lleol. Ers dechrau yn y swydd mae Andrew wedi nodi 15 math o drosedd yn y goedwig ac wedi cydnabod fod troseddau yn fwy cyffredin nag y tybiodd yn y lle cyntaf. Ei ddull o drin a hyn yw casglu gymaint o wybodaeth a deallusrwydd a phosibl. Dywedodd Andrew; " Rwy’n edrych am unrhyw batrymau sy’n ymddangos fel ein bod yn medru targedi ardaloedd lle mae gennym broblemau". Ffactor allweddol o sicrhau llwyddiant y fenter fydd datblygu partneriaethau gweithio’n agos gyda phobl lleol ac asiantaethau a sefydliadau eraill, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd ac awdurdodau lleol, sy’n ymglymedig mewn dod o hyd i droseddwyr. Mae’r canlyniadau hyd yn hyn yn galonogol - mae chwech o ymgyrchoedd wedi arwain i saith arestiad. Ond dim ond y dechrau yw hyn i Andrew. "Rwyf am weld gostyngiad arwyddocaol mewn troseddau yn y goedwig. Rwyf am i goedwig De Cymru fod yn amgylchedd diogelach i bobl ac rwyf am i droseddwyr wybod nad yw coedwigoedd yn lloches ddiogel iddynt". | Rhestr deg uchaf Andrew o ddigwyddiadau troseddol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghoedwigoedd CC Cymru. 1. Tresbasu oddi ar ffordd (beiciau modur a 4x4) 2. Difrod troseddol (i giatiau, ffensys, ag ati) 3. Tipio anghyfreithlon 4. Troseddai cerbydau ( cerbydau wedi eu gadael) 5. Gwerthwyr cyffuriau (cuddio cyffuriau) 6. Herwhela ceirw trefnedig 7. Lladrad o gerbydau contractwyr 8. Lladrad o feysydd parcio 9. Safleoedd gweithgareddau rhywiol 10. Llosgi bwriadol (yn enwedig yn hwyr yn y gwanwyn - a chynnar yn yr haf.). |
Mae Gwarchod Coedwig yn profi i fod yn fenter lwyddiannus yn barod a’r bwriad yw datblygu rhwydwaith o grwpiau Gwarchod Coedwig ar hyd a lled De Cymru.
Os hoffech ddod yn aelod o Warchod Coedwig cwblhewch y ffurflen ganlynol a’i e-bostio i forestwatch@forestry.gsi.gov.uk neu postiwch i’r cyfeiriad isod.
Ffurflen Gais Gwarchod Coed (MS Word, 386kb, 1 tudalen) Nodyn Gwybodaeth Gwarchod Coed (pdf, 53kb, 2 tudalen) Os ydych am wybod mwy am Warchod Coedwig neu gydag unrhyw wybodaeth neu am gyngor neu gymorth ynglŷn â throseddau yn y goedwig mae croeso i chi gysylltu gyda PC Andrew Scourfield yn y cyfeiriad isod:
Swyddog Troseddau Coedwig Comisiwn Coedwigaeth Coed y Cymoedd Resolfen Castell nedd SA11 4DR
Ffôn: 01633 580234 Symudol: 07867 940246 E-bost: forestwatch@forestry.gsi.gov.uk
|