| Tudalen gartref > | Dolenni cloi > | Llyfrgell > | Cymorth > |
| Amdanom ni > | Manylion cysylltu > | Newyddion > | |||||||||||
|
| Dinas Mawddwy
Y flwyddyn ganlynol fe wnaeth y Comisiwn Coedwigaeth, ar gais Cynulliad Cenedlaethol Cymru trefnu fod tir ar gael i awdurdodau cynllunio lleol gogyfer adeiladu tai fforddiadwy. Roedd un o’r safleoedd yma yn Ninas Mawddwy a dilyn adolygiad cafodd ei nodi fel ymgeisydd blaenllaw. Er mwyn rhoi hwb ymlaen i’r fenter fe drefnwyd cyfarfod rhwng y CC, Cyngor Gwynedd, Cymdeithas Tai Eryri a Chymdeithas Tai Clwyd, ac yn deillio o hyn fe gomisiynwyd arolwg i gael amcan o anghenion tai o fewn Cyngor Cymuned Mawddwy. Fe gynhaliwyd diwrnod agored yn y neuadd bentref i alluogi preswylwyr lleol i gael cyfle i gofrestru eu hanghenion a hefyd gyflwyno eu barn ar safleoedd datblygu posibl a chynlluniau drafft. Yn dilyn ymlaen o’r diwrnod agored a’r asesiad a chafodd ei wneud gan swyddogion o Gymdeithas Tai Clwyd, Rheolaeth Datblygu’r Parc Cenedlaethol ac Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd fe wnaed penderfyniad i gadarnhau mae safle'r CC ym Minllyn oedd yr opsiwn gwreiddiol gorau. Cafodd hyn gefnogaeth y Cyngor Cymuned a gytunodd i gefnogi datblygiad tai fforddiadwy yn y lleoliad yma. Yn Chwefror 2007, fe gyflwynwyd cais cynllunio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i adeiladu tri thŷ teras, cyfeillgar ecolegol ar safle Minllyn yn Ninas Mawddwy. Cafodd y cais yma ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio ar y 7fed Mawrth 2007. | Safleoedd defnyddiol
|
|||