Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Cosbau AEA

Os daw Comisiwn Coedwigaeth Cymru i wybod bod gwaith yn digwydd heb ei gydsyniad (yn amodol ar Reolau AEA), neu fod ymgeisydd yn torri telerau cydsyniad a roddwyd yn flaenorol, gallwn gyflwyno Rhybudd Gorfodi er mwyn cywiro’r sefyllfa.

Dogfen gyfreithiol yw’r Rhybudd Gorfodi. Os nad yw rhywun y cyflwynwyd rhybudd iddo yn cydymffurfio â’r telerau a ysgrifennir yn y Rhybudd, mae hyn yn drosedd. Gellir ar ôl collfarn ddiannod eu dirwyo o swm hyd at £5000.

I bwy y gellir cyflwyno Rhybudd Gorfodi
Gellir cyflwyno Rhybudd Gorfodi i:

  • y sawl sydd ynglŷn â’r gwaith, y contractwr o bosibl;
  • perchen yr eiddo; neu
  • unrhyw un arall sydd â diddordeb digonol yn yr eiddo (caniatáu iddynt wneud y gwaith heb fod angen iddynt gael caniatâd gan neb arall) .

Yr hyn y mae’r Rhybudd Gorfodi yn ei nodi
Mae’r Rhybudd Gorfodi’n gofyn i rywun gymryd un neu fwy o’r camau canlynol:

  • gwneud cais i’r Comisiwn Coedwigaeth am gydsyniad;
  • dychwelyd y tir i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn gwneud unrhyw waith ar y prosiect perthnasol;
  • gwneud unrhyw waith ar y tir sydd yn angenrheidiol o fewn rheswm i sicrhau cydymffurfio â thelerau’r cydsyniad;
  • symud neu leddfu unrhyw ddifrod neu niwed i’r amgylchedd a achoswyd gan y prosiect o dan sylw; a/neu
  • atal y gwaith mewn perthynas â’r prosiect perthnasol.

Pryd y gellir cyflwyno Rhybudd Gorfodi
Gall y Comisiwn Coedwigaeth gyflwyno Hysbysiad Gorfodi pan ddônt i wybod bod rhywun:

  • yn gwneud neu wedi gwneud gwaith lle’r roedd angen cydsyniad; a/neu
  • yn torri amod cydsyniad a roddwyd eisoes.

Hyd y rhybudd
Gall yr hysbysiad nodi’r cyfnod y mae’n rhaid cymryd unrhyw un o’r pedwar mesur cyntaf a nodwyd yn y rhestr uchod. Gellir nodi cyfnodau gwahanol ar gyfer camau gwahanol.

Dirwyon
Os nad yw rhywun yn cydymffurfio â Rhybudd Gorfodi yna mae’n euog o drosedd a gall, ar ôl collfarn ddiannod, gael ei ddirwyo o swm hyd at yr uchafswm statudol.


Asesu Effaith Prosiectau Coedwigaeth ar yr Amgylchedd (472k - pdf)
Sut mae paratoi Datganiad Amgylcheddol (635k - pdf) 
Ffurflen Benderfyniad  (73k - pdf)