Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


AEA gwneud cais am ein cymeradwyaeth
 

  • Os penderfynwch ymgeisio am gymeradwyaeth, defnyddiwch y rhestr ganlynol i’ch helpu i ddeall camau’r broses hon.

1.  Casglu gwybodaeth gan eraill
Gofynnwch am ein cymorth er mwyn penderfynu pa fudiadau cefn gwlad a allai fod yn berthnasol i’r materion y mae angen i chi ymdrin â nhw er mwyn cael gwybodaeth ddefnyddiol ganddynt i’ch helpu i baratoi’r Datganiad Amgylcheddol.

2.  Trefnu cyfarfod cwmpasu
Mae’n hanfodol i’r holl bleidiau perthnasol gyfarfod er mwyn datblygu dealltwriaeth glir o’r materion dan sylw a sut mae gwneud cyfrif ohonynt yng ngwaith y prosiect. 

Dull arferol o weithredu yw hyn, a chyfeirir ato fel cyfarfod “cwmpasu”. Bydd cynrychiolwyr y Comisiwn Coedwigaeth , mudiadau cefn gwlad, ymgyngoreion a chyfranogion eraill yn eich helpu i nodi’r materion penodol y mae’n rhaid i’r datganiad amgylcheddol roi sylw iddynt.

Lawrlwythwch gopi o’r “Daflen gwmpasu” ar waelod y dudalen hon er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sefydlu a mynychu’r cyfarfod.

3.  Paratoi Datganiad Amgylcheddol (DA)
Diben y DA yw rhoi dealltwriaeth mor lawn â phosibl o ganlyniadau’r cynigon i’r Comisiwn Coedwigaeth a chyfranogion eraill.

Lawrlwythwch gopi o Ganllaw Arfer Coedwigaeth “Ymgymryd ag Asesiad Effaith Amgylcheddol mewn Coedwigaeth a Pharatoi Datganiad Amgylcheddol” am ragor o wybodaeth.

4.  Paratoi’r cais 
Tynnwch lun o ffin y gwaith a arfaethir ar fap neu gynllun (map Ordinans clir ar raddfa 1:10,000 neu 1:2,500);

  • Rhowch ddisgrifiad byr o’r gwaith arfaethedig a’r effeithiau posibl ar yr amgylchedd (gallai hyn fod yn grynodeb ysgrifenedig neu wedi ei roi yn rhan o gynllun grant neu gais am drwydded cwympo coed );
  • Paratowch DS ar gyfer y gwaith i gynnwys y materion a godwyd yn y cyfarfod cwmpasu; a 
  • Pharatowch unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol, e.e. mapiau rhywogaeth, cynlluniau, arolygon, ffotograffau a.y.y b.

5.  Anfon y cais
Anfonwch y dogfennau i’r Swyddfa Gomisiwn leol. Gallwn ofyn am sawl copi o’r dogfennau cais er mwyn eu hanfon at yr ymgyngoreion priodol.

6.  Hysbysebu’r DA ac ymgynghori
Unwaith ein bodlonir bod y DA yn trin yr holl achosion pryder fel y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod cwmpasu yna rhaid gwneud hysbysiad cyhoeddus.

Rhaid gosod hysbysiad cyhoeddus (hysbyseb) mewn dau bapur lleol. Eich cyfrifoldeb chi yw talu costau hyn. Cewch fanylion cynnwys yr hysbysiad yn llyfryn canllaw'r AEA. Gallwn hefyd eich cynghori ar y cynnwys.

Rhaid hefyd i chi osod copïau o’r cais mewn lleoedd cyhoeddus fel y llyfrgell, swyddfa’r post a.y.y.b. Fe'ch cynorthwywn  i benderfynu ar leoliadau addas. 

Rhown fanylion y cais hefyd i ‘r ymgyngoreion a’r cyrff statudol priodol yn ogystal â’r awdurdod lleol sydd â diddordeb yn y cais. Mae gofyn iddynt gyflwyno eu sylwadau i ni ymhen 28 niwrnod.

Nodwch y gellir trosglwyddo unrhyw sylwadau a dderbynnir i unrhyw gyfranogwr arall.

Bydd cynigon i wneud gwaith plannu neu gwympo coed newydd yn ymddangos ar Gofrestr y Plannu a’r Cwympo Coed o’r Newydd.

7.  Penderfyniad terfynol
Gallwn ddod i un o’r penderfyniadau canlynol yn achos cais am gymeradwyaeth:

  • Rhoi cymeradwyaeth ar sail amodau safonol (bod angen i’r gwaith ddechrau ymhen 5 niwrnod o’r dyddiad cymeradwyo a’i orffen ymhen 10 mlynedd oddi ar  y dyddiad cymeradwyo fan bellaf);
  • Rhoi cymeradwyaeth, ar yr amodau safonol ac amodau eraill; neu
  • Wrthod cymerdawyo.

Gwneud ein penderfyniad yn gyhoeddus
Ar ôl rhoi gwybod i chi a’r cyfranogwyr eraill ill dau am y penderfyniad, hysbysebwn hyn yn yr un papurau y gosodwyd y cais am gymeradwyaeth ynddo. Ein cyfrifoldeb ni yw cost yr hysbysiad hwn.

Defnyddiwch y cysylltau gwe yn y tablcanlynol i gysylltu â’r sefydliad perthnasol trwy eu gwefan.

 Cyngor Cefn Gwlad Cymru www.cefngwlad.cymru.gov.uk
 CADW  www.cadw.wales.gov.uk
 Environment Agency www.environment-agency.gov.uk


Asesu Effaith Prosiectau Coedwigaeth ar yr Amgylchedd (472k - pdf)
Sut mae paratoi Datganiad Amgylcheddol (635k - pdf) 




to DirectGov