Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

AEA gwneud cais am ein barn

Amlinellir isod y camau ar gyfer cael ein barn a’r hyn sy’n digwydd nesaf.

Darganfod a oes arnoch angen ein cymeradwyaeth
Llenwch y Ffurflen Benderfynu (gweler isod) a’i hanfon atom ynghyd â:

  • Map neu gynllun digonol i nodi’r tir lle arfaethir cynnal y prosiect a maint y prosiect (Defnyddiwch fap Ordnans y clir ar raddfa o 1:10,000 neu 1:2,500);

  • Disgrifiad byr o’r gwaith a afaethir; a

  • Gwybodaeth arall a allai fod yn berthnasol.

Gallwch anfon copi o’ch cynllun grant neu’ch cais am drwydded cwympo coed gyda’r map.

Pryd y gallwch ddisgwyl ein penderfyniad
Ni allwn wneud penderfyniad nes cael yr holl wybodaeth berthnasol. Gallwn ofyn i chi am wybodaeth bellach yn ychwanegol at yr hyn yr ydych wedi ei roi i ni eisoes.

Yn ôl y Rheoliadau, rhaid i ni wneud ein penderfyniad ymhen 28 niwrnod ar ôl derbyn yr holl wybodaeth berthnasol, ond gallwn ofyn i chi gytuno ar gyfnod hwy.

Os NAD oes angen cymeradwyaeth
Os nad oes angen ein cymeradwyaeth gallwch ddechrau gweithio neu fe barhawn i brosesu’ch cais am gymorth grant/trwydded cwympo coed yn y ffordd arferol.

Os OES angen cymeradwyaeth
Os oes angen cytundeb ar gyfer y gwaith, rhaid i chi gyflwyno cais ar gyfer cymeradwyaeth os ydych am barhau â’r gwaith. Rhaid i’ch cais gynnwys datganiad amgylcheddol (gweler isod – Sut mae paratoi Datganiad Amgylcheddol).

Faint a gymer i benderfynu ar y Farn
Mae unrhyw benderfyniadau a wnawn ynghylch a oes angen i chi gael cymeradwyaeth ar gyfer y gwaith ai peidio yn parhau am gyfnod o bum mlynedd neu unrhyw gyfnod byrrach y byddwn yn ei nodi.


Asesu Effaith Prosiectau Coedwigaeth ar yr Amgylchedd (472k - pdf)
Sut mae paratoi Datganiad Amgylcheddol (635k - pdf) 
Ffurflen Benderfyniad  (73k - pdf)