|
Prosiectau a Throthwyon AEA
Comisiwn Coedwigaeth Cymru yw’r awdurdod cymwys ar gyfer asesu pedwar prosiect coedwigaeth. Bydd cyfuniad o drothwyon o ran y mesur o dir a’r lleoliad oddi mewn ac oddi allan i ddarnau sensitif o dir yn penderfynu a fydd angen barn. Ar gyfer yr holl wahanol fathau o brosiectau coedwigaeth, ceir trothwy o ran y mesur tir. Os yw’r darn o dir y cynigir y prosiect arno, yn fwy na’r trothwy o ran mesur y tir, gall fod angen AEA. Mae trothwyon tir ar wahân yn bodoli i dir mewn mannau sensitif a rhai nad ydynt yn sensitif. Fel rheol, ni fydd angen cydsyniad ar fesur o dir sydd yn llai na’r trothwy. Prosiectau Coedwigaeth - Coedwigo: Plannu coedwigoedd newydd a fforestydd, gan gynnwys hau uniongyrchol neu adfywio naturiol, plannu coed Nadolig neu goedlan cylchdro byr;
- Datgoedwigo: Torri coetir er mwyn defnyddio’r tir ar gyfer diben arall;
- Heolydd coedwig: Ffurfio, newid a chynnal ffyrdd preifat ar dir a ddefnyddiwyd (neu a gaiff ei ddefnyddio) at ddibenion coedwigaeth. Mae hyn yn cynnwys heolydd mewn coedwig neu sy’n arwain at un; a
- Chwareli coedwig: Cloddio er mwyn dod o hyd i ddeunyddiau y mae eu hangen ar gyfer gwaith heol goedwig ar dir a ddefnyddir neu a gaiff ei defnyddio at ddibenion coedwigaeth neu ar dir a ddaliwyd neu a feddiannwyd gyda’r tir hwnnw.
Trothwyon o ran mesur y tir a mannau sensitif
| Prosiect | Trothwy lle bo unrhyw ran o’r tir mewn man sensitif | Trothwy lle nad oes unrhyw ran o’r tir mewn man sensitif | | Coedwigo | 2 hectar lle bo’r tir mewn Parc Cenedlaethol, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) neu Ardal o Harddwch Cenedlaethol (AHC). Dim trothwy i fannau sensitif eraill | 5 hectar | | Datgoedwigo | 0.5 hectar lle bo’r tir mewn Parc Cenedlaethol, AHNE neu AHC. Dim trothwy mewn mannau sensitif eraill | 1 hectar | | Heolydd Coedwig | Dim trothwy | 1 hectar | | Chwareli Coedwig | Dim trothwy | 1 hectar |
Pwysig: Os gwnaethpwyd unrhyw waith ar dir cyfagos i’r prosiect yn ystod y pum mlynedd flaenorol, rhaid cyfrif y darn hwn yn nhrothwy’r mesur o dir. Cysylltwch â’r Comisiwn Coedwigaeth am ragor o gyngor. Chwiliad Gwybodaeth am Dir Ceir Chwiliad Gwybodaeth am Dir (ChGD) ar wefannau cefn gwlad. Defnyddiwch hwn i nodi unrhyw beth sydd wedi ei ddynodi neu unrhyw sensitifrwydd a allai effeithio ar y prosiect. Bydd y gwahanol fathau o sensitifrwydd yn effeithio ar drothwy penodol y tir y mae’n rhaid ei ddefnyddio. Ceir manylion cysylltu’r sefydliad perthnasol sy’n gyfrifol am y nodweddion hyn ar yr adroddiad a lunir. Diffinio mannau sensitif - tir a gyhoeddwyd o dan isadran (1) adran 28 (ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981;
- tir y mae isadran (3) o adran 29 (gorchymyn gwarchodaeth natur) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn cyfeirio ato;
- Parc Cenedlaethol yn ystyr Deddf y Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949;
- Llynnoedd Norffolc;
- Eiddo a fo’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd o dan erthygl 11(2) Cynhadledd UNESCO 1972 er Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd;
- cofeb restredig yn ystyr Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archeolegol 1979;
- ardal o harddwch naturiol eithriadol a ddynodwyd felly gan orchymyn a wnaethpwyd gan y Countryside Agency mewn perthynas â Lloegr neu Gyngor Cefn Gwlad Cymru mewn perthynas â Chymru ac wedi ei gadarnhau yn briodol o dan Adran 87 (dynodi ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol) Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949;
- man a ddynodwyd yn Ardal Dreftadaeth Naturiol gan gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion yr Alban o dan adran 6(2) Deddf Treftadaeth Naturiol (Yr Alban) 1991(d) neu yn Ardal Olygfaol Genedlaethol gan gyfarwyddyd a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 262C Deddf Cynllunio Gwlad a Thref (Yr Alban) 1972(e); a
- safle Ewropeaidd yn ôl ystyr rheol 10 Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol a.y. y b.) 1994.
Asesu Effaith Prosiectau Coedwigaeth ar yr Amgylchedd (472k - pdf) Ffurflen Benderfyniad (73k - pdf)
|
|
 |
 |