Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Canllaw Cyflym yr Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA)

Mae’r Canllaw Cyflym hwn yn crynhoi proses yr AEA o’r penderfynu cyntaf bod modd dosbarthu’r gwaith a arfaethir yn brosiect coedwigaeth i baratoi’r datganiad amgylcheddol yn rhan o’r cais am gymeradwyaeth .

Sylwch nad yw mwyafrif y ceisiadau ond yn mynd cyn belled â Cham 4.

1. Edrychwch i weld a yw’r cynigon yn brosiect coedwigaeth yn ôl diffiniad rheolau’r AEA.

2. Defnyddiwch y Chwiliad Gwybodaeth am Dir i ddarganfod a oes unrhyw beth wedi ei ddynodi neu faterion sensitif eraill y gallai fod yn rhaid eu hystyried.

Ewch i’r Chwiliad Gwybodaeth am Dir

3. Edrychwch ar dabl trothwy mesur tir i weld a yw mesur tir eich prosiect oddi tanynt.

4. Os yw mesur tir y prosiect yn is na’r trothwy, mae’n bosibl na fydd angen cymeradwyaeth gan y Comisiwn Coedwigaeth. Os gwnaethpwyd unrhyw waith mewn darn o dir cyfagos i’r prosiect yn ystod y pum mlynedd flaenorol, rhaid i’r darn hwnnw gael ei gyfrif yn nhrothwy’r mesur tirl.

5. Parhewch â’r prosiect neu wneud cais am gymorth grant
Os yw’r mesur tir dros y trothwy - holwch y Comisiwn Coedwigaeth i weld a oes angen eu cymeradwyaeth.

  • Defnyddiwch y Ffurflen Benderfynu (60k - pdf).
  • Mae angen dogfennau eraill ar y Comisiwn Coedwigaeth hefyd er mwyn gwneud penderfyniad.
  • Rhagor o wybodaethCeisio Barn.

6. Dilynwch y cam hwn yn unig os yw’r Comisiwn Coedwigaeth yn penderfynu bod eisiau eu cymeradwyaeth.

  • Lawrlwythwch gopi o lyfryn y CC “Ymgymryd ag Asesiad Effaith Amgylcheddol mewn Coedwigaeth a pharatoi Datganiad Amgylcheddol”.
  • Trefnwch gyfarfod cwmpasu gyda chymorth y Comisiwn Coedwigaeth.
  • Paratowch y Datganiad Amgylcheddol.
  • Hysbysebwch y Datganiad yn y papurau y cytunwyd arnynt â’r Comisiwn Coedwigaeth.
    Rhagor o wybodaethCeisio Cymeradwyaeth
  • Gofynnwch i’r Comisiwn Coedwigaeth a chyrff perthnasol eraill am help wrth baratoi’r datganiad Amgylcheddol.