Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru
Cycle Code Banner image

Eich Diogelwch

Mae’r llwybr yn troelli’n sydyn ac yn troi o dan gysgod y coed mawr yna – ai naid yw hon?  Ydw i’n barod am hyn?  Alla’i wneud hyn?  Dim y math o gwestiynau rydych chi eisiau bod yn eu gofyn ar y llwybr?  Mae risgiau bob amser mewn beicio mynydd, felly’r ffordd orau i aros yn ddiogel yw bod yn realistig am eich gallu’ch hun a bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas.


GWISGWCH HELMED BOB AMSER a dilynwch y cod Beicio Coedwig.

  • Ystyriwch wisgo dillad diogelwch eraill. 
  • Cymrwch amser cyn dechrau ar lwybr i edrych ar y wybodaeth sy’n graddio’r llwybr.
  • Ydych chi’n gwybod beth yw ystyr graddio?
  • Oes digon o brofiad gennych chi ar gyfer eich dewis lwybr?
  • A oes unrhyw wyriadau?
  • Rydych eisiau mynd allan a beicio ar hyd y llwybr, dyma restr wirio sydyn i chi.
  • A oes gennych chi fap o’r llwybr / y ffordd?
  • Ydych chi’n cario offer sbâr – tiwb gwynt er enghraifft?
  • Allwch chi drwsio beic ar y llwybr os oes angen?
  • Ar gyfer teithiau hirach byddwch chi angen bwyd a dŵr.
  • Beth am eich ffitrwydd a’ch stamina?
  • Mae nifer o ddamweiniau’n digwydd drwy flinder – peidiwch ag ymuno â’r clwb hwnnw!
  • Meddyliwch am y tywydd. Ydych chi’n gwybod beth yw’r rhagolygon?
  • Cofiwch y gallai’r tywydd fod yn braf ar ddechrau’r llwybr, ond ymhellach i fyny’r rhiw, gallai fod yn oerach.
  • Beth am yr amodau ar y llwybr?  Ydi hi wedi bwrw eira neu law?
  • Mae’n haws delio â hyn i gyd os ydych chi wedi paratoi’n iawn. 

Meddyliwch ymlaen a chynlluniwch cyn eich taith.  Yna ewch ar y sêt, mwynhewch y daith a dewch yn ôl yn ddiogel!

Gôd Beicio’r Goedwig> (PDF)

 

Gôd Beicio’r Goedwig> (PDF) 

Mountain Bike detail

Mountain Bike detail