Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Darpariaeth Ieithyddol
 

 

Polisi Comisiwn Coedwigaeth Cymru (CCC) yw gwneud cymaint ag y bo modd o’r gwaith gweinyddu ar gyfer cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru drwy ein system Grantiau a Thrwyddedau Ar-lein newydd (G&L Online). Defnyddir y system hon gan gynllunwyr rheolaeth a benodir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru i lunio a chyflwyno ar-lein geisiadau Coetiroedd Gwell i Gymru ar ran perchenogion coetir. O dan y contract sydd gan gynllunwyr rheoli â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru ar hyn o bryd, mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen i greu cynllun rheoli Coetiroedd Gwell i Gymru yn cael ei rhoi i mewn i’r system Grantiau a Thrwyddedau Ar-lein yn Saesneg. Ond wrth i’r system hon aeddfedu, ac os yw adnoddau’n caniatáu, byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o gynnig y gwasanaeth hwn gyda’r Gymraeg yn ddewis ychwanegol. 

Cewch dderbyn dogfennau a chyfathrebiadau’n gysylltiedig â chais Coetiroedd Gwell i Gymru yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Ar ôl i chi gyflogi cynlluniwr rheolaeth a gymeradwywyd, bydd angen i chi gytuno â’ch cynlluniwr rheolaeth, cyn i unrhyw waith Coetiroedd Gwell i Gymru ddechrau, a ydych am i’r contract, y trwyddedau, caniatâd a chyfathrebiadau gweinyddol sy’n gysylltiedig â’ch cais fod yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Yna rhaid i’r cynlluniwr rheolaeth hysbysu CCC o’r penderfyniad hwn. Ar ôl i gynllun rheoli a chynllun gweithrediadau terfynol gael eu cymeradwyo gan CCC, a’i lofnodi a’i gytuno gan yr holl bartïon, yna gellir paratoi contract yn y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl y gofyn. Mae’r ffurflenni ar gyfer hawlio grantiau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd gwasanaethau eraill megis trwyddedau cwympo coed a cheisiadau am asesiadau effeithiau amgylcheddol, a ddarperir ar hyn o bryd ar ffurf dogfennau papur yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar gael ar-lein yn y Saesneg, ac yn y Gymraeg os oes digon o alw ac os nad oes angen gwneud llawer o newidiadau i’r system Grantiau a Thrwyddedau Ar-lein i gyflawni hyn.

Mae datblygu gwasanaeth ar-lein llawn yn y Gymraeg yn dibynnu ar y galw am wasanaethau grantiau a thrwyddedau yn gyffredinol yng Nghymru. Gall CCC benderfynu darparu cyhoeddiadau at ddefnydd staff CCC neu gynllunwyr rheolaeth yn y Saesneg yn unig. Y rheswm am hyn yw y bydd dogfennau o’r fath yn tueddu i fod yn dechnegol iawn ac ar gyfer cynulleidfa fechan.

Mae gwefan y Comisiwn Coedwigaeth (www.forestry.gov.uk) yn parhau i ddarparu’r holl wybodaeth ymgynghorol, technegol a chyffredinol sydd ei hangen ar berchenogion coetiroedd a phobl eraill sy’n gysylltiedig â rheoli coetiroedd. Gellir defnyddio’r wefan i gael gwybodaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg am gynlluniau CCC neu gynlluniau ar gyfer y DU gyfan a weithredir yng Nghymru.



to DirectGov