Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Cyfrifio Grantiau Gwella Coetiroedd
 

Datblygwyd Cyfrifydd Grantiau Gwella Coetiroedd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru (CCC) ar y cyd â chynrychiolwyr Asiantau Coedwigaeth Cymru a Choed Cymru.  Mae’r Cyfrifydd GGC i’w ddefnyddio i gyfrifo costau ar gyfer pob cais Grantiau Gwella Coetir i gynllun grantiau Coetiroedd Gwell i Gymru.

O dan hen gynllun Grantiau Coetir, trafodwyd y costau ar gyfer gwaith GGC â Chomisiwn Coedwigaeth Cymru fesul cynllun, gan ei gwneud yn anodd i ymgeiswyr allu rhag-weld faint o grant fyddent yn ei gael. Mae’r drefn newydd o gyfrifo’r gost yn wahanol a bydd yn caniatáu i gynllunwyr rheolaeth gyfrifo’r costau yn ystod proses y cynllun rheoli, yn hyderus y cânt eu cymeradwyo gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Manteision
Mae’r dull o gyfrifo costau GGC:

  • yn cynnig trefn gostio sy’n hawdd ei defnyddio ac yn gyson;
  • yn darparu costau sy’n eglur i bawb o dan sylw;
  • wedi’i gynllunio i fod yn ddigon hyblyg i roi ystyriaeth i’r rhan fwyaf o amrywiadau o ran safle a chnwd;
  • yn lleihau neu’n dileu’r angen i newid cynlluniau gweithrediadau CGG;
  • yn osgoi trafodaethau maith; ac
  • yn caniatáu ar gyfer adolygu costau gweithredu ac, os oes angen, eu diweddaru’n rheolaidd.


Sut i lwytho Cyfrifydd GGC i lawr

Cafodd y Cyfrifwr Grant Gwella Coetir ei ddiweddaru yn ddiwethaf

  • Dylid defnyddio fersiwn newydd y daenlen ar bob cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru sy’n cyrraedd statws Cynllun Rheoli ar neu ar ôl 1 Hydref 2007. Gellir defnyddio’r fersiwn flaenorol ar gynlluniau sydd eisoes wedi cael statws Cynllun Rheoli ar y dyddiad hwn. Mae hyn yn golygu nad oes angen trosglwyddo costiadau yr ydych eisoes wedi’u cyfrifo i’r fersiwn newydd, cyn belled â bod y cynllun wedi cyrraedd y cam Cynllun Rheoli (neu ddiweddarach). Os yw’r trawsnewid rhwng fersiynau yn debygol o achosi problemau i chi ar gynllun penodol, byddwch cystal â chysylltu â’ch Swyddog Coetir i ofyn ei gyngor.

Mae’r Nodiadau Rhyddhau Cyfrifwr GGC yn rhoi rhagor o wybodaeth

Ychwanegwyd Cyfrifwr GGC Coed Cymru ar 17 Mawrth 2008

  • Fe ddosbarthwyd fersiwn newydd o gyfrifwr GGC at ddefnydd Swyddogion Coed Cymru yn unig. Fe fydd yn rhaid i Swyddogion Coed Cymru ddefnyddio’r fersiwn yma ar gyfer pob un o’u hachosion lle mae Coed Cymru yn gweithredu fel asiant. Dylid defnyddio'r fersiwn safonol lle na fydd Coed Cymru yn gweithredu fel asiant. Os fydd unrhyw achos presennol wedi symud ymlaen heibio’r cam o fewnbynnu gweithrediadau yna efallai y bydd yn dderbyniol i barhau heb ail-gyfrifo costau gweithredol. Mae’n rhaid i hyn gael ei drafod a chytuno gyda’r Swyddog Coetir.
  1. I redeg y cyfrifydd bydd angen arnoch chi MS Office Excel™ wedi’i osod ar eich Cyfrifiadur Personol. Mae cyfrifydd GGC ar ffurf taenlen a ddyluniwyd i redeg ar y pecyn meddalwedd hwn yn unig. Darllenwch y nodiadau ar y dudalen hon cyn defnyddio’r cyfrifydd costau.
  2. Llwythwch yr hen Gyfrifwr GGC i lawr gan ddefnyddio’r cyswllt hwn. (Taenlen MS Office Excel™ ) 
    Llwythwch y Cyfrifwr GGC newydd i lawr gan ddefnyddio’r cyswllt hwn. (Taenlen MS Office Excel™ ) 
  3. Cliciwch ar fotwm dde’r cyswllt a dewis "save target as" i lwytho i lawr y daenlen i’ch cyfrifiadur.
  4. Gwelwch GOH 06 How to use the WIG Calculator* am arweiniad pellach. *(Adobe Acrobat™ PDF - 4231k)


Dechrau arni – defnyddio Cyfrifydd GGC
Pan fyddwch chi wedi agor cyfrifydd GGC fe sylwch y darperir blychau cwympo i arwain cynllunwyr rheolaeth trwy’r broses o fewngofnodi data. Wedi cwblhau hyn, dangosir y gost safonol gytunedig ar gyfer y gwaith penodol hwnnw.  Bydd y cyfrifydd yn rhoi crynodeb o bob gweithrediad a brisiwyd, a gallwch ludo hwn i mewn i’r cynllun rheoli i fod yn sail y disgrifiad gweithrediadol gyda’r Cynllun Rheoli.

Mae gan gyfrifydd GGC ystod o gostau safonol ar gyfer gwahanol weithrediadau a manylebau.  Bydd yn ofynnol i gynllunwyr rheolaeth gytuno rhai manylion sylfaenol ynghylch safle a chnwd â’u swyddog coetir lleol cyn prisio gweithrediadau. Y wybodaeth gytunedig wedyn fydd sail y costiadau.  Bydd y swyddog coetir yn gwirio ac yn cadarnhau’r wybodaeth sylfaenol, yn hytrach na chost y gweithrediad unigol.

Caiff y cymorth grant sydd ar gael ei ddiffinio gan y fanyleb waith a gytunir yn ystod y camau cynnar â’r swyddog coetir ac o’r herwydd ni fydd modd ei negodi.  Os bydd y fanyleb waith yn newid ac felly’r costau cysylltiedig (ar ôl i’r contractau gael eu llunio) rhaid fydd i unrhyw newidiadau mae eu hangen gael eu gwneud trwy’r weithdrefn ddiwygio ffurfiol a esbonnir isod.

Defnyddiau’r Cyfrifydd GGC
Gall cynllunwyr rheolaeth a pherchnogion ddefnyddio cyfrifydd GGC i amcangyfrif  goblygiadau ariannol gwahanol ddewisiadau, er enghraifft mae’r cyfrifydd cynaeafu’n caniatáu i gynllunwyr rheolaeth gymharu gwahanol ddulliau o weithio ar yr un safle.  Er enghraifft cymharu tynnu coed allan yn ôl y dull blaenaru â’r dull llusgo

Yn yr un modd bydd y ddalen rheoli llystyfiant yn rhoi cyfle i gymharu cost ‘cemegyn 1’ wedi’i daenu trwy chwistrellydd sach gefn â chost taenu ‘cemegyn 2’ trwy beiriant.  Fodd bynnag, rhoddwyd amddiffyniadau yn y cyfrifydd i sicrhau na ellir ei ddefnyddio i ddewis gweithrediadau sy’n denu’r cymorth grant mwyaf.

Gofyn am ddiwygiadau costio
Os bydd angen diwygio gweithrediadau gwaith cytunedig ar ôl i’r cynllun rheoli gael ei gymeradwyo, bydd angen diwygiad ffurfiol. Ailgostir y gweithrediadau gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Gyfrifydd GGC a gyhoeddir ar wefan CCC.

Adolygiadau o Brisiau
Cynlluniwyd y Cyfrifydd GGC fel bod modd gwneud adolygiad o dro i dro o’r costau er mwyn eu cadw’n gyfoes. Disgwylir y caiff adolygiadau eu cynnal yn flynyddol a byddant yn cynnwys staff CCC, cynllunwyr rheoli ac asiantau. Caiff y fersiynau diweddaraf eu rhoi ar wefan CCC cyn gynted ag y byddant ar gael.
Os ydych chi’n defnyddio Cyfrifydd GGC yn rheolaidd, edrychwch ar y wefan i sicrhau eich bod yn defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf

Os oes gennych unrhyw adborth ynghylch y costau a nodir y teimlwch y gallent fod yn anghywir, neu sylwadau cyffredinol yr hoffech eu gwneud y teimlwch y byddent efallai’n ddefnyddiol, yna cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost canlynol: wig.costings@forestry.gsi.gov.uk

  • Dylid defnyddio fersiwn newydd y daenlen ar bob cynllun Coetiroedd Gwell i Gymru sy’n cyrraedd statws Cynllun Rheoli ar neu ar ôl 1 Hydref 2007. Gellir defnyddio’r fersiwn flaenorol ar gynlluniau sydd eisoes wedi cael statws Cynllun Rheoli ar y dyddiad hwn. Mae hyn yn golygu nad oes angen trosglwyddo costiadau yr ydych eisoes wedi’u cyfrifo i’r fersiwn newydd, cyn belled â bod y cynllun wedi cyrraedd y cam Cynllun Rheoli (neu ddiweddarach). Os yw’r trawsnewid rhwng fersiynau yn debygol o achosi problemau i chi ar gynllun penodol, byddwch cystal â chysylltu â’ch Swyddog Coetir i ofyn ei gyngor.– 29 Hydref 2007.


  • to DirectGov