|
Grant Gwella Coetiroedd – Coedwriaeth Amgylcheddol
Mae Grant Gwella Coetir CGG ar gael er mwyn cefnogi amrywiaeth o waith coetir a fwriadwyd i ddarparu gwaith amgylcheddol a masnachol. Mae graddfeydd grantiau ar gael yn cynnig 25%, 50% neu 75% tuag at gostau cynnal gwaith o’r math hwn yn ôl lleoliad y gwaith a’r math o waith sydd i’w wneud. Mae’r daenlen ar waelod y dudalen hon yn rhoi manylion graddau’r grant canrannol sydd ar gael ar gyfer amrywiol weithgareddau. Mae’r gwaith amgylcheddol a masnachol canlynol yn gymwys i dderbyn grant gwella coetir: - Gwaith isadeiledd yn cynnwys adeiladu ffyrdd, llwybrau, mannau prosesu a mannau trosglwyddo.
- Gwaith cynaeafu yn cynnwys teneuo aneconomaidd a chwymp-glirio a chlirio coed a gwympwyd gan wynt.
- Gweithio i sicrhau adfywiad naturiol, fel ysgraffinio, casglu hadau, hadu uniongyrchol, plannu o dan goed neu blannu mewn bylchau.
- Rheoli rhywogaethau ymyrrol neu estron.
- Isadeiledd rheoli ceirw.
- Rheoli gwiwerod.
- Ffensio ffiniau gan gynnwys ffensio rhag da byw neu atgyweirio ffiniau traddodiadol.
- Gwaith ôl sefydlu gan gynnwys gwaredu cysgodfeydd coed, clirio ac ail-fylchu, malurio a thocio.
- Gwaith Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (CGB), er enghraifft gwaith yn ymwneud â rhywogaethau CGB lle bo arolwg ecolegol wedi nodi bod angen cynnal gwaith cyffelyb.
- Diogelu nodweddion archeolegol.
- Gwaith y mae angen ei wneud er mwyn dod â choetiroedd i fyny i’r safonau amgylcheddol cyfredol, fel gwaith ar lannau afonydd neu ar y dirwedd.
Gwneud cais Mae angen cwblhau cynllun rheoli a chynllun gweithrediadau a’u cymeradwyo gan CCC a pherchennog y coetir ar gyfer pob cais am grantiau CGG cyn y gellir hawlio grant a’i dalu. Mae’r cynllun rheoli yn nodi gwaith grant sy’n derbyn cymorth a’r flwyddyn y mae’n rhaid gwneud y cais. Ni allwch ond gyflwyno cais am grant ar ôl cwblhau’r gwaith. Ariannu o ffynonellau eraill Os ydych yn bwriadu cael arian oddi wrth gyfundrefnau neu bartneriaid eraill ar gyfer eich gwaith arfaethedig yna mae’n rhaid i chi ddweud wrthym ynglŷn â hyn. Bydd arnom angen manylion rôl y partner(iaid) sydd yn eich ariannu yn eich prosiect, a faint o arian neu gymorth arall y byddant yn eu cynnig.
|
Tudalennau cysylltiedig
|
 |
 |