Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  


Grantiau ailblannu
 

Mae grantiau ailblannu ar gael o dan gynllun Gwell Coetiroedd i Gymru. Mae manylion llawn am y graddfeydd wedi eu rhestru yn y ddogfen ar waelod y dudalen hon.

Grantiau Ailblannu Safonol

Dewis ailblannuMeini prawf sylfaenol

 Graddfa fesul  hectar

Cnydau safonolDim cyfyngiadau ar rywogaeth ond eu bod yn addas ar gyfer y safle.  2,500 coesyn fesul  hectar, ar gyfartaledd ar gyfer plannu’n llai dwys.

£500

Cymysgedd syml Ni all rhywogaeth sengl gymryd mwy na 75% o’r ailblannu yn ei gyfanrwydd.  Rhaid i o leiaf 25%, neu fwy, o’r cyfanswm sy’n cael ei ailblannu gynnwys rhywogaeth llydanddail. Rhaid i o leiaf 3 rhywogaeth gael eu hail plannu a rhaid i o leiaf 10% o bob un o’r 3 rhywogaeth hyn gael eu plannu. 
2500 coesyn i’w plannu fesul hectar er mwyn cyrraedd graddfa lawn y grant.

£1000

Cymysgedd o ansawdd Wedi’u cyfyngu i safleoedd agored. O leiaf 25% llydanddail.

 £1500

Coetiroedd cynhenidRhywogaethau cynhenid lleol addas, wedi eu plannu mewn cymunedau sy’n cyfateb i fathau coetiroedd cynhenid y Cynllun Gweithredu Cynefin.   1600 coesyn fesul hectar.  Dosbarthu’r coed yn glystyrau ac ar bellter amrywiol oddi wrth ei gilydd.

£1000

Coetiroedd cynhenid ardaloedd sensitif

Yr un ag yn yr achos uchod ond o dan goetiroedd cynhenid mewn ardaloedd sensitif (wedi’u dynodi o ran amgylchedd neu dirwedd).

£1500


Planhigfeydd ar Safleoedd Hen Goetiroedd (PSHG)
Mae cyfuniadau o grantiau GGC ac ailblannu ar gael ar gyfer rheoli Planhigfeydd ar Safleoedd Hen Goetiroedd (PSHG).

Cynhelir asesiad PSHG ar bob un o safleoedd PSHG yn nhir y cynllun wedi’i seilio ar eich arweiniad chi.   Rhaid i chi fodloni rhai gofynion seiliedig ar Adran Safonol 6.4.2. SCSCDU er mwyn cynnal gwerth amgylcheddol y safle ond byddwn yn disgwyl gweld gwerth amgylcheddol y safle yn ei gyfanrwydd yn gwella’n gyfan gwbl.

Os rhoddwn ganiatâd i gwympo coed oddi mewn i’r safle PSHG (cyhyd â na fydd hyn yn gostwng gwerth y safle), mae pedwar categori o grantiau cymorth ar gyfer ailblannu.

Dewis rheoli ac adfer

Graddfa fesul  hectar

Cynnal PHSG

£500

Rhannol > 25% o adferiad

£1000

Rhannol > 50% o adferiad

£1500

Adferiad llawn i hyd at 100% o goetir cynhenid

£1500 1

Adferiad llawn i hyd at 100% o goetir cynhenid

£2000 2

1 Lle na chynhaliwyd asesiad PSHG cyn cwympo coed neu lle cwympwyd coed mewn ffordd sy’n niweidio natur sensitif y safle.
2 Lle bo’r asesiad PSHG a gynhaliwyd cyn cwympo coed wedi nodi mai cwymp-glirio yw’r ffordd fwyaf briodol i adfer.

  • Sylwer bod amodau penodol yn berthnasol i bob dewis PSHG.

Tir Agored
Gellir cynnwys darnau bychain o dir agored heb eu mapio yn eich cais nad ydynt yn fwy na 20% o’r mesur sy’n derbyn cymorth grant.  Nid yw darnau mwy o dir agored sy’n fwy na 0.25 hectar yn gymwys ar gyfer grant ailblannu; fodd bynnag efallai y gallech gynnig am Grant Gwella Coetiroedd ar gyfer y math hwn o waith.



to DirectGov