Gwell Coetiroedd i Gymru Cwynion ac Anghydfod
Rydym wedi llunio trefn benodol ar gyfer ymdrin â chwynion ac anghydfod sy’n perthyn i gynllun Coetiroedd Gwell i Gymru (CGG) fel yr esbonnir yn fanwl yn y dogfennau isod:
BR03 Arweiniad i Drefn Gwyno CGG (Adobe Acrobat™ PDF - 68k) BR04 Arweiniad i Drefn Anghydfod CGG (Adobe Acrobat™ PDF - 107k)
Y bwriad yw defnyddio’r drefn hon i ymdrin â sefyllfaoedd a all godi os bydd parti yn teimlo bod perfformiad unigolyn yn is na’r safon ddiffiniedig, neu’n achosi problemau sylweddol, materion difrifol neu faterion parhaol na welir eu bod yn cael eu datrys. Fel arfer, byddem yn disgwyl i’r drefn hon ymdrin â chwynion o’r math canlynol: - Lle nad yw un ochr wedi rhoi gwybod i ochr arall am faterion sy’n effeithio ar eu cysylltiad â CGG.
- Efallai bod parti wedi datgelu gwybodaeth breifat neu gyfrinachol am barti arall.
- Lle bo’n amlwg nad yw parti yn gymwys i ymgymryd â gwaith.
- Lle bo parti wedi bod yn hwyr yn cyflawni gwasanaeth.
Ni fwriedir i drefn gwyno CGG gael ei defnyddio at fân gwynion. I gychwyn, gobeithiwn y byddwch yn trafod unrhyw gŵyn neu bryder sydd gennych â’ch swyddfa warchodaeth leol, yna gallwn benderfynu a ddylid ymdrin â’ch cwyn yn unol â chanllawiau trefn CGG neu drwy ein gweithdrefnau cwynion ac apeliadau eraill. Wrth ymdrin â phob cwyn ac anghydfod, rydym yn bwriadu sicrhau tegwch a thryloywder bob amser. Os oes gennych gŵyn am unrhyw gynllun grant arall, trwyddedau cwympo coed neu weithdrefnau asesu effaith amgylcheddol, yna darllenwch y cyngor a geir ar dudalen gweithdrefnau cwynion ac apeliadau eraill.
|