Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Hawliau Digwyddiad
 

Carriage driving in Dyfnant Forest. Coed y Gororau FD

Os hoffech gynnal digwyddiad yng nghoetiroedd y Cynulliad mae'n rhaid derbyn caniatâd oddi wrthym.

Cofiwch fod ein coedwigoedd yn goetiroedd gweithiol, ac yn cael eu defnyddio gan nifer o grwpiau gwahanol. Felly nid ydyw bob amser yn bosibl i roi caniatâd i gynnal digwyddiad edrychwch am y rhanbarth goedwig berthnasol.

Fedrwch wneud cais am ganiatâd digwyddiad o'r rhanbarth goedwig berthnasol. Darllenwch y nodiadau isod yna

  • Os ydych yn trefnu digwyddiad mewn un o'n coedwigoedd gwnewch eich ymholiad mor gynted â phosibl.
    Dydi 8 i 12 mis o flaenllaw o'r digwyddiad ddim yn rhy gynnar.
  • Mae'n cymryd 6 wythnos i brosesu caniatâd yn gyflawn, felly os fyddwch yn gwneud cais o fewn graddfa amser byrrach, mae'n annhebygol y byddwn yn medru eich helpu.
  • Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y digwyddiad.
  • Byddwch yn barod i roi manylion llawn eich digwyddiad gan gynnwys y nifer disgwyliedig o ymgeiswyr a gwylwyr, asesiad risg, cynllun argyfwng, pris yswiriant, manylion cysylltu ag yn y blaen.
  • Eich cyfrifoldeb chi fydd cysylltu â defnyddwyr eraill y goedwig i'w rhybuddio ynglŷn â'r digwyddiad a hynny o fewn amser penodol ( fyddwch yn derbyn rhestr o'r manylion cysylltu perthnasol). Efallai fydd yn rhaid i chi gael caniatâd, er enghraifft, oddi wrth yr heddlu lleol neu'r awdurdod priffyrdd.
  • Byddwch yn gyfrifol am glirio'r safle o fewn wythnos o gynnal y  digwyddiad.

Os oes arnoch eisiau mwy o wybodaeth am Hawliau Digwyddiad, neu os hoffech roi sylwadau, anfonwch e-bost atom fcwales@forestry.gsi.gov.uk 

 

Tudalennau cysylltiedig


to DirectGov