Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
  •  
  • Rhaglen Ffermydd Gwynt yr Ystad Goedwig Genedlaethol
  •  


Rhaglen Ffermydd Gwynt yr Ystad Goedwig Genedlaethol
 

WIND TURBINESMae rhaglen Ffermydd Gwynt Ystâd Goedwig Genedlaethol wedi ei sefydlu i reoli'r broses o dendro a datblygu ffermydd gwynt yng nghoetiroedd y Cynulliad.

Fydd y rhaglen yn gweithredu drwy 2 gam ar wahân:


Cam 1
- Fe fydd proses tendro am 'Opsiwn i Ddatblygu' ffermydd gwynt yng nghoetiroedd y Cynulliad o fewn pob un o'r  Ardaloedd Chwilio Strategol yn cael ei gynnal.



Mae cam cyn-gymhwyso wedi ei gynnwys yn y broses.
Hysbyseb am yr Holiadur Cyn-Gymhwyso (pdf, 13kb, 2 tud)
Holiadur Cyn-Gymhwyso (pdf, 66kb, 20 tud)

Mae'r cyn-gymhwyso nawr wedi ei gwblhau ac mae cwmniau a rhoddwyd ar y rhestr fer wedi cael Gwahoddiad i Dendro.

Ar ddiwedd y cam yma fe fydd y cwmni llwyddiannus yn cael y cynnig o'r unig opsiwn i ddatblygu ffermydd gwynt ar goetiroedd y Cynulliad a hynny o fewn yr Ardaloedd Chwilio Strategol unigol.

Mae'n bwysig sylwi nad ydyw'r tendrau yma, eu hunain, yn sicrhad fod unrhyw ffermydd gwynt yn cael eu hadeiladu. Mae'r penderfyniadau yma yn faterion i'r gyfundrefn cynllunio'n unig.

Er mwyn galluogi’r rhai cyfrannog I ddeall sut daethom i’r penderfyniadau ar ôl yr Holiadur Cyn-Gymhwyso i’r cynllun, ‘rydym wedi casglu’r dogfennau perthnasol mewn i Becyn Gwybodaeth o’r Datblygiad.

Cam 2 - Y datblygwr fydd yn gyfrifol am gyflwyno ceisiadau cynllunio i adeiladu ffermydd gwynt ar y safleoedd yma a datblygiad pob safle. Ni fydd CC Cymru yn ymhél a'r ceisiadau yma, ar wahân i ddarparu unrhyw wybodaeth berthnasol yn unol â chais gan y datblygwr fel rhan o'r broses cynllunio.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am dîm Rhaglen Ffermydd Gwynt yr Ystad Goedwig Genedlaethol neu os hoffech gynnig sylwadau ar ei waith, byddwch cystal ag anfon e-bost i ni yn fcwales@forestry.gsi.gov.uk



to DirectGov