Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru
Environmental Impact Assessment

Asesiad Effaith Amgylcheddol

Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gweinyddu Rheoliadau Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol  (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithgareddau pedwar “prosiect coedwigaeth". Sef:

  • Coedwigo - creu coetiroedd a choedwigoedd newydd
  • Datgoedwigo - cwympo coed i addasu'r tir ar gyfer defnydd arall
  • Ffyrdd y Goedwig - y ffurfiant,  newid neu waith cynnal a chadw o ffyrdd a llwybrau'r goedwig
  • Gwaith Chwarel y Goedwig - gweithrediadau i gael defnyddiau sydd eu hangen ar gyfer gwaith ar ffyrdd y goedwig

Cael ein barn ni am y cynnig
Yn ôl y rheoliadau hyn, mae’n rhaid i ni ystyried a fydd y gwaith a fwriedir ar gyfer unrhyw un o’r prosiectau hyn, sydd ag arwynebedd yn fwy na’r trothwy a nodir yn y rheoliadau, yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd. Os mai dyma fydd yr achos, rhaid i’r cynigydd wneud cais am gydsyniad i wneud y gwaith. Rhaid i’r cais am gydsyniad gynnwys Datganiad Amgylcheddol.

Os yw arwynebedd eich prosiect yn fwy na’r trothwy rheoliadol, gallwch gael ein Barn ynghylch a oes angen ein cydsyniad trwy ddefnyddio’r ffurflen Penderfyniad. Ar y llaw arall, os byddwch yn gwneud cais am grant neu drwydded i gwympo coed byddwn yn gwneud y penderfyniad yn awtomatig bryd hynny ar sail y wybodaeth honno.


Cosbau

Os byddwch yn gwneud gwaith a fyddai wedi bod angen ein cydsyniad neu eich bod wedi torri amodau cydsyniad blaenorol a roddwyd, yna gallwn roi Rhybudd Gorfodi a all ofyn i chi wneud gwaith cywirol. Os na fyddwch yn gweithredu telerau’r Rhybudd Gorfodi, yna o dan Reoliadau Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, gall y byddwch yn euog o drosedd.