Cwynion ac Apeliadau
Rydym wedi sefydlu proses benodol ar gyfer cwynion ac anghydfodau sy’n gysylltiedig â chynllun Coetiroedd Gwell i Gymru (CGG), sy’n cael ei hesbonio ar y dudalen Cwynion ac Anghydfodau CGG. Ein dull cyffredinol o ddatrys cwynion ac anghydfodau - Rydym yn cymryd pob cwyn o ddifrif a gwnawn bob ymdrech i ddatrys materion yn lleol er boddhad pawb.
- Ceisiwn ddatrys anghydfod gan ddefnyddio’n gweithdrefn gwyno fewnol.
- Os oes gennych gontract ar gyfer cynllun grant, ac ni allwn ddatrys y mater yn fewnol, mae’n bosibl y bydd Telerau ac Amodau’r cynllun grant yn cynnig i chi’r hawl i gyflafareddiad gan drydydd parti.
- Yn achos anghytundebau rhwng mudiadau ac awdurdodau lleol rydym yn ymgynghori â nhw ynghylch ceisiadau am grantiau a thrwyddedau cwympo coed, ceir proses ffurfiol lle bydd pwyllgor annibynnol (y Pwyllgor Ymgynghorol Rhanbarthol) yn archwilio’r materion ac yn rhoi adroddiad i’r Comisiynwyr Coedwigaeth a fydd yna’n dod i benderfyniad terfynol.
- Mae apêl yn broses fwy ffurfiol a ddefnyddir pan gyrhaeddir terfyn ein gweithdrefn gwyno fewnol. Fe’i llywodraethir gan ddeddfwriaeth sy’n pennu at bwy y gallwch apelio, pryd ac o dan ba amgylchiadau. Mae apêl bob amser yn cynnwys ymyrraeth gan gyflafareddwr trydydd parti er mwyn cyrraedd ateb.
Sut mae cwyno Os oes gennych gŵyn, dyma’r camau i’w dilyn. Cam 1 I gychwyn, rydym yn delio â’r holl gwynion sy’n ymwneud ag Asesiadau Effaith Amgylcheddol, grantiau a thrwyddedau cwympo coed a’ch pwynt cyswllt cyntaf bob amser fydd cysylltu â Swyddfa Ardal Gogledd Cymru sy’n delio â phob cais am grant neu drwydded. Gwnânt y cwbl sydd o fewn eu gallu i ddatrys eich cwyn. Os oes angen, byddant yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r Rheolwr Gweithrediadau neu’r Pennaeth Grantiau a Thrwyddedau yng Nghymru. Cam 2 Yn anffodus, os na fydd y Pennaeth Grantiau a Thrwyddedau yn gallu datrys eich cwyn, gallwch ysgrifennu at Gyfarwyddwr Cymru Comisiwn Coedwigaeth Cymru gan nodi’r materion y dymunwch eu codi. Cam 3 Os bydd eich cwyn heb ei datrys o hyd yn dilyn cam 2, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd anweithredol priodol. Mae Comisiynwyr yn unigolion diduedd sy’n deillio o gefndiroedd amrywiol er mwyn dod â chydbwysedd o ran diddordebau ac arbenigedd i’r Bwrdd Comisiynwr. Os dymunwch i’ch achos gael ei roi gerbron y Comisiynwyr, ysgrifennwch i’r cyfeiriad a nodir isod, gan nodi’n glir y rhesymau dros eich cwyn, gan ofyn bod y gŵyn yn cael ei throsglwyddo i’r Comisiynydd priodol. Cewch gydnabyddiaeth, ac yna byddwch yn cael ymateb llawn cyn pen 4 wythnos. Cewch eich hysbysu os bydd angen mwy o amser i ymchwilio i’ch cwyn yn llawn. The Secretary to the Commissioners Forestry Commission 231 Corstorphine Road Edinburgh EH12 7AT. Sut mae apelio Ym mhob achos dylech droi at ein gweithdrefn gwyno yn y lle cyntaf os nad ydych yn fodlon ar benderfyniad a wnaed gennym. Ni ddylech ystyried apelio nes cyrraedd terfyn ein gweithdrefn gwyno fewnol. Os ydych yn dymuno apelio, defnyddiwch y tabl o’r ddolen isod. Bydd hwn yn esbonio’r hyn y mae angen i chi ei wneud. Mae’n cwmpasu deddfwriaeth sy’n llywodraethu’r math o apêl, ac o dan ba amgylchiadau y gallwch apelio. Er enghraifft, mae amodau’n berthnasol i’r cyfnod y gallwch apelio ynddo, at bwy y gallwch apelio ac ar ba sail.
Y Drefn Apelio (91k - pdf)
|