|
Safon Goedwigaeth y DU
Safon Goedwigaeth y DU yw’r safon bwysicaf sy’n berthnasol i goedwigaeth yn y DU. Mae’r ddogfen hon yn gosod meini prawf a safonau y Safon Goedwigaeth ar gyfer rheoli coetiroedd cynaliadwy. Mae’r Safon hon, a gynhyrchwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth, yn gymwys i’n HOLL gynlluniau grant a thrwyddedau cwympo coed. Mae’r Safonau a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1998, ar gael bellach ar ffurf ail argraffiad sydd wedi’i ddiweddaru. Mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys newidiadau sydd wedi digwydd mewn trefn lywodraethol a gweinyddiaeth ar sail ryngwladol ac yn y DU, a’r newidiadau a ddigwyddodd mewn rheoliadau sy’n effeithio ar goedwigaeth. Cynhwysir hefyd yn y cyhoeddiad ddangosyddion o reoli coedwigaeth yn gynaliadwy a ddeilliodd o ymgynghori â rhanddeiliaid. Ychydig o newid sydd i’n harweiniad am arferion coedwigaeth, er y gwahaniaethau strategol mewn polisi coedwigaeth sy’n berthnasol i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r cefndir i’r newidiadau mewn arferion coedwigaeth yn hysbys yn gyffredinol ac ni ddylent beri syndod. Er enghraifft: - Llai o le rhwng coed i gychwyn lle rheolir coed ar gyfer cynhyrchu pren, er mwyn gwella’r cyfle am bren o ansawdd gwell.
- Mae clirio coedwigoedd - sy’n ddarostyngedig i’r rheoliadau newydd ar asesiad o’r effaith amgylcheddol - ambell waith yn fuddiol iawn o ran datblygiad cynaliadwy. Yn ystod y blynyddoedd diweddaraf mae’r math hyn o glirio coedwigoedd wedi caniatáu adfer rhai cynefinoedd tir agored prin a phwysig fel corsydd mawn a rhosydd iseldirol.
Mae’r newidiadau eraill yn rhai golygyddol yn bennaf a gobeithiwn y byddant yn gwneud y Safon Goedwigaeth yn haws i’w darllen. Pris y cyhoeddiad yw £7.50, fodd bynnag, gellir ei llwytho i lawr am ddim o wefan y Comisiwn Coedwigaeth yn: www.forestry.gov.uk/publications
|
Beth sydd o ddiddordeb
|
 |
 |